Cymrodoriaeth Ddysgu Dr Caroline Bowman
Mae newydd dderbyn Cymrodoriaeth Ddysgu Prifysgol 亚洲色吧 i gydnabod ei rhagoriaeth mewn dysgu a'i chyfraniad nodedig i gefnogi myfyrwyr.
Mae Dr Bowman yn Gyfarwyddwr Seicoleg Astudiaethau Israddedig ac yn swydd hon mae wedi mynd ati ar ei phen ei hun i ddatblygu mentrau a luniwyd i wella profiad myfyrwyr, yn cynnwys dechrau blwyddlyfr i fyfyrwyr y flwyddyn olaf, sefydlu dosbarthiadau integreiddiol yn rhoi cefnogaeth ail iaith i gynnwys gwyddoniaeth, a sefydlu'r iaith Gymraeg yn ein cwricwlwm ysgrifennu gwyddonol. Yn wir, cafodd ei gwaith diflino gyda myfyrwyr y drydedd flwyddyn y llynedd effaith uniongyrchol ar ein cyfradd boddhad myfyrwyr pan gafwyd sg么r arbennig o 97% yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr.
Mae Dr Bowman hefyd yn dysgu nifer fawr o fodiwlau. Mae'n gyfrifol yn unigol am reoli a dysgu modiwl yn yr ail flwyddyn mewn Seicoleg Fiolegol, modiwl cwrs Meistr mewn Seicoleg Defnyddwyr, a modiwl cwrs Meistr mewn Cyfathrebu Ymchwil mewn Seicoleg. Mae hefyd yn goruchwylio myfyrwyr projectau ac yn rhoi cefnogaeth fugeiliol i israddedigion yn y flwyddyn gyntaf. Mae'n cael sgoriau uchel yn gyson am ei dysgu o ran boddhad myfyrwyr, ac mae ei hagwedd arloesol at ddysgu wedi ysbrydoli ei chydweithwyr ar draws yr ysgol.
Er gwaethaf ei llwyth gwaith trwm, mae gan Dr Bowman y gallu unigryw i wneud i bob myfyriwr deimlo eu bod yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi fel unigolion gwerthfawr. Efallai mai'r dystiolaeth orau am ei hymroddiad i ragoriaeth mewn dysgu yw ei bod yn cael eu henwebu dro ar 么l tro gan y myfyrwyr eu hunain yn y gwobrau dysgu dan arweiniad myfyrwyr. Mae Dr Bowman wedi cael ei henwebu am y wobr ragoriaeth mewn gofal bugeiliol a'r wobr athro/athrawes y flwyddyn bob blwyddyn ers i鈥檙 gwobrau ddechrau.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015