Cyflwyno 'Cefnogaeth Weithredol' ar gyfer disgyblion ag Anableddau Deallusol ac Awtistiaeth i athrawon lleol
Ymunodd 125 o staff o Antur Waunfawr, Ysgol Hafod Lon ac Ysgol Pendalar 芒 staff academaidd o Ysgol Addysg a Gwyddorau Dynol Prifysgol 亚洲色吧 yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad hyfforddi yn cyflwyno 'Cefnogaeth Weithredol'.
Mae 'Cefnogaeth Weithredol' yn ddull o hyfforddi staff gyda'r bwriad o alluogi pobl ag anableddau dysgu i ymwneud mwy 芒'u bywydau bob dydd. Bydd staff sydd wedi'u hyfforddi yn y dull hwn yn anelu at gynyddu lefelau ymwneud cleientiaid yn barhaus trwy gydol y dydd, gan felly gwella ansawdd bywyd yr unigolion hynny.
Cynhaliodd Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith (CIEREI) yr Ysgol Addysg y digwyddiad i ddangos sut y gellir addasu a defnyddio 'Cefnogaeth Weithredol' mewn ystafell ddosbarth. Arweiniwyd y diwrnod hyfforddi gan arbenigwr yn y maes sydd ymysg y goreuon yn y byd, yr Athro Sandy Toogood.
Fel yr eglurodd Ceridwen Evans, myfyriwr PhD a drefnodd y digwyddiad hyfforddi:
鈥淗yd yma, mae'r dull Cefnogaeth Weithredol wedi cael ei brofi mewn lleoliadau preswyl sy'n gartref i oedolion sy'n byw gydag anabledd dysgu ac sydd ag anghenion mwy cymhleth a difrifol. Ond mae tystiolaeth anecdotaidd ac ychydig o astudiaethau bach wedi awgrymu y gallai fod yn effeithiol wrth gael ei weithredu mewn ysgolion arbennig.鈥
Yn ogystal 芒 rhannu trosolwg damcaniaethol a phrofiad ymarferol o Gefnogaeth Weithredol, dangosodd yr hyfforddiant y ffordd orau i gyfoethogi'r ystafell ddosbarth a sut y gall staff baratoi ac addasu eu hymddygiad eu hunain er mwyn cynyddu lefelau ymwneud y disgyblion.
Ychwanegodd Ceridwen:
鈥淩oedd cynllunio ar y cyd yn ystod y dydd hefyd yn adlewyrchu鈥檙 angen am 鈥榓rbenigedd cyfartal gan yr holl randdeiliaid鈥 wrth gynllunio digwyddiadau hyfforddi ac ymyriadau mewn ysgolion (boed yn addysg brif ffrwd neu addysg arbennig); gan gynnwys arbenigedd yr athrawon a'r staff sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda'r disgyblion eu hunain.鈥
Bydd ymchwil Ceridwen Evans nawr yn symud ymlaen i weithredu Cefnogaeth Weithredol wedi'i haddasu mewn dosbarthiadau yn Ysgol Hafod Lon ac Ysgol Pendalar.
Ariennir ysgoloriaeth ymchwil Ceridwen yn rhannol gan Antur Waunfawr, Ysgol Hafod Lon ac Ysgol Pendalar; a chaiff ei hariannu gan fwyaf o dan y Rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Gwybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol 亚洲色吧 ar ran y sector AU yng Nghymru. Caiff KESS II ei ariannu'n rhannol gan raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae KESS II yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistr Ymchwil a PhD) gyda phartneriaid allanol wedi'u lleoli yn ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd). Mae elfennau鈥檙 Meistr Ymchwil a PhD wedi鈥檜 cyfuno 芒 rhaglen hyfforddi sgiliau ar lefel uwch, gan arwain ar Gymhwyster 脭l-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS 11 yn rhedeg tan 2022 a bydd yn darparu 600+ o gyfleoedd PhD a Meistr Ymchwil ledled Cymru.
Os hoffech gael gwybod mwy am yr ymchwil hon, neu am y digwyddiad ei hun, cysylltwch 芒 Ceridwen Evans ar ceridwen.evans@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019