Creu claf rhithwir 鈥榳edi鈥檌 efelychu鈥檔 gyfrifiadurol鈥 er mwyn hyfforddi clinigwyr
Yn y dyfodol, os bydd arnoch angen llawdriniaeth gymhleth, bydd y llawfeddyg yn gallu paratoi a hyd yn oed ymarfer ar ei chyfer ar efelychiad rhithwir o鈥檆h corff eich hun neu o鈥檙 rhan o鈥檆h corff sydd angen sylw.
Ar hyn o bryd, mae鈥檙 dechnoleg ar y gweill i greu 鈥榚felychiadau鈥 o鈥檙 corff cyfan er mwyn hyfforddi llawfeddygon a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes meddygaeth ar sut i ymgymryd ag amryw o driniaethau meddygol, gan ddefnyddio 鈥榙ym茂au鈥 rhithwir sy鈥檔 ymddangos fel pe baent yno, a hyd yn oed yn 鈥榯eimlo鈥 fel pe baent yno, a hynny trwy ddefnydd graffeg gyfrifiadurol 3D, dyfeisiau haptig neu 鈥榓dborth grym鈥.
Mae鈥檙 Athro Nigel John o Brifysgol 亚洲色吧 yn arwain yn y maes yng Nghymru o ran datblygu鈥檙 dechnoleg hon, ac yntau鈥檔 arbenigwr mewn technoleg yn yr . Yr Athro John sy鈥檔 arwain yr Uned Dadansoddi a Delweddu Meddygol Uwch o fewn yr Ysgol, a hefyd y Sefydliad Ymchwil mewn Cyfrifiadureg Weledol (RIVIC), mewn partneriaeth 芒鈥檙 GIG yng Nghymru a Phrifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe. Un o brif ganolbwyntiau t卯m yr Athro John ym Mangor yw addasu cyfrifiaduro gweledol a realiti rhithwir er mwyn darparu dysgu cost-effeithiol ar gyfer amrywiaeth o weithredoedd meddygol.
Yn ddiweddar, mae鈥檙 Athro John wedi dychwelyd o daith i Awstralia a Singap么r trwy Gymrodoriaeth Deithio Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill (http://www.wcmt.org.uk/). Trwy鈥檙 ymweliad, bu modd i鈥檙 Athro John greu cyfleoedd ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol ar brojectau a all gyfrannu at greu Claf Rhyngweithiol Rhithwir (VIP) 鈥 cronfa ddata gyfrifiadurol benodol yn cynnwys y data delweddol, a modelau ffisiolegol a phatholegol y gellir rhyngweithio 芒 hwy mewn amser real, gan ddefnyddio synhwyrau a medrau naturiol. Y nod yw bod y VIP yn dod yn offeryn derbyniol yn y cwricwlwm addysg feddygol, a hefyd yn gymorth i ymarferwyr meddygol wrth iddynt gyflawni tasgau beunyddiol eu proffesiwn. Sefydlodd yr Athro John gysylltiadau cryf 芒 Chanolfan Ymchwil E-Iechyd Awstralia (Australian eHealth Research Centre) yn Brisbane, ac 芒 Phrifysgol Dechnolegol Nanyang yn Singap么r.
Meddai鈥檙 Athro John, 鈥淵n awr, rydym yn bwriadu weithio ar y cyd ar brojectau ar gyfer hyfforddi mewn gweithredoedd endosgopegol, ac ar hapteg a yrrir gan ddelweddau 鈥 dyfeisiau sy鈥檔 caniat谩u inni ychwanegu grym ac adborth cyffyrddol ar ryngweithio 芒 delweddau meddygol.鈥
Er y gall technoleg efelychu cyfrifiadurol ddarparu amgylchedd diogel ar gyfer hyfforddiant mewn gweithredoedd meddygol, mae llawer o broblemau i鈥檞 goresgyn, megis cyfyngiadau technolegol, ffactorau dynol, a dilysiad.
Mae t卯m yr Athro Nigel John ym Mhrifysgol 亚洲色吧 eisoes wedi datblygu efelychiadau ar gyfer gweithredoedd meddygol penodol a ddefnyddir gan radiolegwyr ymyriadol er mwyn mewnosod cathetrau i rydwel茂au, ynghyd 芒 system adborth ar gyfer gosod nodwydd i mewn i aren neu afu 鈥 lle mae鈥檙 hyfforddai sy鈥檔 dal y 鈥榥odwydd鈥 yn teimlo gwrthsafiad wrth i鈥檙 nodwydd gael ei wthio trwy 鈥榞nawd rhithwir鈥 sydd i鈥檞 weld ar y sgr卯n. Os bydd y nodwydd yn taro asen yn ddamweiniol, yna mae鈥檙 gwrthsafiad grym yn cynyddu i atal y nodwydd, gan na all dreiddio trwy asgwrn.
Maent hefyd wedi lansio cymhwysiad ar gyfer cyfrifiadur tabled yn ddiweddar, y gall y gall hyfforddeion ym maes llawfeddygaeth yr ymennydd ei ddefnyddio i ddraenio hylif gormodol sy鈥檔 creu pwysau oddi mewn i鈥檙 ymennydd 鈥 gweithred a gyflawnir yn aml mewn adrannau niwro-lawfeddygaeth.
Ll欧r ap Cenydd, o鈥檙 Uned Dadansoddi a Delweddu Meddygol Uwch, a ddatblygodd gymhwysiad y 鈥榁Cath鈥, sydd wedi鈥檌 gynllunio i fynd 芒 hyfforddai mewn niwro-lawfeddygaeth trwy gamau lleoli a mewnosod cathetr i ymennydd claf 3D rhithwir. Bu鈥檔 gweithio ar y cyd 芒 Mr Nick Phillips, Niwro-lawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Cyffredinol Leeds, a鈥檙 Athro William Gray, Athro Niwro-lawfeddygaeth Weithredol yn y Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd.
Meddai鈥檙 Athro John, 鈥淏ydd hyfforddi wrth ddefnyddio hwn ac efelychyddion cost-effeithiol eraill yn gymorth i roi鈥檙 medrau angenrheidiol i hyfforddeion meddygol fel y gallant gwblhau amryw o weithredoedd yn ddiogel ac yn effeithiol. Maent yn darparu llwyfan ar gyfer ymarfer ailadroddus, a鈥檙 posibiliadau ganddynt o wella鈥檙 canlyniadau i gleifion, gwneud y triniaethau鈥檔 ddiogelach, a gwella profiad y cleifion. Ym Mhrifysgol 亚洲色吧, rydym ar y blaen mewn nifer o鈥檙 datblygiadau hyn, byddwn yn dechrau gweithio, cyn hir, ar broject newydd a gyllidir gan yr Undeb Ewropeaidd i ddarparu offeryn hyfforddi ar gyfer anesthetyddion.鈥
Wrth s么n am gymhwysiad y VCath, dywedodd Nick Phillips, Niwro-lawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol yn yr Adran Niwro-lawfeddygaeth, Ysbyty Cyffredinol Leeds, 鈥淢ae niwro-lawfeddygaeth yn arbenigedd risg uchel, ac mae rhoi cyfleoedd diogel ar gyfer hyfforddi bob amser yn her. Mae鈥檙 hyfforddiant hwn yn rhoi cyfle i hyfforddeion ennill y rhan fwyaf o鈥檙 medrau sydd eu hangen ar gyfer y weithred hon mewn amgylchedd sy鈥檔 ddiogel ac yn ddi-risg. Mae鈥檔 hyrwyddo trafodaeth 芒 hyfforddwyr ac yn ddull rhagorol o ddysgu鈥檙 medrau sy鈥檔 ofynnol.鈥
Meddai鈥檙 Athro William Gray, Athro Niwro-lawfeddygaeth Weithredol yn y Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Prifysgol Caerdydd, 鈥淢ae VCath yn gymhwysiad cyffrous newydd ar gyfer iPad, sy鈥檔 rhoi cyfle i hyfforddeion ddysgu鈥檙 medrau theoretig ac ymarferol sy鈥檔 ofynnol ar gyfer cyflwyno cathetr fentriglol mewn amgylchedd realistaidd sydd wedi鈥檌 efelychu. Mae鈥檔 offeryn gwerthfawr o ran gwella鈥檙 broses o ddysgu cyfres graidd o fedrau ac yn ddatblygiad o bwys o ran cymhwyso efelychu at hyfforddiant niwro-lawfeddygol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2013