Anti Glenda a'i ffrindiau Dementia - Eisteddfod Genedlaethol Mawrth 8 Awst
Mae adnodd aml-gyfrwng a gr毛wyd gan ddisgyblion Ysgol Pentreuchaf i godi ymwybyddiaeth o ddementia, wedi ei ddangos am y tro cyntaf mewn cyfarfod i drafod project arloesol, Project Anti Glenda, ym Mhabell Prifysgol 亚洲色吧 ar faes yr Eisteddfod bore 'ma (ddydd Mawrth 8 Awst).
Mae dementia yn broblem iechyd cyhoeddus o bwys yng Nghymru ac mae'r ymchwil a'r dysgu ym Mhrifysgol 亚洲色吧 wedi ei anelu at wella鈥檙 gefnogaeth i鈥檙 rhai hynny sy'n byw gyda'r cyflwr. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Gall y symptomau amrywio yn 么l y math o ddementia ond gall y cyflwr effeithio ar dasgau bob dydd, cyfathrebu, y synhwyrau a'r cof.
Mae Project Anti Glenda yn broject cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac yn ffrwyth cydweithio rhwng Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 亚洲色吧, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Anni Ll欧n, Bardd Plant Cymru (2015-2017), Ffrindiau Dementia, Gwasanaethau Cymdeithasol a dwy ysgol gynradd yng ngogledd Cymru (Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Llywelyn). Bu Glenda Roberts, sy'n byw gyda dementia, yn ymweld 芒'r plant a siarad gyda nhw am ei phrofiadau hi a chodi ymwybyddiaeth o鈥檙 cyflwr. Mae'r plant wedi creu amlgyfryngau ar y cyd (ffilmiau, cerddi a gwaith celf) i fynegi eu dealltwriaeth a helpu i wella ymwybyddiaeth o ddementia.
Roedd y sesiwn yn dathlu'r project ac yn tynnu sylw at adnoddau defnyddiol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 dementia. Bydd y rhai fydd yn bresennol yn cael clywed am fanteision posib y math yma o broject i blant ysgol yn ogystal 芒'r rhai sy'n byw gyda dementia a sut y mae鈥檔 fodel ardderchog o ymwneud cymunedol.
Yn 么l Dr Catrin Hedd Jones, darlithydd Coleg Cenedlaethol Cymraeg ar Ddementia yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, bydd y digwyddiad yn 鈥 gyfle gwych i ni rannu ymarfer da rhai sydd yn gweithio yn galed i roi cymorth i bobl sydd yn byw gyda dementia. Rydym yn hynod falch o鈥檙 bartneriaeth sydd gennym drwy Rhwydwaith Dementia y Gogledd, sydd yn sicrhau fod profiadau pobl sydd yn byw gyda dementia yn cael lle blaenllaw wrth drafod y dyfodol a pha ffordd gwell ond wrth roi cyfle i blant fynegi鈥檙 hyn maent yn ei gysylltu 芒鈥檙 cyflwr?鈥
Roedd yn bleser gan y T卯m estyn croeso cynnes i bawb sy'n gysylltiedig ag addysg (athrawon, gwneuthurwyr polisi, rhieni a disgyblion), gofal iechyd (ymarferwyr, myfyrwyr, gwneuthurwyr polisi), y trydydd sector (elusennau, cartrefi gofal) a'r rhai sy'n byw gyda dementia, rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ddementia neu sydd 芒 diddordeb yn y cyflwr, i ymuno 芒 ni i lansio project Anti Glenda.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017