Athro o Fangor yn ennill Medal Hugh Owen
Dyfarnwyd Medal Hugh Owen i鈥檙 Athro Enlli Thomas, Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith, yr Ysgol Addysg, Prifysgol 亚洲色吧, am gyfraniadau i ymchwil addysgol, i gydnabod ei harbenigedd ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau mewn addysgu, dysgu a defnyddio鈥檙 Gymraeg.
Dyfarnwyd medalau鈥檙 Gymdeithas mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ddiweddar i ddathlu llwyddiant yn y byd academaidd. Yn anffodus nid oedd yr Athro Thomas yn bresennol gan ei bod mewn Cynhadledd Ryngwladol ar y pryd.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Thomas: 鈥淩wy鈥檔 falch iawn o fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr arbennig hon eleni, ac yn hynod ddiolchgar i鈥檙 rhai hynny a fy enwebodd ac i鈥檙 Gymdeithas am ddyfarnu鈥檙 fedal hyfryd hon i mi gan roi cydnabyddiaeth i鈥檓 gwaith. Mae hi wir yn fraint ac yn anrhydedd cael bod wedi gweithio mewn maes sydd yn agos iawn at fy nghalon ers dros 20 mlynedd bellach 鈥 sef datblygiad y Gymraeg a dwyieithrwydd mewn plant 鈥 ac mae鈥檔 braf cael bod yn rhan o鈥檙 bwrlwm cenedlaethol wrth i ni lunio strategaethau ac ymyraethau addysgol, yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn cymell rhagor o ddefnyddwyr o鈥檙 Gymraeg erbyn 2050.鈥
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: 鈥淢ae鈥檔 wych fod gennym ni鈥檙 amrywiaeth hwn o ragoriaeth sy鈥檔 cael ei gydnabod gyda dyfarnu鈥檙 medalau hyn. Mae鈥檔 arbennig o galonogol eu bod yn cynnwys pedwar ymchwilydd ifanc hynod dalentog.鈥
Mae medalau academi genedlaethol Cymru鈥檔 cydnabod cyfraniadau rhagorol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan ddathlu llwyddiant yr unigolion a anrhydeddir, a鈥檙 sector academaidd yng Nghymru, o brifysgolion i ysgolion.
Eleni dyfarnodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru saith medal gyda phob un wedi鈥檌 enwi er anrhydedd i ffigurau arwyddocaol yn hanes nodedig Cymru.
Dyfarnwyd Medal Frances Hoggan i鈥檙 Athro Tavi Murray FLSW o Brifysgol Abertawe i gydnabod ei gwaith ym maes ymchwil rhewlifol.
Dyfarnwyd medalau Dillwyn ar gyfer STEMM i Dr Rebecca Melen, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd EPSRC ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Emily Shepard, Athro Cyswllt yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe, a medalau Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes eleni i Dr Stuart Fox a Dr Luke Sloan, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
Dyfernir Medal Menelaus i gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw faes peirianneg a thechnoleg i ymarferwr diwydiannol a all ddangos cysylltiad penodol 芒 Chymru.Eleni, dyfarnwyd y fedal i鈥檙 Athro Roger Owen FREng FRS FLSW, Athro Ymchwil Peirianneg, Prifysgol Abertawe,
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019