Dros 60 oed ac ar-lein: Adroddiad newydd ar iechyd y boblogaeth yn canfod bod pobl h欧n yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol
Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, a gall hyn fod yn offeryn pwysig yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd.
Mae 77 allan o pob 100 o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n h欧n yn defnyddio un neu fwy o gyfryngau cymdeithasol. Mae 65 o blith y 100 yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd. Daw'r canfyddiadau hyn o adroddiad newydd: gan a Phrifysgol 亚洲色吧 a gyhoeddir heddiw.
Mae nodi pwy sy鈥檔 defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eriall i asesu pwy fyddai鈥檔 derbyn negeseuon iechyd trwy鈥檙 cyfryngau cymdeithasol, ac yn helpu i nodi pa fath o blatfform sydd orau ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl.
Nid oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd yng Nghymru, ond i'r rhai sy'n gwneud hynny (87 y cant o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n h欧n), mae'r adroddiad yn nodi bod cyfran uwch o fenywod (91 y cant, o gymharu ag 86 y cant o ddynion) yn ymwneud ag un neu fwy o fathau o gyfryngau cymdeithasol; er bod cyfran uwch o ddynion yn defnyddio cyfryngau cynnwys fideo (72 y cant, o gymharu 芒 65 y cant o fenywod). Roedd bron y cyfan (99.6 y cant) o bobl ifanc 16 i 20 oed ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd ymgysylltu 芒'r cyfryngau cymdeithasol yn tueddu i ostwng gydag oedran, ond roedd yn aros yn uchel mewn grwpiau oedran h欧n; roedd 76 y cant o'r rhai 60-69 oed, a 60 y cant o'r rhai dros 70 oed, yn defnyddio un neu fwy o fathau o gyfryngau cymdeithasol.
Meddai'r awdur arweiniol Dr Jiao Song, Ystadegydd Iechyd Cyhoeddus, Adran Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
鈥淢ae'n ddiddorol bod y cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael eu hystyried yn rhywbeth i bobl iau, ond mae canfyddiadau'r adroddiad wedi amlygu bod cyfran uchel o'r rhai yn y grwpiau oedran h欧n yn ymgysylltu 芒'r cyfryngau cymdeithasol.鈥
Defnyddiodd yr adroddiad ddata a gasglwyd yn yr arolwg Technegol Ddigidol ac Iechyd 2018 - arolwg sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol gyda 1,252 o drigolion yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n h欧n. Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau ar fynediad i'r rhyngrwyd a/neu dechnoleg ddigidol, canfyddiadau o rannu gwybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd ar y cyfryngau cymdeithasol, statws iechyd a demograffeg.
Meddai Dr Catherine Sharp, Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol 亚洲色吧:
鈥淢ae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod pobl ag iechyd hunangofnodedig uwch a phobl sydd 芒 ffordd iachach o fyw yn fwy tebygol o ddefnyddio un neu ragor o gyfryngau cymdeithasol na'r rhai ag iechyd hunangofnodedig is a'r rhai ag ymddygiad sy'n niweidio iechyd.鈥
Yn ddiddorol, roedd y gyfran a oedd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol yn debyg ar draws grwpiau amddifadedd, ond roedd lefelau defnydd o Twitter a WhatsApp yn is ymhlith y rhai lleiaf cefnog.
Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
鈥淢ae angen i ni barhau ag ymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad, ond rydym yn cydnabod y gall y cyfryngau cymdeithasol gynnig llwyfan i gyrraedd cynulleidfa ehangach ac ymgysylltu'n wahanol 芒 phoblogaethau ynghylch iechyd.
鈥淎r hyn o bryd, mae systemau iechyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol gan mwyaf fel cyfrwng i rannu gwybodaeth, ond nid yw'r dull hwn yn manteisio i'r eithaf ar y rheswm pam fo'r cyfryngau cymdeithasol hyn yn gweithio - sef yr elfen rwydweithio. Wrth edrych i'r dyfodol, mae angen i systemau iechyd ddysgu sut i gymryd rhan mewn sgyrsiau ar lwyfannau o'r fath er mwyn cefnogi sylwgarwch ac i apelio gyda'u cynulleidfaoedd; i fynd i'r afael 芒 chredoau, agweddau, bwriadau ac ymddygiadau ar gyfer iechyd.鈥
Mae鈥檙 uned Cydweithio Iechyd Cyhoeddus (PHCU) yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi鈥檌 lleoli ar gampws Wrecsam ac fe鈥檌 hariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae鈥檙 PHCU yn rhyngwyneb academaidd i Iechyd Cyhoeddus Cymru i cynnal ymchwil o ansawdd uchel y gellir ei ddarparu鈥檔 gyflym a chefnogi datblygiad meysydd ymchwil newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2020