Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia
Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio 拢1.4 biliwn y flwyddyn. Y ganran uchaf o鈥檙 gost yw鈥檙 gofal di-d芒l a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a鈥檙 risg y bydd gofalwyr yn teimlo鈥檔 ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig.
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol 亚洲色吧 wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Y, yw cynyddu鈥檙 gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.
Dyfarnwyd Cymrawd Gofal Iechyd i Dr Catherine MacLeod o i ymchwilio i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl sy鈥檔 byw gyda dementia neu amhariad gwybyddol, a鈥檜 gofalwyr. Bydd y gwaith yn edrych ar sut y mae pobl yn cael mynediad at y gwasanaethau ac yn eu defnyddio ar hyn o bryd, pa gefnogaeth sydd ar goll, a鈥檜 profiad o eithrio cymdeithasol.
Meddai Catherine MacLeod:
鈥淩ydym yn awyddus i sicrhau bod pobl sy鈥檔 byw gyda dementia a鈥檜 teuluoedd yn derbyn y gofal a鈥檙 gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd fy ymchwil yn gwneud gwahaniaeth i鈥檙 gefnogaeth y mae鈥檙 bobl hyn yn ei derbyn.鈥
Dyfarnwyd Cymrawd Gofal Cymdeithasol i Dr Carys Jones o (CHEME) i ymchwilio i werth cymdeithasol gwasanaethau gan y sector trydyddol ar gyfer gofalwyr teulu pobl sy鈥檔 byw gyda dementia. Mae gan y canfyddiadau hyn y potensial i wella darpariaeth gwasanaethau drwy archwilio gwerth am arian cynlluniau trydydd sector.
Meddai Dr Carys Jones:
鈥淢ae gofalwyr teuluol yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl sy鈥檔 byw gyda dementia, ond mae eu hanghenion nhw鈥檔 cael eu hesgeuluso. Bydd yr ymchwil o bwys hon yn edrych ar wasanaethau sy鈥檔 cefnogi teuluoedd gan ddarparu cefnogaeth emosiynol, cyngor ymarferol am ofalu, a chyngor ar gynnal iechyd a lles y gofalwyr.鈥
Bydd y ddwy Gymrodoriaeth yn ceisio adnabod yr hyn sy鈥檔 gweithio i bwy wrth ddarparu鈥檙 gwasanaethau hyn, gan dynnu sylw at ymarfer da, ac archwilio ffactorau sy鈥檔 ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at y gwasanaethau hyn a鈥檜 defnyddio. Bydd y bobl sy鈥檔 byw gyda dementia a鈥檜 teuluoedd wrth galon y gwaith, ac yn weithredol wrth siapio datblygiad yr ymchwil, a chydweithio gyda鈥檙 ymchwilwyr er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl sy鈥檔 byw gyda dementia, a鈥檜 gofalwyr, i鈥檞 clywed.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017