Cymrodoriaeth Gwyddoniaeth i edrych ar Welliant
Mae Dr Chris Burton o wedi derbyn Cymrodoriaeth glodfawr gan y Sefydliad Iechyd. Bydd y grant yn cefnogi ei ymchwil am dair blynedd, ac yn ei alluogi i ymchwilio i sut mae sefydliadau iechyd yn gwella'r gwasanaeth maent yn eu darparu - yn arbennig pan ddaw i gydweithio gyda chleifion a'r cyhoedd, a'r mathau o anfanteision a llwyddiannau a brofir.
Mae Chris yn uwch gymrawd ymchwil ac yn un o grŵp o wyddonwyr gweithredu ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Gyda'r Athro Jo Rycroft-Malone yn arwain, mae staff yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a sefydliadau ar draws y byd i gau'r bwlch rhwng tystiolaeth o'r ‘hyn sy'n gweithio’ ym maes gofal iechyd, a'r gwasanaethau a ddarperir i gleifion. Dywedodd Yr Athro Rycroft-Malone "Mae'r grant clodfawr hwn yn gyflawniad mawr sy'n cydnabod yn gywir ragoriaeth cais Chris a'r project arfaethedig. Rydw i'n edrych ymlaen at fod yn un o'i fentoriaid cymrodoriaeth, a pharhau gyda'n hymdrechion i roi gwyddor gweithredu ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar lwyfan y byd."
Mae Chris yn gobeithio bydd y gymrodoriaeth gwyddoniaeth i edrych ar welliant yn darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd a syniadau damcaniaethol ym maes gwyddor gwelliant, a datblygu arbenigedd mewn cysylltiad ag ymwneud â chleifion a'r cyhoedd. Rydw i'n falch bod y Sefydliad Iechyd wedi dewis buddsoddi yn y gwaith ymchwil hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda sefydliad ar flaen y gad o ran gwella gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig" meddai.
Gall project Chris ar waith gwella gofal iechyd gwmpasu unrhyw beth o newidiadau isadeiledd sy'n cefnogi gwelliant, i bartneriaethau sefydliadol neu newidiadau i systemau ac ar arferion.
Bydd Chris yn ymchwilio i hyd at 10 o brojectau gwella ledled Prydain, i ddysgu sut mae gwelliannau'n gweithio, a'r hyn sy'n effeithiol o ran cyflawni'r effaith a ddymunir ar gyfer sefydliadau, staff a chleifion.
'Byddaf yn cynllunio'r gwaith hwn gan gyfeirio at theori a adwaenir fel 'safbwynt y cwmni wedi'i seilio ar adnoddau' sy'n gweld sefydliadau fel cymysgedd cymhleth o adnoddau, gan gynnwys profiad a sgiliau eu staff. Mae gen i ddiddordeb yn y modd mae'r adnoddau hyn yn cael eu siapio gan waith gwella,' meddai Chris.
'Mae pob sefydliad yn ceisio gwneud y gorau o'r adnoddau sydd ganddynt i gynyddu eu gallu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Rydw i’n ceisio canfod pam bod sefydliadau'n buddsoddi amser ac egni gwneud gwaith gwella, a'r gwerth mae'n ei ychwanegu at eu sefydliad. Drwy roi theori a brofwyd ar waith, rydw i'n gobeithio darganfod rhesymau rhesymegol ynghylch pam y mae projectau gwella yn gweithio,' eglura.
Ymwneud y claf a’r cyhoedd
Oherwydd bod cleifion yn ganolog i ofal iechyd, mae ymwneud y claf a'r cyhoedd yn rhan o'r holl waith gwella bron, gan ddod â gwybodaeth am brofiadau, dewis a chanlyniadau newid. Mae Chris yn credu nad yw ymwneud y claf a'r cyhoedd wedi derbyn llawer o sylw gan wyddor gwelliant hyd yma, a byddai deall mwy amdano o fudd mawr i wella gofal iechyd.
'Rydw i am ganolbwyntio ar brojectau gwella sy'n cynnwys ymwneud y claf a'r cyhoedd, a allai ddatblygu adnoddau a syniadau gwahanol iawn ar gyfer sefydliadau iechyd. Mae Ymwneud y Claf a'r Cyhoedd mor ddiddorol oherwydd mae'n digwydd mewn cymaint o feysydd o waith gwella, a byddwn yn canfod bod llawer iawn o ddysgu y gallwn ei ddefnyddio er mantais i ni. Mae'n teimlo fel ei fod yn faes o ymarfer sy'n tyfu, a chredaf fod y potensial i ddatblygu gwyddoniaeth yn y maes hwn yn enfawr.'
Dadorchuddio gwerth cudd
Mae Chris yn gobeithio dysgu sut mae 'Ymwneud y Claf a'r Cyhoedd' yn cael ei gynnal, dulliau gweithredu cyffredin, llwyddiannau a methiannau a'r mathau o fanteision mae'n eu creu. 'Rydw i am gael darlun cyfoethog o'r dylanwad sydd gan 'Ymwneud y Claf a'r Cyhoedd' drwy gydadwaith gwaith gwelliant sefydliad. Nid yn unig sut y mae'n siapio'r project, ond y math o ddysgu ymylol dysgu a sylwadau mae'n ei gynhyrchu. Gobeithiaf ddangos sut y gall defnyddio'r adnodd agored hwn ychwanegu gwerth sylweddol at waith gwelliant sefydliad, gwella profiad y bobl sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwnnw, ac yn gyffredinol, creu gwell canlyniadau i gleifion.'
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2013