Cerddoriaeth i gysuro siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia
Erbyn hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol 亚洲色吧 a Merched y Wawr cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg.
Yn 么l pob s么n, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio. Fel rhan o鈥檙 fenter bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru.
Yn 么l ymchwilwyr o Brifysgol 亚洲色吧, mae cerddoriaeth yn gallu lleddfu iselder a difaterwch a chyfrannu at well ansawdd bywyd i unigolion sy'n byw gyda dementia. Er bod llawer o staff gofal yn cydnabod hyn, mae'r rhan fwyaf o weithgareddau cerddorol mewn cartrefi gofal yn digwydd yn Saesneg, sy'n gallu arwain at golli cyfleoedd i breswylwyr sydd ag atgofion cryf sy'n gysylltiedig 芒 cherddoriaeth Gymraeg.
Heddiw (dydd Gwener 19 Gorffennaf), preswylwyr cartref gofal ym Metws, Rhydaman oedd y cyntaf i ailwrando ar ganeuon o'u gorffennol wrth i CD C芒n y G芒n gael ei lansio mewn digwyddiad arbennig mynychwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg, Eluned Morgan.
Mae'r ddisg 20 trac, sydd hefyd ar gael i'w llwytho i lawr, yn cynnwys cerddoriaeth o sawl degawd, mewn prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol 亚洲色吧, Merched y Wawr, y , cwmni recordiau Sain a Dydd Miwsig Cymru. Mae'r casgliad o ganeuon yn deillio o waith gan Alister O'Mahoney, sydd wedi graddio mewn Cerddoriaeth, fel rhan o'i interniaeth gyda Dr Catrin Hedd Jones.
Bydd mil o gop茂au o'r CD, sydd hefyd yn cynnwys gwaith celf a grewyd fel rhan o broject gan Phil Thompson o'r Rhuthun sy'n byw gyda dementia, ar gael i ofalwyr gan Ferched y Wawr, ac ar gael i'w lwytho o .
Lansiwyd y CD yng Nghartref Gofal Annwyl Fan, sy'n darparu gofal preswyl ac arbenigol i hyd at 70 o bobl sy'n byw gyda dementia. Daeth aelodau o gangen Rhydaman o Ferched y Wawr i'r lansiad, yn ogystal 芒 Rhys Meirion - y dewiswyd ei g芒n enwog, Anfonaf Angel, fel un o'r 20 o draciau i'w chynnwys ar y CD drwy bleidlais gyhoeddus.
Daeth Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, i'r digwyddiad i gyflwyno CD i Deborah Wellington, rheolwr cyffredinol y cartref gofal.
Meddai: "Fel cyn cadeirydd Live Music Now yng Nghymru, elusen sy'n hyrwyddo cerddoriaeth byw mewn cartrefi gofal, rwyf wedi gweld dros nifer o flynyddoedd yr effaith anhygoel y gallai cerddoriaeth o'r gorffennol ei gael ar bobl sy'n byw gyda dementia.
"Gwerthfawrogi cerddoriaeth yw un o'r galluoedd sy'n aros hiraf gyda phobl sy'n byw gyda dementia, ac i lawer ohonon ni yng Nghymru, mae'r caneuon sy'n golygu cymaint i ni yn cael eu canu yn Gymraeg. Mae gweld ymateb preswylwyr cartref Annwyl Fan heddiw yn dangos i ni sut y gall grym y gerddoriaeth effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl.
Bydd y CD yma, rwy鈥檔 falch iawn i lansio heddiw yn helpu cysuro, hysgogi a dwyn i gof hen atgofion, a fydd yn helpu i wella ansawdd bywyd cymaint o siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia. "
Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
"Rwy'n croesawu'r adnodd gwerthfawr yma a fydd yn helpu siaradwyr Cymraeg sydd 芒 dementia i deimlo'n ddibryder. Drwy fframwaith Mwy na Geiriau...., mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg. Mae iaith a gofal yn mynd law yn llaw, ac mae cyfathrebu 芒 phobl yn eu hiaith gyntaf yn elfen allweddol o ddarparu gofal o ansawdd."
Meddai Dr Catrin Hedd Jones, Seicolegydd Siartredig a Darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol 亚洲色吧, sydd wedi bod yn arwain ar y prosiect:
"Mae cerddoriaeth o'n hieuenctid yn dal yn gyfarwydd i ni'n ddiweddarach mewn bywyd. Bydd y cydweithio yma'n galluogi preswylwyr sy'n siarad Cymraeg mewn cartrefi gofal i glywed caneuon maen nhw'n gallu cysylltu 芒 nhw. Roedd hyn wir yn apelio i'r cyhoedd, a chafwyd awgrymiadau am bron i 600 o ganeuon sydd wedi ein galluogi i ryddhau'r detholiad amrywiol yma o ganeuon Cymraeg o blith yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd. Mae modd argraffu geiriau'r caneuon o'n gwefan ac rydyn ni'n bwriadu datblygu'r gwaith yma drwy gyflwyno rhestrau chwarae personol i bobl mewn partneriaeth ag . Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at sicrhau bod staff gofal bellach yn gallu cynnig caneuon Cymraeg i'w preswylwyr."
Gweler hefyd: /news/archif/sicrhau-mynediad-at-gerddoriaeth-cymraeg-ar-gyfer-pobl-sydd-yn-byw-gyda-dementia-39687
a /graduation/newyddion/grym-llesol-y-g%C3%A2n-yn-gyrru-llwyddiannau-alistair-41098
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019