Creu cymunedau sy鈥檔 gefnogol i bobol 芒 dementia yng Ngogledd Cymru
Gwahoddir pobl sy鈥檔 byw 芒 dementia, eu teuluoedd a鈥檜 gofalwyr i ymuno mewn rhwydwaith ar draws gogledd Cymru gyda gweithwyr proffesiynol sy鈥檔 gweithio i gefnogi pobl 芒 dementia yn y gwasanaeth iechyd, y sector fasnach a鈥檙 trydydd sector ynghyd ag arbenigwyr sydd yn ymchwilio i鈥檙 cyflwr. Bwriad y rhwydwaith newydd yw darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfle i rannu gwybodaeth a phrofiad a chyfle i bobl gefnogi ei gilydd.
Sefydlwyd y rhwydwaith gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧, lle mae鈥檙 (DSDC) yn arwain y ffordd wrth ddarparu ymchwil a chyngor ymarferol am ffyrdd newydd o gefnogi pobl sydd yn byw 芒 dementia, eu teuluoedd a鈥檜 gofalwyr, er mwyn cyfoethogi eu bywydau.
Dywedodd Dr Catrin Hedd Jones, sylfaenydd y Rhwydwaith, sy鈥檔 gweithio i鈥檙 Ganolfan Datblygu:
鈥淩ydym eisoes wedi cynnal tri chyfarfod gwych dros yr haf ac mae gennym dri arall wedi eu trefnu ar gyfer mis Hydref. Rydym yn awyddus i roi鈥檙 gair ar led mewn cymunedau bod y rhwydwaith hwn ar gyfer unrhyw un sy鈥檔 teimlo eu bod yn rhan o ofal dementia neu sy鈥檔 byw gyda dementia mewn unrhyw ffordd.
Mae鈥檙 fformat yn seiliedig ar ymateb o鈥檙 cyfarfodydd cynnar ac yn annog mwy o rwydweithio ac yn cynnig cyfle i aelodau rannu gwybodaeth a syniadau.鈥
Dyma oedd sylw dienw rhywun a fu i gyfarfod cyntaf y Rhwydwaith ym Mhorthmadog:
鈥淒aethom yma gydag ychydig iawn o wybodaeth am le i droi. Bellach mae gennym gyfeiriad llawer cliriach, yn enwedig ar 么l cael sgwrs wyneb yn wyneb gydag amryw o bobl.鈥
Cynhelir y cyfarfodydd nesaf yn swyddfeydd Cymdeithas Alzheimer鈥檚 ym Mochdre ar 7 Hydref, yn yr Hen Fragdy yn Shotton ar 12 Hydref ac yn Neuadd y Dref, Llangefni ar 14 Hydref, gyda phob cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng 10:30-14:00. Bydd hyn yn cynnwys digon o amser i rwydweithio, cynnal trafodaethau a hefyd i fod yn greadigol.
Ychwanegodd Catrin: 鈥淢ae gennym sesiwn rydym yn ei alw鈥檔 鈥榮tondin farchnad鈥. Bydd hwn yn rhoi cyfle i bobol rannu unrhyw daflenni, bosteri, lluniau, dogfennau neu syniadau am yr hyn sydd ar gael yn yr ardal. Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn drafod, gyda phynciau鈥檔 cael eu hawgrymu gan aelodau鈥檙 Rhwydwaith er mwyn sicrhau bod y deunydd yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.
Hoffem annog mwy o bobl sy鈥檔 byw 芒 dementia i ddod i鈥檙 cyfarfodydd, felly os ydych yn adnabod unrhyw un allasai elwa, rhwch wybod iddynt am y dyddiadau, ac efallai y bydd yn bosib cynnig cymorth iddynt ddod i鈥檙 cyfarfod.鈥
Bydd ymchwilydd o Brifysgol 亚洲色吧 yn siaradwr gwadd ym mhob cyfarfod. Bydd Dr Gwawr Ifan yng nghyfarfod Mochdre i drafod rhaglen lwyddiannus Corneli Cudd, sydd yn cyplysu ysgolion gyda chartrefi gofal, yr Athro Bob Woods yn trafod canfyddiadau sawl project o dan bennawd 鈥楲iving well with dementia - what helps?鈥) yn y cyfarfod yn yr Hen Fragdy yn Shotton a Laura O鈥橮hilbin yn trafod ei hymchwil yn ymwneud 芒鈥檙 llyfr digidol am stori bywyd, The Book of You, yng nghyfarfod Llangefni.
Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn cynnal cynhadledd i rannu gwaith y rhwydwaith gyda chynulleidfa ehangach ar 27/01/2017.DIWEDD
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2016