Academydd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn siarad mewn gŵyl athroniaeth a cherddoriaeth mwya'r byd
Bydd David Healy o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn siarad yn HowTheLightGetsIn, gŵyl gerddoriaeth ac athroniaeth fwyaf y byd ym mis Mai eleni.
Mae How The Light Gets In yn dod â gwyddonwyr, cerddorion, athronwyr a gwleidyddion amlycaf y byd at ei gilydd mewn rhaglen amrywiol sy'n edrych ar elfennau realiti a all droi'n rhithiau yn fuan.
Bydd David Healy yn ymuno â Dianne Abbott a Natalie Bennet i ofyn a all cyfiawnder cymdeithasol ein gwneud yn iachach yn 'Are Hospitals bad for Us?' ddydd Sul, 24 Mai cyn rhoi sgwrs ar beryglon y diwydiant cyffuriau 'Are clinical trials a danger to us all?’ ddydd Llun, 25 Mai.
Bydd hefyd yn ymuno â Dinesh Bhugra a Havi Carel i roi meddygaeth ar brawf yn ‘Positive Thinking and The Name Game.’
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2015