Dwyieithrwydd a heneiddio
Mae llawer o bobl h欧n yn cadw'n heini'n feddyliol ac yn mwynhau gwneud croeseiriau a gemau i 'hyfforddi'r ymennydd' yn ystod eu hamser hamdden. Ond hyd yma, mae'r wyddoniaeth am eu heffeithiolrwydd yn rhannol ac amhendant.
Maes arall nad ydym yn ei ddeall yn iawn ac sydd hefyd wedi arwain at wahanol ganlyniadau, yw'r cwestiwn a yw bod yn ddwyieithog yn ffactor amddiffynnol mewn cyflyrau cysylltiedig ag oed fel clefyd Alzheimer.
Arweiniwyd astudiaeth ar raddfa fechan am siaradwyr Cymraeg/Saesneg gan y Cyngor Economaidd ac Ymchwil Gymdeithasol, dan arweiniad yr Athro Linda Clare yn Ysgol Seicoleg Prifysgol 亚洲色吧. Ar ddechrau'r astudiaeth hon nid oedd unrhyw dystiolaeth ar gael am effeithiau dwyieithrwydd mewn siaradwyr Cymraeg h欧n. Mae'r astudiaeth wedi ei chwblhau erbyn hyn ac ni chafwyd tystiolaeth bod Clefyd Alzheimer yn datblygu'n hwyrach mewn siaradwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg i'r hyn a welwyd ym Montreal, Canada sef nad oedd bod yn ddwyieithog yn fantais mewn pobl ddwyieithog nad ydynt yn fewnfudwyr.
Awgryma ymchwilwyr mai un eglurhad yw lle bod pobl wedi tyfu i fyny yn siarad dwy iaith mewn cymuned ddwyieithog, gall defnyddio'r ieithoedd yr un pryd fod yn broses awtomatig a diymdrech i bobl sydd wedi bod yn ddwyieithog drwy gydol eu hoes. Felly nid yw'n ddigon 'heriol yn feddyliol', o gymharu 芒'r gweithgarwch meddyliol sydd ei angen gan bobl ddwyieithog sydd wedi dod yn rhugl mewn ail iaith yn hwyrach yn eu bywydau.
"Gall hyn olygu bod dwyieithrwydd yn llai tebygol o roi gwytnwch wrth wynebu amhariad gwybyddol," awgryma'r Athro Linda Clare.
Ychwanegodd yr Athro Clare:
Gall datblygiadau mewn gwyddoniaeth fod yn rhywbeth tameidiog ac araf - rydym yn clywed am ddarganfyddiadau, ond gyda phob darganfyddiad mae cwestiynau ymchwil eraill sy'n llai dramatig o ran canlyniadau ond yr un mor bwysig. Ar 么l cwblhau'r astudiaeth fechan hon, gall y wybodaeth a gafwyd arwain y ffordd i ni ac eraill i fireinio neu ehangu'r ymchwil i weld a allwn ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd, a gwella ein dealltwriaeth."
Mae papur ymchwil ar y canfyddiadau ar gael yn y Journal of Neuropsychology (doi JNP.14.0044R1 ) "" Linda Clare; Christopher J Whitaker; Fergus I M Craik; Ellen Bialystok; Anthony Martyr; Pamela J Martin-Forbes; Alexandra J M Bastable; Kirstie L Pye; Catherine Quinn; Enlli M Thomas; Virginia C Mueller Gathercole; John V Hindle.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2014