Amser graddio i fyfyrwraig lwyddiannus o Sir y Fflint
Mae tair blynedd wedi hedfan heibio i fyfyrwraig ddiwyd o Brifysgol 亚洲色吧 sydd yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yr wythnos hon.
Mae Katie Marie Hyslop, 22 yn hanu o Fwcle, Sir y Fflint, ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Elfed. Graddiodd gyda Gradd BSc Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol. Hefyd enillodd un o dair gwobr Dr John Roberts Jones gwerth 拢800 a ddyfernir bob blwyddyn i'r myfyrwyr gorau ar draws yr holl ddisgyblaethau. Enillodd Katie ddwy wobr gan yr ysgol hefyd, sef gwobr Sarah Smythe i'r myfyriwr sy'n ennill y marc cyffredinol cyfartalog uchaf yn yr ysgol a'r wobr Project Seicoleg i'r myfyriwr sy'n ennill y marc uchaf mewn Project Seicoleg/Rheolaeth Echddygol.
Mae Katie'n hapus ac yn llawn cyffro o feddwl am raddio. Dywedodd: "Mi ddois i un o ddiwrnodau agored y brifysgol a disgyn mewn cariad yn syth 芒'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Roeddwn i'n gwybod yn reddfol mai 亚洲色吧 fyddai'r lle perffaith i mi. Roeddwn i wedi bod mewn chweched dosbarth bach lle'r oedd yr athrawon i gyd yn eich adnabod a'r amgylchedd yn gyfeillgar ac yn ymlaciol. Roedd yn beth bwysig i mi wrth fynd ymlaen i addysg uwch fy mod i'n fwy na rhif.
"Hyd yn oed yn y diwrnodau agored, roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus ac yn gartrefol ym Mangor. Roedd y staff a'r arweinwyr cyfoed mor gyfeillgar a pharod i helpu, ac yn ateb fy holl gwestiynau ac roeddwn i wrth fy modd efo'r darlithfeydd, eu maint a'r awyrgylch cartrefol. Y prif ffactor arall a'm denodd i Fangor oedd y byddwn i'n cael fy nysgu gan ymchwilwyr sydd yn enwog yn rhyngwladol. I mi, roedd hyn yn gyffrous iawn ac yn fraint o'r mwyaf.
"Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, cymerais ran mewn cwpl o brojectau ymchwil gwych. Mewn un project, es i'r ysbyty a chael cast ar fy mraich chwith am 4 diwrnod. Roedd yn brofiad gwych ond gobeithio鈥檔 wir na fydda i byth yn torri unrhyw esgyrn oherwydd fyddwn i byth yn gallu ymdopi am fwy na 4 diwrnod! Project ymchwil gwych arall y cefais fod yn rhan ohono oedd gyda'r adran Seicoleg. Cefais gyfle i gael sgan fMRI. Roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan mewn llawer o brojectau ymchwil dan ofal myfyrwyr israddedig ac 么l-raddedig.
"Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf mi f没m yn gweithio gyda Gwirfoddoli Myfyrwyr 亚洲色吧 (SVB), ac yn helpu gyda Rhaglen Chwaraeon y Ddraig. B没m hefyd yn aelod o'r Clwb Hoci Merched. Roedd yn wych bod yn rhan o'r clybiau a'r cymdeithasau. Fe wnes i lawer o ffrindiau da ac roeddwn yn gallu chwarae a hyfforddi yn y gamp rydw i'n ei mwynhau a chystadlu yn erbyn llawer o brifysgolion eraill a thimau ar draws gogledd Cymru hefyd.
"Yn yr ail flwyddyn ymunais 芒'r cynllun Arweinwyr Cyfoed ac roeddwn i wrth fy modd a dois yn Brif Arweinydd Cyfoed yn yr ysgol yn ystod fy mlwyddyn olaf. Mi ddois yn Arweinydd Cyfoed am fy mod i am roi rhywbeth yn 么l i'r brifysgol yn ogystal 芒 helpu myfyrwyr newydd. Mae wedi bod yn brofiad gwych, o drefnu digwyddiadau i'r ysgol i gyflwyno yn y Diwrnodau Agored.
"Y diwrnod cyn dechrau arholiadau'r ail flwyddyn cafodd fy nhad ei ruthro i'r ysbyty ar 么l dioddef trawiad ar y galon. Pan ddywedodd fy mam wrtha i, dw i ddim yn meddwl fy mod i wedi sylweddoli'n llwyr pa mor ddifrifol oedd pethau, ac wrth edrych yn 么l credaf fy mod i'n rhedeg ar adrenalin tra oeddwn i'n gwneud arholiadau鈥檙 Nadolig. Ychydig o amser wedyn, pan gafodd fy nhad ei lawdriniaeth 'triple bypass' aeth pethau鈥檔 anodd wrth i mi ddod i delerau 芒'r hyn oedd wedi digwydd. Roedd y misoedd hynny'n rhai anodd iawn. Cefais anhawster i ganolbwyntio, roeddwn i'n gofidio'n arw, ac roeddwn i am fod yn gefn i鈥檓 mam a 'nhad. Drwy'r cwbl b没m yn cyfarfod 芒'm tiwtor, Jeanette Thom, a staff cefnogi eraill yr ysgol. Roedden nhw i gyd yn wych. Rhoeson nhw lawer o gefnogaeth i mi a gwneud trefniadau os oedd angen i helpu gyda fy ngwaith, dyddiadau cyflwyno, ac roedd ganddyn nhw amser o hyd i eistedd a chael sgwrs. Roedd pethau bach fel hyn yn gwneud y byd o wahaniaeth i gyd i mi ac yn fy nghadw i fynd!
"Uchafbwynt fy nghyfnod ym Mangor, heb os nac oni bai, ydi ennill y tair gwobr a graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf. Fyddwn i ddim wedi breuddwydio y byddwn yn derbyn unrhyw wobrau wrth orffen yn y brifysgol ac mae'n anrhydedd ac yn llawenydd mawr i mi dderbyn yr holl wobrau hyn.
"Ar hyn o bryd rydw i'n gwneud cais i lawer o gynlluniau graddedigion ac yn y dyfodol rydw i'n gobeithio dilyn gyrfa sydd yn fy ngalluogi i barhau i ddysgu ac i ehangu fy ngwybodaeth ac sydd hefyd yn fy herio. Rydw i hefyd yn cadw'r drws yn agored i ragor o addysg uwch."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014