Ceisio datrys argyfyngau byd-eang yn gysylltiedig ag ymddygiad sy鈥檔 niweidiol i iechyd yn ymwneud 芒 diet, ymarfer corff, alcohol a defnyddio sylweddau er mwyn lleihau鈥檙 tebygrwydd o bandemigau yn y dyfodol
Os ydym am ymdrin yn llwyddiannus â phandemig yn y dyfodol, a lleihau eu heffaith ar iechyd pobl a’n systemau gofal iechyd byd-eang, rhaid i ni fuddsoddi er mwyn datblygu poblogaethau mwy ffit, iachach, mwy gwydn sy’n llai tebygol o gael eu heintio â chlefydau trosglwyddadwy ac yn llai tebygol o ddatblygu symptomau mwy difrifol os ydynt yn cael eu heintio.
Mae'r pandemig COVID-19 diweddar wedi tynnu sylw at y ffaith bod unigolion sy’n ymddwyn mewn ffordd sy’n niweidiol i’w hiechyd fel gordewdra ac ysmygu, sy'n gysylltiedig yn fwy cyffredin â chlefydau anhrosglwyddadwy, yn fwy tebygol o ddal COVID-19 a dioddef canlyniadau gwaeth.
Mae synthesis newydd o ymchwil sy'n edrych ar COVID-19 ac amrywiaeth o wahanol glefydau trosglwyddadwy yn awgrymu, os ydym am baratoi at bandemigau clefyd heintus yn y dyfodol, bod rhaid i ni geisio datrys yr argyfyngau iechyd byd-eang parhaus sy'n ymwneud â gordewdra, diffyg gweithgarwch corfforol, ysmygu ac yfed alcohol.
Yn y BMC Public Health (), cyfunodd Dr Sophie Harrison a chydweithwyr yn yr Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus, Ysgol y Gwyddorau Meddygol ac Iechyd, Prifysgol 亚洲色吧, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ganfyddiadau o 53 adolygiad, a oedd yn cynnwys dros 2000 o ddarnau unigol o ymchwil, ar ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd iechyd (ysmygu, camddefnyddio alcohol, defnyddio cyffuriau, gordewdra, diffyg gweithgarwch corfforol) a'u cysylltiad â gwahanol afiechydon heintus, gan gynnwys ffliw, twbercwlosis, hepatitis a COVID-19. Mae’r canfyddiadau yn awgrymu bod unigolion sydd yn ymddwyn mewn ffordd sy’n niweidiol i iechyd hefyd mewn mwy o berygl o ddal a/neu ddatblygu ffurfiau mwy difrifol o amrywiaeth o glefydau heintus.
Cred yr awduron mai hwn yw'r tro cyntaf i adolygiad ddod ag astudiaethau ynghyd sy'n archwilio effaith ffactorau risg ymddygiadol ar amrywiaeth o afiechydon trosglwyddadwy.
Meddai Dr Sophie Harrison o Brifysgol 亚洲色吧:
“Mae ymddygiad penodol, fel defnyddio alcohol, ysmygu, gordewdra, a defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, yn amharu ar y system imiwnedd. Gall nam ar y system imiwnedd wneud unigolion yn fwy agored i afiechydon trosglwyddadwy ac yn llai abl i reoli neu wella o haint, gan arwain at ganlyniadau gwaeth. Gall defnyddio alcohol neu gyffuriau hefyd leihau effeithiolrwydd triniaeth ar gyfer clefydau trosglwyddadwy.”
Meddai’r Athro Mark Bellis, cyd-awdur yr astudiaeth: “Nid ydym yn gwybod pa organeb heintus fydd yn cynrychioli’r bygythiad mawr nesaf i iechyd byd-eang. Oherwydd hynny, rydym wedi archwilio sut mae risgiau haint a salwch o amrywiaeth o glefydau heintus yn cael eu heffeithio gan ymddygiad 'ffordd o fyw' sy’n nodweddiadol yn gysylltiedig â chlefydau anhrosglwyddadwy fel diabetes a chanser. Mae ein canfyddiadau yn awgrymu bod lleihau ymddygiad niweidiol i iechyd fel diet gwael, ysmygu a chamddefnyddio alcohol yn debygol o wella gwytnwch i wahanol heintiau a lleihau risgiau ac effeithiau bygythiadau clefydau heintus hysbys ac anhysbys yn y dyfodol."
Meddai Natasha Judd o Brifysgol 亚洲色吧: “Mae'n hysbys bod ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd yn clystyru ymhlith poblogaethau difreintiedig, ac felly mae rhwystro ymddygiad o’r fath, yn enwedig ymhlith poblogaethau difreintiedig, yn debygol o wneud cyfraniad mawr at leihau anghydraddoldebau iechyd a baich anghyfartal pandemigau yn y dyfodol”.
Meddai Sara Wood, prif awdur Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gan fod diddordeb y cyhoedd mewn iechyd wedi cynyddu yn ystod y pandemig COVID-19, mae hwn yn gyfle da i bobl ystyried y camau gallent eu cymryd i wella eu hiechyd er mwyn eu helpu i amddiffyn eu hunain rhag afiechydon trosglwyddadwy ac anhrosglwyddadwy.”
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2021