Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol 亚洲色吧 yn ennill Gwobr Iechyd
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi ennill gwobr nodedig ym maes iechyd yn y DU sy'n rhoi cydnabyddiaeth i bobl a sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i hyrwyddo iechyd a lles yng ngwledydd Prydain.
Roedd y Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar yn llwyddiannus yng nghategori sefydliadau Gwobrau Sefydliad Bevan yn Senedd y DU. Mae鈥檙 Gwobrau鈥檔 cydnabod unigolion a sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i iechyd a lles yn eu maes ac sy'n ymgorffori gwerthoedd sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Roedd y Ganolfan ymysg nifer o fudiadau o bob cwr o鈥檙 DU i gyrraedd y rhestr fer, ac fe鈥檌 gwobrwywyd yn bennaf am ei gwaith yn hyfforddi a rhoi cefnogaeth i glinigwyr ledled gwledydd Prydain ddarparu therapi gwybyddol sy鈥檔 seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar i bobl sy鈥檔 dioddef o iselder, yn unol 芒 chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE).
Meddai Rebecca Crane, Cyfarwyddwr y Ganolfan:
鈥淩ydym yn falch iawn ac mae鈥檔 anrhydedd derbyn y wobr hon. Rydym yn derbyn y wobr ar ran yr holl glinigwyr drwy wledydd Prydain sydd wedi derbyn hyfforddiant gyda ni ac sy'n mynd yr ail filltir i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r cleifion maent yn eu gwasanaethu yn y GIG. Mae eu hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus yn ysbrydoliaeth barhaus i ni.
鈥淢ae ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn ysbrydoli llawer o glinigwyr ar lefel bersonol ac yn eu cynorthwyo i gynnal eu hunain drwy heriau eu gwaith. Mae'n wych bod hyfforddiant mewn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei gynnig fwyfwy ar lawr gwlad i gleifion yn y GIG, ac mewn rhai ardaloedd yn gwneud cyfraniad at ddylanwadu ar feithrin diwylliant mwy tosturiol sy鈥檔 canolbwyntio ar y claf. Rydym yn ddiolchgar iawn i Chris Ruane AS am ein henwebu ni.鈥
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o ddatblygu鈥檙 gallu i ganolbwyntio mewn ffordd bwrpasol ac anfeirniadol sy'n hoelio sylw ar y foment. Mae'r ymarfer wedi ei seilio i raddau ar draddodiadau myfyrio hynafol ond mae wedi'i ddatblygu'n rhaglen hyfforddi wyth sesiwn ar gyfer cyd-destunau seciwlar cyfoes.
Mae cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar yn awr yn cael eu cynnig gan y GIG mewn nifer o ardaloedd fel triniaeth i ystod o anhwylderau iechyd meddwl yn dilyn ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol. Mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos fod ymwybyddiaeth ofalgar yn arwain at ostyngiad o 40-50% yn y risg i rai sy'n dioddef o iselder gael ail bwl o'r salwch.
Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol 亚洲色吧, ac ymwybyddiaeth ofalgar yn gyffredinol, wedi cael cryn amlygrwydd yn ddiweddar, yn dilyn sefydlu gr诺p ymwybyddiaeth ofalgar yn San Steffan a chyfres o gyfweliadau a rhaglenni dogfen ar ymwybyddiaeth ofalgar ar BBC Radio 4 yn ystod y mis diwethaf.
Mae鈥檙 Ganolfan wedi rhoi arweiniad cyson ar lefel y DU o ran galluogi i'r dystiolaeth ymchwil gadarn ar effeithiolrwydd ymwybyddiaeth ofalgar gael ei rhoi ar waith o fewn y GIG a chyd-destunau eraill. Yn ystod y cyfnod hwn o gynnydd mewn diddordeb mewn ymwybyddiaeth ofalgar, mae Canolfan 亚洲色吧 wedi cynyddu ei phwyslais ar y pwysigrwydd i sefydliadau, comisiynwyr ac ymarferwyr roi sylw i ddidwylledd ac ymarfer da.
Mae Sefydliad Bevan yn elusen gofrestredig sy'n ystyried bod y wladwriaeth les, a sefydlwyd gan Aneurin Bevan, yn sylfaenol i hybu cydraddoldeb a chyfiawnder ac mae'n datblygu atebion i frwydro anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, gan anelu at fynd i'r afael 芒 gwreiddiau sylfaenol problemau.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2014