Cyn-fyfyriwr Prifysgol 亚洲色吧 yn dychwelyd o Daith Ddringo yng Nghanada
Mae mynyddwr proffesiynol profiadol sy鈥檔 gyn-fyfyriwr Prifysgol 亚洲色吧 wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith ddringo heriol ym mynyddoedd y Rockies yng Nghanada.
Graddiodd Tom Livingstone, 24, gyda gradd Gwyddor Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored o鈥檙 yn 2013.
Yn wreiddiol o ardal Southampton, mae Tom wedi byw mewn nifer o lefydd gan gynnwys Chamonix yn yr Alpau Ffrengig ar 么l graddio, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Llanberis, y lleoliad perffaith i ddringo a dilyn gweithgareddau awyr agored.
Ar 么l graddio aeth Tom ar lawer o deithiau dringo ac mae wedi ennill cymwysterau hyfforddi gweithgareddau awyr agored yn cynnwys y Wobr Arweinydd Mynydd Haf. Mae bellach yn canolbwyntio ar ddringo ac yn gweithio tuag at y cymhwyster nesaf. Mae'n gweithio fel hyfforddwr llawrydd i gwmn茂au lleol fel Snowdonia Adventures, ac mae hefyd yn ysgrifennu ac mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer sylweddol o gylchgronau.
Yn gynnar yn 2015, cafodd Tom gynnig gan , cwmni dillad awyr agored technegol o Brydain, i fod yn rhan o鈥檜 t卯m proffesiynol.
Dywedodd Tom: "Mae'n anrhydedd cael fy noddi gan 闯枚迟迟苍补谤. Maent yn rhoi llawer o gymorth i mi ar fy anturiaethau, fel darparu eu dillad rhagorol i mi. Rwy'n eu helpu i roi cyhoeddusrwydd i'r brand ac yn rhoi adborth ar eu cynnyrch. Mae'r brand yn ymfalch茂o mewn creu dillad o ansawdd a pherfformiad uchaf, gan dalu sylw i fanylder. Mae hyn yn gefn mawr i mi, gan fod rhaid i mi allu dibynnu ar fy offer pan fyddai鈥檔 dringo mynyddoedd o gwmpas y byd."
Ar 么l clywed am lwyddiant diweddar y dringwyr o Brydain Nick Bullock a Will Sim yn dringo rhai o'r mynyddoedd uchaf a mwyaf anghysbell yn y Rockies yng Nghanada, roedd Tom a'i ffrind Uisdean Hawthorn eisiau cael blas o鈥檙 un profiad.
Esboniodd Tom: "Buom yn dringo drwy gydol mis Medi gan ddilyn rhai o鈥檙 prif lwybrau alpaidd. Roedd yn cynnwys ychydig o bopeth - o groesi afonydd wedi鈥檜 rhewi, cerdded i fyny dyffrynnoedd coediog mawr, gwersylla yn yr eira o dan gopa鈥檙 mynydd, deffro yn gynnar a dringo creigiau a thros i芒 nes cyrraedd y copa. Mae'r golygfeydd bob amser yn werth chweil ac yna鈥檙 cyfan sy鈥檔 weddill i鈥檞 wneud yw mynd trwy鈥檙 holl broses am yn 么l a dychwelyd i'r car ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.
"Fe lwyddom i gwblhau llwybr o'r enw Greenwood/Jones ar Mt. Temple, a oedd yn wych, ond yr oedd rhaid brwydro drwy amodau gwael a thywydd cymysg. Dros weddill y daith gwnaethom ddringo llethrau sawl mynydd arall yn y Rockies, gan gynnwys Mt. Kitchener, Mt. Andromeda a Mt. Alberta.
Dyma鈥檙 haf poethaf a sychaf yng Nghanada ers tro, felly ni fu鈥檙 amodau eira a rhew yn ddelfrydol. Ein hymgais mwyaf arwyddocaol oedd dringo llwybr House/Anderson ar wyneb gogleddol Mt. Alberta, dim ond i gael ein rhwystro gan amodau gwael. Cyraeddasom waelod y mur pen uchaf, dim ond i orfod cymryd llwybr hir yn 么l. Roedd yn rhwystredig iawn, ond dyna yw natur y g锚m, ac rydym yn benderfynol o ddychwelyd.''
"Y gaeaf yma byddaf yn dringo gyda bwyeill a heyrn dringo mewn eira a rhew yn yr Alban a'r Alpau. Yna, byddaf yn ymarfer yn galed yn ystod y gwanwyn er mwyn gallu gwneud y gorau o'r haf! Mae gen i ychydig o deithiau wedi鈥檜 cynllunio ac rwy鈥檔 awyddus i drefnu mwy, mae hefyd s么n am fynd i Batagonia yn hwyr yn 2016."
Straeon Perthnasol:
(Saesneg)
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2015