Academydd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn rhoi tystiolaeth arbenigol yn Nhŷ’r Arglwyddi
Cyflwynodd academydd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É dystiolaeth gerbron Pwyllgor Dethol Materion Cartref TÅ·'r Arglwyddi yn ddiweddar. Galwyd yr Athro Michael Rees o'r Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad i roi tystiolaeth arbenigol ar effeithiau posib gadael cytundeb Euratom, a sefydlwyd i gydlynu diwydiant ynni niwclear sifil Ewrop yn dilyn creu Cymuned Economaidd Ewrop ym 1957, a'r goblygiadau i gofal cleifion ac ymchwil o ganlyniad.
Mae'r Athro Rees yn Athro Astudiaethau Cardiofasgwlaidd yn y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad ac mae hefyd yn Gyd-Gadeirydd Pwyllgor Staff Academaidd Meddygol y BMA. Mae'r BMA, Coleg Brenhinol y Radiolegwyr a Chymdeithas Meddygaeth Niwclear Prydain wedi mynegi pryder am gyflenwad isotopau yn y dyfodol, gan fod llythyr Erthygl 50 y DU hefyd yn nodi ei bod yn tynnu'n ôl o'r cytundeb.
Ar hyn o bryd, mae tua 700,000 o ymchwiliadau meddygol sy’n defnyddio isotopau meddygol yn digwydd bob blwyddyn, yn amrywio o ymchwiliadau i gyflyrau niwrolegol megis clefyd Parkinson a dementia, i astudiaethau ar gyfer canserau, thyroid a chlefyd y galon. Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o gyflenwad y byd o isotopau meddygol yn dod o adweithyddion niwclear yn Ewrop ac mae'n cael ei lywodraethu gan reoliadau'r UE ar farerion cynhyrchu a thrafnidiaeth. Mae gan yr isotopau oes half-life gyfyngedig hefyd, sy'n golygu eu bod mewn proses bydru cyson ac y gallai unrhyw oedi mewn cludiant - canlyniad posibl o newid trefniannau ffiniau yn dilyn Brexit – olygu bod isotopau yn difetha’n llwyr.
Gan gyflwyno ochr yn ochr ag Is-Lywydd Coleg Brenhinol y Radiolegwyr a Llywydd-Etholedig Cymdeithas Meddygaeth Niwclear Prydain, tynnodd yr Athro Rees sylw at yr heriau posibl a allai godi o ganlyniad i benderfyniad y DU i adael cytundeb Euratom. Er enghraifft, nid yw isotopau meddygol yn gallu cael eu stocio ac ar hyn o bryd nid oes gan y DU unrhyw adweithyddion ymchwil sy'n gallu eu cynhyrchu.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd yr Athro Rees yn cymryd rhan mewn trafodaethau pellach gyda'r Cymdeithasau Meddygol perthnasol a sefydliadau'r Llywodraeth er mwyn helpu i ddod o hyd i ffyrdd sy'n sicrhau bod cleifion yn parhau i gael eu hymchwilio a'u trin ag isotopau radio ar ôl i'r DU adael yr UE a chytundeb Euratom.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2017