亚洲色吧 yn ennill Cymrodoriaeth Arweinydd y Dyfodol
Mae academydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol 亚洲色吧 wedi ennill an Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI), un o brif gyrff cyllido'r Deyrnas Unedig.
Mae Dr Chris Staples yn ymuno 芒 phrif ymchwilwyr ac arloeswyr o bob rhan o'r wlad i dderbyn cyfran o'r 拢78 miliwn a ddyfernir fel Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol. Bwriad y buddsoddiad yw rhoi hwb i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddonol, i gynnal eu gwaith ymchwil arloesol ac i ddatblygu annibyniaeth eu hymchwil.
Ym mhob cell, mae ein DNA yn cael ei ddifrodi'n gyson, a gall newidiadau o'r fath i'n cod genetig arwain at afiechydon fel canser a niwroddirywiad. Rydym wedi esblygu mecanweithiau atal tiwmor mewn ymateb i hyn i atgyweirio mathau penodol o ddifrod i DNA. Mae rhai celloedd canser yn ddiffygiol wrth atgyweirio DNA ac felly gellir eu targedu gan gemotherap茂au neu radiotherapi sy'n niweidiol i DNA. Mae gwaith Dr Staples yn canolbwyntio ar ddeall y mecanweithiau atgyweirio hyn, a sut y gallent fod yn darged i therap茂au canser newydd wedi'u personoli.
Dywedodd Dr Staples, 'Rwy'n falch iawn o dderbyn y gymrodoriaeth hon, a bydd fy nh卯m a minnau'n gwneud ein gorau glas i gyflawni ein nod o ddeall ymhellach sut mae DNA yn cael ei atgyweirio, gyda'r gobaith o allu defnyddio ein canfyddiadau er budd cleifion canser'.
Dywedodd yr Athro Dean Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol 亚洲色吧:
'Rwy'n falch iawn bod y Gymrodoriaeth hon wedi cael ei dyfarnu i Dr Staples. Daw ar adeg gyffrous i鈥檙 Ysgol gan ein bod hefyd yn croesawu'r garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygol o Brifysgol Caerdydd, a fydd yn gallu cwblhau eu hyfforddiant meddygol cyfan yng Ngogledd Cymru. Mae'r datblygiadau newydd hyn yn wir fesur o ansawdd ein staff ymchwil ac addysgu. 鈥
Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn helpu prifysgolion a busnesau yn y Deyrnas Unedig i recriwtio, hyfforddi a chadw ymchwilwyr ac arloeswyr gorau'r byd, beth bynnag eu cefndir.
Dyfarnwyd 拢1.4m i Dr Staples dros 4 blynedd, gyda'r posibilrwydd o gefnogaeth dros 3 blynedd bellach.
Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth Chris Skidmore:
鈥淢ae gwireddu ein huchelgeisiau ymchwil ac arloesi yn golygu rhoi pobl yn gyntaf, p'un a ydynt newydd ddechrau ar eu gyrfa neu'n arwain projectau mawr yn y byd academaidd neu ddiwydiant.
Bydd y Cymrodyr Arweinwyr y Dyfodol ysbrydoledig hyn yn cynhyrchu syniadau at y dyfodol ac yn helpu i lywio gwyddoniaeth ac ymchwil yr 21ain ganrif. Ond er mwyn gwireddu llawn botensial y darganfyddiadau hyn, mae angen cymryd eu syniadau allan o'r labordy a'u troi'n gynhyrchion a gwasanaethau go iawn, lle gallant newid bywydau pobl er gwell.鈥
Dywedodd Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesi鈥檙 DU, yr Athro Syr Mark Walport:
鈥淏ydd Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn galluogi鈥檙 ymchwilwyr a鈥檙 arloeswyr mwyaf addawol i ddod yn arweinwyr yn eu priod feysydd, gan weithio ar bynciau mor amrywiol 芒 newid hinsawdd, dementia a chyfrifiadura cwantwm.
鈥淢ae UKRI wedi ymrwymo i greu gyrfaoedd modern mewn ymchwil ac arloesi ac mae ein Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn anelu at gefnogi a chadw'r bobl fwyaf talentog, gan gynnwys y rhai sydd 芒 llwybrau gyrfa hyblyg.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019