Dull gwell o adrodd am ymchwil a fydd yn gwella gofal cleifion
Gallai cleifion gael gofal a chanlyniadau gwell yn sgil canllawiau newydd ar adrodd am ymchwil a ddatblygwyd o astudiaeth a gyfrannodd ymchwilwyr o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ati.
Mae arbenigwyr wedi datblygu dull sy'n hwyluso’r broses o adrodd am ganfyddiadau gwahanol astudiaethau ansoddol megis gwybodaeth a gasglwyd o gyfweliadau â chleifion a grwpiau ffocws.
Mae'r astudiaeth wedi arwain at lunio’r canllawiau cyntaf wedi’u teilwra ar gyfer adrodd ar y fethodoleg hon, a elwir yn feta-ethnograffeg. Bydd yn rhoi mwy o hyder i ymchwilwyr a phenaethiaid gofal iechyd yng nghanfyddiadau astudiaethau ansoddol ac, yn y pen draw, yn helpu i wella gofal cleifion a gwasanaethau.
Cyfrannodd yr Athro Jane Noyes, o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, at yr astudiaeth a gyhoeddwyd mewn pum cyfnodolyn.
"Mae'r canllawiau hyn wedi'u llunio i helpu ymchwilwyr i gynnig gwell adlewyrchiad o farn a phrofiadau cleifion, gofalwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill wrth greu synthesis o astudiaethau ansoddol. Gall dod â safbwyntiau a phrofiadau'r bobl yma ynghyd helpu'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau i wneud penderfyniadau mwy gwybodus. Gallai cleifion elwa ar well gofal a chanlyniadau yn sgil y canllawiau newydd ar adrodd am ymchwil."
Ariennir yr astudiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Iechyd (NIHR) ac mae'n cynnwys nifer o bartneriaid, gan gynnwys prifysgolion ÑÇÖÞÉ«°É, Caerdydd, Caeredin, Napier a Stirling.
Mae meta-ethnograffeg - a ddatblygwyd gan y cymdeithasegwyr George W Noblit a R Dwight Hare yn 1988 - yn golygu cymharu data cysyniadol o astudiaethau ansoddol gwreiddiol yn systematig er mwyn adnabod a datblygu cysyniadau, damcaniaethau a modelau cyffredinol newydd. Mae'n galluogi ymchwilwyr i gyfuno canfyddiadau gwahanol astudiaethau ansoddol, yn hytrach na chanolbwyntio ar achosion unigol.
Yn aml, mae ansawdd cofnodi meta-ethnograffeg yn wael – sy'n golygu nad oes gan grwpiau cleifion a rheolwyr y GIG yn aml lawer o ffydd yn y canfyddiadau ac felly, yn y pen draw, ni fyddant yn cael eu defnyddio i wella eu penderfyniadau, eu gwasanaethau a'u gofal o gleifion. Ond mae'r tîm ymchwil – a fu’n cydweithio'n agos â'r Athro Noblit, o Brifysgol Gogledd Carolina – wedi cynnig arweiniad pwrpasol ar y dull hwn am y tro cyntaf er mwyn gwella’r drefn o adrodd ar gasglu a dadansoddi data.
Cyn llunio'r canllawiau, bu'r tîm yn adolygu llenyddiaeth bresennol, yn ymgynghori ag arbenigwyr academaidd, yn cynnal astudiaethau consensws o fewn y gymuned ymchwil a chydag aelodau o'r cyhoedd, ac yn cyfweld â phobl broffesiynol sy'n gweithio mewn meysydd anacademaidd.
Mae gan y canllawiau newydd 19 o feini prawf penodol ar gyfer adrodd, a gefnogir gan nodiadau eglurhaol manwl. Mae'n cynnwys argymhellion ar bob agwedd o gynnal ac adrodd am feta-ethnograffeg, o ddewis astudiaethau i ddadansoddi data.
Bydd y canllawiau yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ac fe'i hanelir yn bennaf at ymchwilwyr, golygyddion cyfnodolion ac academyddion sy'n adolygu erthyglau ymchwil i dywys sut y dylasid adrodd am feta-ethnograffeg. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr a myfyrwyr sy'n ceisio dysgu sut i gynnal astudiaeth feta-ethnograffeg.
Cyhoeddir yr astudiaeth, Improving reporting of Meta-Ethnography: The eMERGe Reporting Guidance, yn y cyfnodolion Journal of Advanced Nursing; BMC Medical Research Methodology; Review of Education; Psycho-oncology; a PLOS ONE.
Mwy o wybodaeth am .
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019