Darlithydd Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn rhoi theori ar waith wrth redeg ras y Pen LlÅ·n Ultra.
Ddydd Sadwrn 3ydd Gorffennaf 2021, cwblhaodd y darlithydd Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer, Dr Ross Roberts y . Mae'r Ultras arfordirol yn mynd â'r cystadleuwyr ar hyd ac o amgylch Llwybr Arfordirol enwog Pen LlÅ·n, nid nepell o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, gyda rhai mannau gwylio anhygoel ar hyd y ffordd gyda phellteroedd o 50, 75 neu hyd yn oed 100 milltir yn bosibl.
Cwblhaodd Ross y ras 50 milltir sy'n cychwyn ac yn gorffen yn nhywod Aberech ger Pwllheli. Mae'n dilyn llwybr yr arfordir i Llanbedrog lle mae'r llwybr wedyn yn dringo i'r Dyn Tun enwog sy'n edrych dros draeth Llanbedrog. Yna mae'n parhau i Abersoch. Yn Abersoch mae'n gadael llwybr yr arfordir ac yn dilyn yr hen “lwybr pysgotwyr” ar draws y LlÅ·n gan ddod allan yn Edern yn y pen draw. O'r fan honno mae'n ail-ymuno â'r llwybr arfordirol ger Nefyn, a'i ddilyn heibio Porth Dinllaen a'r TÅ· Coch yr holl ffordd i Nant Gwytheryn. O Nant Gwrtheyrn mae'n parhau'r holl ffordd i Fynydd Gwaith, ac yna'n dilyn amryw lonydd cefn a llwybrau yn ôl i Aberech.
Wrth siarad am y profiad dywedodd Ross ‘Roedd y ras yn wych. Y llinell strap ar ei chyfer yw “Beautifully Brutal”, ac mae hwnnw'n ddisgrifiad addas iawn. Roedd y llwybr yn fendigedig, gwelais forloi yn Nefyn, golygfeydd gwych ar draws y LLÅ·n a gwelais ymhellach i mewn i Gymru. Roedd hefyd yn greulon gan fod llawer o lwybr yr arfordir yn rholio ac roedd rhai dringfeydd serth (mae tua 4500 troedfedd o ddringo ar y llwybr). Roedd y gefnogaeth ar y llwybr ac mewn mannau gwirio yn wych, roedd fel petai holl boblogaeth Pen LlÅ·n allan yn cefnogi! Nid wyf erioed wedi bwyta cymaint o jelly babies nac wedi yfed cymaint o coke ag y gwnes i ddydd Sadwrn! Fe'i cwblheais mewn 10 awr ac 1 munud a gorffen yn y 13eg safle. Gan fy mod yn rhedwr brwd rydw i wedi arfer bod allan yn y bryniau am gyfnodau hir ond yn bendant hwn oedd y rhediad anoddaf i mi ei wneud hyd yma o gryn dipyn. Dwi’n bendant yn ei wneud eto serch hynny, unwaith y bydd y corff wedi gwella, gan fod yr holl beth yn wych!’
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2021