Cyfraniad seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar i wella iechyd a lles yng Nghymru yn cael sylw aelodau'r Senedd
Cafodd Aelodau'r Cynulliad a pobol proffesiynol o feysydd iechyd a gofal eu gwahodd i dderbyniad yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw (3.12.13) i glywed sut mae dulliau arloesol o ymdrin ag iechyd a lles yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru a mannau eraill o ganlyniad i waith y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Gall ymwybyddiaeth ofalgar, lle cyfunir elfennau o'r corff a'r meddwl, helpu pobl newid y ffordd y maent yn meddwl a theimlo ynghylch eu profiadau. Clywodd y gwahoddedigion i'r derbyniad yn Y Senedd sut y gall ymarferion wedi'u seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar gefnogi canlyniadau positif mewn iechyd ac addysg yng Nghymru.
Mae'r Ganolfan ym Mhrifysgol 亚洲色吧 wedi addasu therapi wybyddol wedi'i seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar, a rhaglenni defnyddiol eraill seiliedig arni, at ystod o sefyllfaoedd. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud addasiadau i ddosbarthiadau ysgolion cynradd fel bod plant mewn cywair meddwl mwy parod i ddysgu, a darparu dulliau i helpu pobl sy'n ymdopi 芒 phoen cronig.
Agorwyd yr achlysur gan Mark Drakeford AC, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac meddai:
鈥淢ae鈥檙 ymchwil arloesol sy鈥檔 cael ei gwneud gan y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar wrth hybu dulliau gweithredu sy鈥檔 seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar wedi gwneud cryn argraff arna i. Mae鈥檙 ymchwil ddiweddar a wnaed ar addasu therapi wybyddol wedi鈥檌 seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar i鈥檞 defnyddio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles athrawon a disgyblion. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at glywed mwy yn y digwyddiad hwn am lwyddiant dulliau gweithredu wedi鈥檜 seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar.鈥
Mae gan y Ganolfan enw da drwy'r byd am ragoriaeth ac arweiniad a hon oedd y ganolfan ymwybyddiaeth ofalgar gyntaf mewn prifysgol yng ngwledydd Prydain. Mae ganddynt brojectau gyda sefydliadau lleol eraill yng Ngogledd Cymru, yn ogystal ag ymhellach i ffwrdd ac yn rhyngwladol, ac mae eu gwaith yn cael effaith ar bolisi a darparu gwasanaethau'n lleol yng Ngogledd Cymru, ar draws gwledydd Prydain ac yn Ewrop ac America.
Meddai Rebecca Crane, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
"Rydym yn hynod falch o'r cyfle yma i dynnu sylw at ein hymchwil. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld diddordeb mawr gan unigolion a sefydliadau yn yr hyn sydd gan ymwybyddiaeth ofalgar i'w gynnig. Rydym wedi hyfforddi rhai fel hyfforddwyr ymwybyddiaeth ofalgar ac unigolion sydd eisiau defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn bersonol yn unig. Mae'r t卯m yn CMRP wedi bod yn ymchwilio a datblygu addasiadau o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer gwahanol amgylchiadau a lleoliadau.
Mae Ysgol Pen y Bryn, Bae Colwyn yn un o blith nifer o ysgolion sy'n defnyddio fersiwn o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn y dosbarth. 鈥楶aws B鈥, sef cwricwlwm i ysgolion cynradd a luniwyd gan Tabitha Sawyer a Rhian Roxburgh, athrawon yn Ysgol Pen y Bryn, ynghyd 芒 Sarah Silverton, un o d卯m dysgu'r CMRP, yw'r cwricwlwm ymwybyddiaeth ofalgar sydd wedi'i gydblethu 芒'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn yr Ysgol. Mae'r dull hwn yn dysgu'r plant ynghylch y meddwl, gan wneud iddynt weld sut y gall fod dipyn ar chw芒l ym mhob man, a bod angen iddynt hwy, fel c诺n bach, gael eu dysgu sut i ganolbwyntio.
Yn 么l Tabitha Sawyer, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol, mae'r plant yn fwy parod i ddysgu ar 么l sesiwn fer o ymwybyddiaeth ofalgar.
Meddai: "Rydym wedi cael ein synnu sut mae'r plant wedi cymryd at hyn a sut maent wedi ymateb. Maent yn sylweddoli ynddynt eu hunain bod angen iddynt ddod 芒'u sylw'n 么l i'r ystafell ddosbarth ar 么l amser chwarae er enghraifft. Ac er eu bod yn ifanc, maent yn gallu gweld beth yw'r manteision iddynt hwy eu hunain."
Mae PawsB yn un o dair rhaglen i ysgolion sydd ar gael drwy'r Project Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion, i gynorthwyo plant ac athrawon i gefnogi dysgu a lles mewn ysgolion.
Mae ymchwil dan arweiniad Dr Dusana Dorjee yn awr yn cael ei gwneud mewn ysgolion cynradd ac uwchradd eraill yng Ngogledd Cymru er mwyn cloriannu effeithiau hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar ar athrawon a disgyblion. Mae'r ymchwil gyda phlant yn cynnwys mesur eu gallu i ganolbwyntio a rheoli eu hemosiynau.
Meddai:
'Yn ein profiad ni mae disgyblion yn mwynhau dysgu am y wyddoniaeth ymenyddol sydd y tu 么l i ymwybyddiaeth ofalgar. Mae rhai ohonynt wedi cael cyfle hefyd i ymweld 芒 Labordy Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Mae ein hymchwil ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion yn gyfle i ddisgyblion ddysgu sut y gallwn hyfforddi'r ymennydd i ddibenion lles a gweld sut y gallwn fesur newidiadau yn yr ymennydd sy'n gysylltiedig 芒 gweithredu ymwybyddiaeth ofalgar.'
Mae'r Ganolfan wedi bod yn gweithio hefyd gyda rhieni maeth i ddysgu sgiliau iddynt i ymdopi 芒 phwysau a straen y gwaith pwysig y maent yn ei wneud.
Fel hyn yr eglurwyd eu dull gweithredu gan Eluned Gold o'r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol 亚洲色吧: "Nod y rhaglenni yw helpu rhieni maeth i ymdopi 芒 gofynion y gwaith a'u lefelau straen eu hunain, fel eu bod mewn gwell sefyllfa i fagu'r plant sydd yn eu gofal.
"Rydym yn asesu effeithiau hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar ar lefelau straen y rhieni eu hunain, ar eu lles ac ar eu strategaethau ymdopi. Mae gennym ddiddordeb gweld hefyd sut y bydd gwelliannau yn lles y rhieni maeth yn effeithio ar y plant y maent yn gofalu amdanynt."
Er 2003 mae Trish Bartley, aelod o d卯m dysgu'r Ganolfan, wedi bod yn cydweithio 芒 Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd i gynnig dosbarthiadau ymwybyddiaeth ofalgar i bobl sy'n dioddef o ganser a'u gofalwyr ac mae'n gweithio nawr gydag Ysbyty Glan Clwyd hefyd.
Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae tua 2,000 o bobl yng Ngogledd Cymru wedi dilyn cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar sy'n cefnogi pobl i ffynnu, lleihau straen a gwella lles. Yn Ionawr 2014 bydd y Ganolfan am y tro cyntaf yn cynnig cwrs wyth wythnos yn benodol i bobl gydag iselder a phryder.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2013