Cwrw, Bara a Gwell Iechyd
Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe 6.6.15
Mae'n debyg bod cysylltiad rhwng cwrw, bara a gwell iechyd - a burum yw'r cysylltiad hwnnw.
Bydd Jessica Fletcher, gwyddonydd o Brifysgol 亚洲色吧, yn egluro'r cysylltiad i'r cyhoedd mewn digwyddiad 'Gwyddoniaeth Bocs Sebon' ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Sadwrn 6 Mehefin.
Bydd Jessica Fletcher, gwyddonydd o Brifysgol 亚洲色吧, yn egluro'r cysylltiad i'r cyhoedd mewn digwyddiad 'Gwyddoniaeth Bocs Sebon' ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Sadwrn 6 Mehefin.
Mae Jessica, sy'n 27 oed, ac yn hanu'n wreiddiol o Wallasey ar y Wirral, yn egluro:
"Yn fy ymchwil, rydw i'n defnyddio organeb fodel syml ac yn astudio prosesau yn y celloedd y gellir eu cymhwyso wedyn i gelloedd dynol. Y burum yr ydw i'n ei ddefnyddio yn yr ymchwil yw Schizosaccharomyces pombe. Burum cyffredin arall a ddefnyddir mewn ymchwil yw Saccharomyces cerevisiae, burum y pobydd yw ei enw mwyaf cyffredin! Yn fy sgwrs Bocs Sebon Gwyddoniaeth: 鈥楽uper Yeast: Beer, Bread and Better Health鈥, byddaf yn disgrifio sut mae'r un burum a ddefnyddir i bobi bara ac i eplesu cwrw yn cael ei ddefnyddio i astudio afiechydon fel canser.鈥
"Wrth i ni dyfu, mae ein celloedd yn ymrannu, ac yn ystod y broses hon rhaid iddynt gop茂o eu DNA yn fanwl gywir. Os yw'r DNA wedi ei niweidio, ni fyddem am i'r gell barhau i ymrannu heb drwsio'r niwed gyntaf, neu gallai arwain at afiechyd. Mae gan gelloedd bwyntiau gwirio sy'n bodoli er mwyn ceisio sicrhau bod y niwed i'r DNA yn cael ei drwsio cyn ei gop茂o. Rydw i'n astudio protein yn y pwynt gwirio hwn o'r enw 鈥楥ds1鈥, neu 鈥楥hecking DNA Synthesis 1鈥.鈥
Ychwanega:
"Roeddwn i am gymryd rhan yn y cynllun Gwyddoniaeth Bocs Sebon oherwydd credaf ei fod yn gyfle heb ei ail nid yn unig i ganmol rhinweddau'r burum dinod, ond yn llwyfan i addysgu'r cyhoedd ac i annog merched ifanc eraill i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth. Er bod y mudiad Merched mewn Gwyddoniaeth wedi dod yn bell, mae yna brinder merched yn y pynciau STEMM o hyd, yn enwedig yn y cyfryngau ac mewn rhwydweithiau cymdeithasol. Roedd y mwyafrif o'm cyd-fyfyrwyr ar fy nghwrs israddedig yn ferched, ond yn y byd 么l-raddedig mae'r rhan fwyaf o'm cydweithwyr yn ddynion; mae'r anghydbwysedd hwn i'w weld mewn llawer o feysydd STEMM mewn Addysg Uwch a'r byd academaidd. Dylai unigolion allu dilyn unrhyw yrfa y maent yn teimlo'n angerddol amdani, ac ni ddylent deimlo eu bod yn cael eu trin yn wahanol neu'n llai ffafriol am unrhyw reswm, gender neu fel arall. Roedd symud ymlaen i wneud ymchwil i weld yn gam naturiol i mi, ac felly roeddwn i wrth fy modd o gael fy newis i gymryd rhan yn y cynllun Gwyddoniaeth Bocs Sebon er mwyn cael cyfle i annog merched ifanc eraill i gymryd yr un cam a mynd ar 么l eu diddordeb angerddol mewn gwyddoniaeth."
Mae Jessica yn diwtor ac yn gysylltai dysgu yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol 亚洲色吧 a hefyd yn fyfyriwr PhD yn gwneud ymchwil i ganser yn y brifysgol. Mae ganddi BSc mewn Gwyddorau Biofeddygol ac mae'n Wyddonydd Biofeddygol cofrestredig ac yn Gymrawd Cysylltiol yn yr Academi Addysg Uwch. 鈥淵n fy addysgu rydw i'n canolbwyntio ar fioleg ddynol a sut mae'r corff iach yn gweithio. Mae fy ymchwil ar y llaw arall yn canolbwyntio ar eneteg y celloedd a niwed i DNA, er mwyn deall cylch oes y gell ddynol a datblygiad canser yn well.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015