Angen pobl sydd wedi goroesi strôc fel cefnogwyr yn y gymuned
Mae prosiect ymchwil newydd a chyffrous, sy'n anelu at wella ansawdd bywyd pobl sydd wedi goroesi strôc, wedi cychwyn yng ngogledd Cymru. Bydd y project ‘Grym y Bobl/People Power’ yn dwyn ynghyd cleifion sydd wedi cael strôc yn ddiweddar a goroeswyr strôc i rannu profiadau a’u helpu i wella.
Mae llawer o bobl sydd wedi cael strôc yn ei chael yn anodd mynd yn ôl at y math o weithgareddau teuluol a chymdeithasol oedd yn bwysig iddyn nhw cyn cael eu strôc. Mae mynd allan, ymweld â ffrindiau, neu ddod o hyd i hobïau newydd yn gallu bod yn anodd, ac yn aml mae pobl yn colli hyder i 'roi cynnig arni'.
Mae’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn gweithio ar broject ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Dr Salah Elghenzai, Meddyg Ymgynghorol ym meysydd meddygaeth gyffredinol/henoed, yn ogystal â Phrifysgolion Stirling a Nottingham i ddatblygu ffyrdd newydd o helpu pobl i ddarganfod neu ail-ddarganfod gweithgareddau cymdeithasol a hamdden ar ôl strôc. Mae'r tîm, sydd o dan arweiniad Dr Chris Burton o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn cynnal astudiaeth i weld a all pobl sydd wedi profi effaith strôc ac wedi gwella ohono fod yn 'gefnogwyr cymunedol' i bobl sydd wedi dod trwy strôc yn ddiweddar.
Bydd yr astudiaeth yn hyfforddi ac yn cefnogi’r bobl hyn fel rhan o'r astudiaeth fechan gychwynnol hon yng ngogledd Cymru ac yn gwerthuso effaith 'cefnogwyr cymunedol’ ar bawb sy'n gysylltiedig â’r astudiaeth. Y prif nod yw annog cyfranogiad ehangach mewn gweithgareddau sydd o fudd i bobl â strôc fel rhan o fywyd bob dydd, gan adeiladu ar adferiad yn y gymuned. Bydd cefnogwyr cymunedol yn cymryd rhan mewn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau hamdden ar gyfer unigolion neu grwpiau cymdeithasol - o grochenwaith i grwpiau celfyddydol. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden posibl, gan gynnwys, ond yn ymestyn y tu hwnt i gerdded, y gampfa neu nofio. Mae pobl sydd wedi cael strôc yn cyfrannu ‘grym pobl' trwy eu profiad a’u gwybodaeth am yr hyn sy'n gweithio ar gyfer pwy a phryd yn y gymuned leol.
Mae'r dystiolaeth yn dangos y gall pobl ei chael yn anodd parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a hamdden neu gychwyn rhai newydd ar ôl cael strôc. Mae hyn yn bwysig gan fod ymchwil yn dangos bod y bobl hynny sydd ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn fwy tebygol o gael ansawdd bywyd gwael. Datblygwyd Rhaglen Inpatient Support In Recovery from Stroke (INSPIRES) yng Nghanolfan Feddygol Foothills, Calgary, Canada, rhai blynyddoedd yn ôl i edrych ar gefnogaeth i bobl sydd wedi cael strôc yn yr ysbyty ac mae cyfoedion yn cael eu defnyddio i helpu pobl yn y cyfnod cynnar ar ôl cael strôc. Mae'r astudiaeth yng ngogledd Cymru yn canolbwyntio ar bartneriaeth gyda INSPIRES ac ar ddatblygu'r gwaith yng Nghymru ac yn y DU ond hefyd yn sefydlu model cymunedol y gellir ei defnyddio’n ehangach.
Dywedodd Dr Burton: "Rydym wedi clywed faint o gymorth fu’r cefnogwyr hyn i gleifion strôc yn ysbytai Canada. Rydym yn awyddus i weld a allwn gymhwyso’r hyn a ddysgwyd i’r heriau o ailadeiladu bywyd ar ôl strôc yng ngogledd Cymru."
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ‘gefnogwr cymunedol’ neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr astudiaeth, cysylltwch â'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É: Dr Sion Williams hss042@bangor.ac.uk Ffôn 01248 388451 neu Irina Constantin i. constantin@bangor.ac.uk www.bangor.ac.uk/healthcaresciences
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014