Dunn-a gamp! Emily ar ei ffordd i Bencampwriaethau’r Byd yn Awstralia
Bydd myfyrwraig o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynrychioli Prydain mewn ras feicio fawr yn Awstralia ym mis Medi, yn dilyn perfformiad nodedig yn ras y Tour of Cambridgeshire Gran Fondo ym mis Mehefin eleni.
Cymerodd Emily Louise Dunn, o Ddyfnaint ac sy’n fyfyrwraig ôl-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, ran yn y ras amatur 130km a gorffen ymhlith 25% uchaf ei chategori. Roedd hynny’n ddigon i sicrhau lle iddi yn ras yr UCI Gran Fondo World Championships, sydd yn cael chynnal yn ninas Perth yn Awstralia eleni.
 hithau ond wedi dechrau ymhél â beicio yn 2013, er mwyn cyflawni her bersonol y cymerodd Emily, sy’n 22 oed, ran yn y Tour of Cambridgeshire. Yn hannu o deulu sy’n angerddol dros chwaraeon, pêl-fasged yw prif gamp Emily a bu’n capteinio tîm Pêl-fasged Merched y Brifysgol ers dwy flynedd gan ennill gwobr Campwraig y Flwyddyn 2015-16 gan yr Undeb Athletau. Yn ogystal â’i doniau ym myd y campau, eleni mae Emily wedi ennill gradd dosbarth 1af mewn Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer a bydd yn dechrau ar radd MRes mewn Cardiovascular Physiology yma ym Mangor yn 2016-17.
Gyda chwaraeon yn gymaint o ddylanwad ar ei bywyd, yn ôl Emily roedd dewis dod i astudio ym Mangor yn benderfyniad hawdd:
‘Â minnau o gefn gwlad Dyfnaint ac wedi tyfu fyny yn chwarae allan yn yr awyr agored, roedd ÑÇÖÞÉ«°É yn ddewis naturiol i mi. Mi ddes i yma ar gyfer Diwrnod Agored a mopio’n lân efo’r lleoliad ac enw da yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer – roedd yr awyrgylch mor groesawgar, doedd gen i fawr o ddewis ond dod yma!’
Bydd yr UCI Gran Fondo World Championships yn cael eu cynnal yn Perth, Awstralia rhwng 1 a 4 Medi 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016