Dunn-a gamp! Emily yn llwyddo yn Awstralia
Mae myfyrwraig o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É bellach yn rhif 24 yn y byd yn dilyn ei llwyddiant yn ras yr UCI Gran Fondo World Championships yn Awstralia y mis diwethaf – a hithau ond yn beicio ers 2013.
Lwyddodd Emily Louise Dunn, 22 o Ddyfnaint a myfyrwraig ôl-radd yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarferol, i hawlio’i lle yn y ras yn dilyn cwblhau ras y Tour of Cambridgeshire Gran Fondo ym mis Mehefin. Ar ôl iddi gwblhau’r ras honno ymhlith 25% uchaf ei chategori oed, cafodd Emily ei gwahodd i gymryd rhan yn y pencampwriaethau byd yn ninas Perth, Awstralia, ym mis Medi eleni.
Roedd ras y pencampwriaethau byd yn seiliedig ar lwybr 105km a oedd yn cynnwys 4000 troedfedd o esgyn, gan olygu ei bod yn her aruthrol i’r corff ac i’r meddwl. Yn ogystal â hyn, Emily oedd ymgeisydd ieuengaf categori’r Merched 19-34 oed ac roedd yn rasio yn erbyn rhai o feicwyr amatur gorau’r byd. Ar ôl cwblhau’r ras mewn 3:40:17, mae Emily wedi sicrhau safle 24 yn y byd yn rhestr amatur y Gran Fondo.
Gan edrych yn ôl y profiad, meddai Emily:
‘Roedd yr UCI Gran Fondo World Championships yn anhygoel. Roedd dros ddeugain o wledydd wedi eu cynrychioli yno, mewn nifer o gategorïau gwahanol ac roedd y ras ei hun yn heriol dros ben. Roedd cael y cyfle i rasio yn erbyn amaturiaid gorau’r byd yn brofiad bythgofiadwy.’
Mae Emily bellach yn ôl ym Mangor ac wedi dechrau ar radd MRes ym maes pibellau gwaed iachus ac mae’n dderbynydd ysgoloriaeth Women in Science Athena Swan.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016