Cymhwyso gwyddoniaeth!
Cynhelir Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.
Cynhelir yr ŵyl yn ystod 11-19 Mawrth 2017, yr un pryd ag Wythnos Gwyddoniaeth Prydain. Mae'r ŵyl wedi tyfu bob blwyddyn ac yn ffordd ardderchog o gael pawb i gymryd rhan a dysgu mwy am sut mae gwyddoniaeth ac ymchwil yn helpu i ffurfio'r byd rydym yn byw ynddo er gwell. Dewch i siarad â'r gwyddonwyr sy'n archwilio sut y gallwn wrthsefyll newid hinsawdd neu greu cyffuriau newydd i helpu cleifion canser, a pheirianwyr sy'n gweithio ar 5G, y genhedlaeth nesaf o rwydweithiau symudol. Mae ymchwil pwysig yn cael ei wneud ym Mangor ac mae'r ŵyl wyddoniaeth yn gyfle gwych i ddysgu mwy am wyddoniaeth.
Y prif ddigwyddiad fydd yn agor yr ŵyl yw'r Arddangosfa Bydoedd Cudd ddydd Sadwrn, 11 Mawrth rhwng 10am a 4pm yn Adeilad Brambell ar Ffordd Deiniol, ÑÇÖÞÉ«°É. Bydd y labordai yn llawn prysurdeb gyda gweithgareddau ymarferol fydd yn addas i'r teulu cyfan, fel sut mae gwyddonwyr yn echdynnu DNA o ffrwythau, edrych ar sbesimenau trwy ficrosgop a hyd yn oed dysgu sut i wneud llysnafedd. Cynigir teithiau yn ystod y diwrnod i weld yr amgueddfa hanes naturiol anhygoel lle mae'r ddafad enwog â dau ben, ynghyd â'r acwaria mawr; bydd rhannau eraill o'r brifysgol nas gwelir yn aml fel y labordai microbioleg a chanser hefyd yn croesawu ymwelwyr. Bydd cyfle hefyd i weld y sioe gemeg anhygoel "Fflach Bang", sy'n llawn o hwyl ffrwydrol i'r teulu i gyd.
Mae'r manylion am yr holl ddigwyddiadau eleni ar y wefan, ac os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â stevie.scanlan@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2017