Cyn-fyfyriwr entrepreneuraidd yn cyrraedd rownd cynderfynol rhanbarthol Santander
Mae cyn-fyfyriwr doethuriaeth ac entrepreneur o Brifysgol 亚洲色吧 wedi cyrraedd rownd gynderfynol ranbarthol 2017.
Yn dilyn ei lwyddiant yng ngham cyntaf y gystadleuaeth yn gynharach eleni, bydd rhaid i Dr Ned Hartfiel argyhoeddi鈥檙 beirniaid am rinweddau ei gwmni . Bydd yn cystadlu yn erbyn naw myfyriwr arall sy'n gobeithio ennill rownd cynderfynol rhanbarthol y Gogledd ac Iwerddon.
Mae ei gwmni eisoes yn cynnig rhaglen sydd yn mynd i鈥檙 afael 芒 phoen cefn ac absenoldeb o鈥檙 gwaith o ganlyniad i boen cefn. Mae Ned wedi cwblhau doethuriaeth mewn Economeg Iechyd, a bellach mae鈥檔 denu cleientiaid i鈥檞 raglen, sy鈥檔 seiliedig ar ioga, ac sydd eisoes wedi ei darparu ar gyfer staff Cyngor Gwynedd a Chyngor Conwy, Heddlu Glannau Merswy, Cyngor Conwy ac Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Dangosodd ei ddoethuriaeth bod staff a oedd yn dilyn ei raglen ioga am dros chwe mis wedi bod yn absennol o鈥檙 gwaith yn llai aml oherwydd poen cefn o鈥檜 cymharu 芒 gr诺p rheolydd.
Gyda chymorth busnes drwy B-Fentrus a Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol, mae Ned yn awr mewn trafodaethau gyda Heddlu Gogledd Cymru, Santander yn Lerpwl, Heddlu Northumbria a Siemens.
Mae Ned wrth ei fodd gyda'r newyddion am gyrraedd y rownd gynderfynol ranbarthol, meddai: "Mae ein rhaglen wedi ei datblygu gan feddygon teulu, ffisiotherapyddion, therapyddion ioga ac osteopathiaid. Mae'n ddiogel, yn effeithiol ac yn gost-effeithiol i sefydliadau a effeithir gan absenoldebau salwch oherwydd cyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae'n rhaglen dan arweiniad hyfforddwr yn y gweithle, sydd wedi ei ategu gan adnoddau ar-lein ar gyfer ymarferion yn y cartref. Hyd yma, mae 90% o'r staff sydd wedi cwblhau ein rhaglen chwe wythnos wedi adrodd yn 么l bod ganddynt lai o boen cefn a'u bod yn teimlo鈥檔 well. Gyda diolch i Brifysgolion Santander a chyda chymorth parhaus T卯m Byddwch Fentrus Prifysgol 亚洲色吧, mae鈥檙 cwmni yn mynd o nerth i nerth, ac rydym yn gobeithio helpu mwy o weithwyr i wella eu lles."
Os bydd yn llwyddo yn y rownd gynderfynol ranbarthol, bydd Ned yn mynd ymlaen i rownd derfynol y DU ym mis Hydref, ac yn cystadlu i ennill pecyn o gyllid gwerth 拢25k, sesiynau mentora a chefnogaeth, cyfle unigryw i gymryd rhan mewn wythnos sbarduno a chael interniaeth wedi ei hariannu鈥檔 llawn gan Brifysgolion Santander.
Straeon Perthnasol:
Tri i gystadlu ar ran y Brifysgol mewn cystadleuaeth entrepreneuriaeth
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017