Canfod ffyrdd newydd o fyw gyda dementia
Wrth i Lywodraeth Cymru wahodd ymatebion i鈥檞 Strategaeth Dementia a lansiwyd yn ddiweddar, mae Prifysgol 亚洲色吧 yn dod 芒 phobl sy鈥檔 byw gyda dementia ynghyd, yn ogystal 芒 chyrff sydd yn gweithio ar gefnogaeth sy鈥檔 berthnasol i ddarparu gwasanaethau, i rannu ymarfer dda yng Ngogledd Cymru.
Bydd y , Byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru, a gynhelir yn y Brifysgol ar Ionawr 27, yn clywed profiadau pobl sy鈥檔 byw 芒 dementia yn ogystal 芒 phrofiadau nifer o gyrff sydd yn darparu rhaglenni sydd yn cefnogi rhai sydd 芒 dementia ac yn cynnal ymchwil yn y maes.
Sefydlodd un o drefnwyr y Gynhadledd, Dr Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn Dementia y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol, Rwydwaith Dementia Gogledd Cymru yn ddiweddar, fel bod pobl sy鈥檔 byw gyda dementia, eu teuluoedd a rhai sydd yn gofalu amdanynt, yn medru rhannu profiadau mewn amgylchedd o gefnogaeth.
Meddai Catrin:
鈥淢ae鈥檔 hanfodol bwysig ein bod yn canfod cymaint o ffyrdd ag sydd bosibl o gefnogi pobl sydd 芒 dementia, eu teuluoedd a gofalwyr, ac i ddatblygu cymunedau dementia-gyfeillgar. Rydym yn dysgu oddi wrth ein gilydd gan gynnwys ein 鈥榓rbenigwyr drwy brofiad鈥, fel ein bod yn canfod y modd orau i fyw bywyd llawn gyda dementia.鈥
Bydd nifer o brojectau arloesol yn cael sylw yn ystod y Gynhadledd, megis yr ymchwil traws-Brydain, Dementia a鈥檙 Dychymyg, sy鈥檔 cael ei gynnal gan Brifysgol 亚洲色吧 ac sydd yn edrych ar sut y gall ymgymryd 芒鈥檙 celfyddydau gefnogi a chyfoethogi bywydau pobl sydd yn byw gyda dementia. Mae鈥檙 project tair blynedd wedi cynnwys pobl sy鈥檔 ymwneud 芒 digyblaethau鈥檙 celfyddydau a鈥檙 dyniaethau, disgyblaethau iechyd a gwyddorau cymdeithas i holi a all celfyddyd wella bywydau pobl sydd 芒 dementia a鈥檙 rhai sydd yn gofalu amdanynt.
Bydd y rhai sydd yn mynychu鈥檙 Gynhadledd hefyd yn gweld darn o gelf sydd wedi ei gyd-greu gan bobl sydd 芒 dementia a gan ddisgyblion o Ysgol Brynrefail, Llanrug, Ysgol Gynradd Trefnant, Sir Ddinbych ac Ysgol Nannerch ger yr Wyddgrug.
Mae pynciau trafod y Gynhadledd yn cynnwys cyngor cyfreithiol a budd-daliadau, cyngor ar 么l diagnosis, hawliau dynol a鈥檙 Strategaeth Dementia newydd a sut y gall ymchwil gyfrannu. Bydd Dr Catrin Hedd Jones yn rhannu ei phrofiadau o ddod 芒 phlant meithrin ynghyd 芒鈥檙 henoed i dderbyn gofal gyda鈥檌 gilydd. Gwelwyd ffrwyth y project ar S4C yn ddiweddar, yn y rhaglen Hen Blant Bach, a gynhyrchwyd gan gwmni Darlun.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2017