Athro 'Food Dudes' yn cael ei benodi’n Arbenigwr Ewropeaidd
Mae’r Athro Fergus Lowe, sy'n arwain rhaglen bwyta'n iach y ‘’ llwyddiannus ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, wedi cael ei benodi’n aelod parhaol o Grŵp Arbenigwyr y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n rhoi cyngor technegol ar Gynllun Ffrwythau i Ysgolion y Comisiwn.
Mae'r cynllun gwirfoddol yn darparu ffrwythau a llysiau i blant ysgol, gyda’r bwriad o annog arferion bwyta da ymysg pobl ifanc. Ar wahân i ddarparu ffrwythau a llysiau, mae'n ofynnol i’r gwledydd sy’n cymryd rhan ar draws yr Undeb Ewropeaidd sefydlu strategaethau, gan gynnwys mentrau addysgol a chodi ymwybyddiaeth.
Wrth ei lansio yn 2008, cydnabu Cynllun y Comisiwn Ewropeaidd lwyddiant rhaglen Food Dudes Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, gan ei argymell yn fodel y gallai gwledydd Ewropeaidd ei fabwysiadu.
Mae'r rhaglen Food Dudes hynod lwyddiannus yn annog plant ifanc a’u teuluoedd i wneud dewisiadau bwyta iach. Mae ymchwil wedi dangos bod gwelliannau sylweddol yn newisiadau bwyd plant sydd wedi dilyn y rhaglen, a bod hynny’n parhau dros amser hir.
Mae'r rhaglen Food Dudes yn cael ei defnyddio’n rhyngwladol. Ar hyn o bryd, er enghraifft, mae’n cael ei chyflwyno ym mhob ysgol gynradd yn Iwerddon. Mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys, ymhlith eraill, Gwobr Sefydliad Iechyd y Byd am y rhaglen yn Iwerddon, a Gwobr Medal Aur Prif Swyddog Meddygol y DU am y defnydd a wnaed ohoni gan Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Wolverhampton.
Yn fwy diweddar, derbyniodd yr ymchwilwyr, yr Athrawon Fergus Lowe a Pauline Horne o Ysgol Seicoleg y Brifysgol, Wobr Trosglwyddo Gwyddoniaeth y Society for the Advancement of Behavioural Analysis yn eu confensiwn blynyddol yn yr Unol Daleithiau.
"Un o'r prif ffactorau sy'n gyfrifol am yr epidemig gordewdra yw’r newid yn niet plant, yn enwedig y gostyngiad yn y ffrwythau a’r llysiau y maent yn eu bwyta. Er lles eu hiechyd, mae'n hanfodol bwysig eu bod yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau a llai o fwydydd sy'n rhoi llawer o egni, ond sy’n cynnwys llawer o siwgr a braster. Dyna pam rwyf wrth fy modd i allu cyfrannu at Grŵp Arbenigwyr y Comisiwn Ewropeaidd," meddai'r Athro Lowe.
"Mae defnyddio egwyddorion ymddygiad yn allweddol i geisio gwella arferion bwyta plant a rhoi iddynt esiampl o fwyta'n iach y gallant ei ddilyn drwy’u hoes," ychwanegodd.
Mae'r rhaglen Food Dudes, sydd wedi'i chynllunio ar gyfer ysgolion cynradd, yn defnyddio pedwar cymeriad cartŵn sy’n bwyta'n iach - yr Food Dudes - ac ystod o ddulliau newid ymddygiad eraill - i helpu plant ddatblygu hoffter o ffrwythau a llysiau ac ymfalchïo eu bod yn fwytawyr iach.
DIWEDD
19.12.11
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2011