A fydd athletwyr elit yn gallu defnyddio technoleg 'dopio'r' ymennydd i wella eu perfformiad?
Ysgrifennwyd papur safbwynt yn ddiweddar gan niwrowyddonydd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn "Sports Medicine" yngl欧n 芒'r posibilrwydd o wella perfformiad chwaraeon drwy 'niwrodopio'. Mae cymdeithas yn gyfarwydd iawn 芒'r datgeliadau o bobl enwog ym myd chwaraeon yn cymryd cyffuriau gwella perfformiad i ragori yn eu maes, ond mae ymchwil newydd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn awgrymu y gall dull o symbylu'r ymennydd roi canlyniadau tebyg.
Mae Dr Nick Davies yn yr Ysgol Seicoleg wedi bod yn edrych ar sut y gellir defnyddio'r dull symbylu cerrynt union trawsgreuanol anymwthiol (tDCS) i gynorthwyo dynion a merched elitaidd ym maes chwaraeon. Mae tDCS yn ddull o symbylu'r ymennydd trwy roi electrodau uwchben rhannau penodol o'r ymennydd ac yna anfonir cerrynt drwy'r gylched.
Fel yr eglura Dr Davis: "Defnyddir y dull hwn yn helaeth ym maes gwyddoniaeth a meddygaeth, er enghraifft i helpu pobl sy'n gwella ar 么l cael str么c, ond meddyliais efallai y gellir defnyddio'r union ddull hwn i wella perfformiad mewn chwaraeon.
Er enghraifft, er mwyn i chwaraewyr tennis allu serfio'n gryf mae'n rhaid iddynt ymarfer am amser hir, os byddent yn ymarfer eu sgiliau echddygol gan wisgo electrodau, gallent ddysgu'n gyflymach ac yn well. Ar y llaw arall, gall gwella canfyddiad gweledol eu helpu i ymateb a dychwelyd serf. Felly gall symbylu'r ymennydd wella gwahanol fathau o sgiliau chwaraeon.
"Gall symbylu'r ymennydd wella perfformiad mewn chwaraeon mewn dwy ffordd. Un ffordd yw yn ystod hyfforddiant, gall eich helpu i ganolbwyntio a'ch helpu i ddysgu gweithredoedd echddygol. Mae'r ffordd arall mewn perthynas 芒 pherfformiad, fel y gallwch ganolbwyntio'n well ac ymateb yn gynt.
"Mae'r ymchwil hwn yn ei ddyddiau cynnar, a gall fod yn beryglus, yn enwedig gan nad ydynt yn gwybod am unrhyw effeithiau tymor hir hyd yma."
Mae mesurau mewn grym mewn nifer o chwaraeon i ganfod y defnydd o gyffuriau gwella perfformiad ond nid yw'n bosibl ar hyn o bryd i ganfod a ddefnyddiwyd unrhyw ddulliau i ysgogi'r ymennydd. Mae papur Dr Davis hefyd yn awgrymu y gellir defnyddio niwrodopio mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol fathau o chwaraeon a bod rhaid i bob chwaraeon benderfynu a ddylid ystyried niwrodopio fel ffordd o dwyllo neu fel ffordd gyfreithlon o gynorthwyo hyfforddi a datblygu.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013