Anrhydedd i ysgolhaig o Fangor am wasanaeth nodedig
Bydd Dr Carl Hughes o y Brifysgol, sydd yn Gyfarwyddwr cyrsiau 么l-raddedig mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn Ysgol Seicoleg Prifysgol 亚洲色吧 ac yn ddirprwy gyfarwyddwr y ganolfan newydd, Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn derbyn gan y gymdeithas Americanaidd, (SABA) yr wythnos hon.
Meddai鈥檙 Dr Hughes: 鈥淢ae hyn yn anrhydedd fawr i鈥檙 t卯m seicoleg ymddygiad yma ym Mangor. Rydym wrthi鈥檔 adeiladu ein rhaglen hyfforddi ymddygiad ers deng mlynedd ac mae鈥檔 wych bod gwaith y t卯m a鈥檙 myfyrwyr yn cael ei gydnabod ledled y byd. Sylfaen ein llwyddiant yw ymroddiad a gweledigaeth y darlithwyr ar y cwrs, a鈥檙 gweinyddwyr a鈥檙 cysylltiadau agos gydag athrawon ac ymarferwyr lleol sy鈥檔 awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau鈥檙 plant a鈥檙 oedolion maen nhw鈥檔 eu cefnogi. Credaf fod y pwyslais hwn ar gydweithio wedi gwneud ein hyfforddiant yn gwbl arbennig ac wedi sicrhau ei fod yn dal i fod yn berthnasol i ymarfer. Mae'n braf iawn bod cyfraniad y t卯m, y myfyrwyr a'r cwrs wedi cael eu cydnabod adeg ei ben-blwydd yn ddeg oed. Mae鈥檔 amserol hefyd yn sgil cyllido a datblygu Canolfan Newid Ymddygiad Cymru鈥檔 ddiweddar. Mae鈥檔 adeg gyffrous i fod yn seicolegydd ymddygiad yma ym Mangor鈥
Y wobr Gwasanaeth Nodedig yw鈥檙 clod mwyaf y mae'r gymdeithas o America'n ei roi ac mae'n cael ei rhoi i unigolion sydd wedi dangos cyfraniad gwerthfawr a chyson i seicoleg ymddygiad dros gyfnod o flynyddoedd lawer ym meysydd addysgu, ymchwil ac ymarfer. Dr Hughes yw'r person ifancaf erioed i dderbyn y wobr, a'r person cyntaf o Ewrop, a bydd yn teithio i'r Unol Daleithiau ym Mai 2014, ar draul y gymdeithas, i dderbyn y wobr yng nghynhadledd flynyddol 2014 ABAI yn Chicago.
Mae鈥檙 wobr yn cydnabod enw da a safon uchel y rhaglen meistr mewn dadansoddi ymddygiad cymhwysol. Y cwrs MSC mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol oedd y cyntaf o鈥檌 fath yn Ewrop yn 2003 a鈥檙 cyntaf i gael ei achredu gan Fwrdd Rhyngwladol Ardystio Dadansoddi Ymddygiad. Bellach mae 20 o raglenni tebyg ar draws Ewrop, ond rhaglen 亚洲色吧 yw鈥檙 un fwyaf o hyd, ac yn cael ei dilyn gan dros 100 o fyfyrwyr 么l-radd ar hyn o bryd. Y datblygiad diweddaraf yn y gr诺p yw sefydlu Canolfan Newid Ymddygiad Cymru.
Mae Dadansoddi Ymddygiad yn ddull ar sail tystiolaeth o helpu pobl mewn amrywiaeth o gyd-destunau, er enghraifft, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, awtistiaeth, mewn addysg prif ffrwd a lleoliadau addysg arbennig, byd busnes, ymddygiad diogelwch, ymysg eraill. Mae dros 400 o fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol wedi dilyn cwrs 亚洲色吧 ac erbyn hyn yn gweithio ym mhob cwr o鈥檙 byd, yn ogystal ag yn y gymuned yng ngogledd Cymru. Mae鈥檙 cwrs mewn partneriaeth gadarn gyda darparwyr gwasanaethau iechyd ac addysg y rhanbarth. Mae hefyd yn adlewyrchu natur ieithyddol y rhanbarth. Bellach mae鈥檔 cynnig bwrsariaeth astudio cyfrwng Cymraeg, ac mae myfyrwyr ar y cwrs wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gweithio'n lleol. Llynedd, cwblhaodd Dawn Owen ei thraethawd hir yn Gymraeg, y myfyriwr MSc cyntaf yn hanes yr Ysgol Seicoleg i wneud hynny.
Bwriad Canolfan Newid Ymddygiad Cymru, sydd wedi derbyn 拢1.8 miliwn o gyllid gan Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru a Phrifysgol 亚洲色吧, yw cymhwyso gwyddor ymddygiad er lles busnesau yma yng Nghymru, gan bwysleisio ymddygiad diogel, lles a datblygu cynaliadwy. Ers agor ym mis Ionawr 2013, mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru wedi cyflogi 7 o bobl ac wedi datblygu projectau gydag amrywiaeth o fusnesau bach a chanolig a sefydliadau mwy. Yn ddiweddar dyfarnwyd cyllid i鈥檙 ganolfan i gynnal cynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Chwmni Magnox Nuclear i weithio ar eu rhaglen diogelwch ar sail ymddygiad.
Yn ogystal 芒 chyhoeddi ffrwyth ei ymchwil academaidd yn y maes, mae Dr Carl Hughes hefyd yn arwain Gr诺p Dadansoddi Ymddygiad Arbrofol, yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop (EABG) ac wedi trefnu鈥檙 cynadleddau rhyngwladol yn Llundain ers 1998. Mae鈥檔 un o aelodau sylfaen Cymdeithas Dadansoddi Ymddygiad Ewrop ac yn ddiweddar cafodd ei ethol ar fwrdd sefydlu Cymdeithas Dadansoddi Ymddygiad gyntaf y Deyrnas Unedig. Mae鈥檔 aelod o fwrdd golygyddol nifer o gyfnodolion academaidd blaenllaw ym maes seicoleg ymddygiad.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014