A all diagnosis cynharach wella canlyniadau canser yng Nghymru?
Mae adroddiad a baratowyd gan Brifysgol 亚洲色吧 ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud argymhellion ar sut i wella canlyniadau canser yng Nghymru.
Mae'r adroddiad, 鈥淐an earlier symptomatic diagnosis improve cancer outcomes in Wales?鈥 wedi ei ysgrifennu gan yr Athro Richard Neal o Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol 亚洲色吧 ac cafodd ei gyhoeddi mewn cynhadledd ym Manceinion(14 Mehefin) : Cancer Data and Outcomes Conference 2016: Using data to drive services. Mae'r Athro Neal yn feddyg teulu ac yn awdurdod amlwg ar wella cyfraddau meddygon teulu o ran canfod canser.
Mae ei adroddiad wedi ei seilio ar adolygiad o ymchwil a oedd yn bodoli eisoes.
Medda鈥檙 Athro Nichola Callow, Deon Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad:
鈥淒yma鈥檙 esiampl ddiweddaraf o gyfraniad hanfodol i wyddorau iechyd yng Nghymru ac o ymchwil gan Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 亚洲色吧. Bydd y Sefydliad yn parhau i dyfu ac i feithrin ymchwil ar y cyd ym Mangor sydd yn canolbwyntio ar nifer o heriau iechyd y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu, gan gynnwys canser, dementia ac adferiad.鈥
Mae adroddiad yr Athro Neal yn gwneud yr argymhellion canlynol:
Argymhellion i Lywodraeth Cymru
Gwneud rhoi diagnosis o ganser yn flaenoriaeth i'r llywodraeth. Un ffordd o wneud hyn fyddai cefnogi datblygiad a gweithgarwch Cynllun Ymwybyddiaeth a Diagnosis Cynnar Cymreig (WAEDI), neu rywbeth tebyg.
Ystyried mabwysiadu dull tebyg i'r un a ddatblygwyd yn Nenmarc ar gyfer asesu cleifion 芒 symptomau.
Cefnogi cynlluniau presennol a chynlluniau yn y dyfodol fydd yn ceisio cynyddu'r ymwybyddiaeth o ganser ar gyfer pob math o ganser yng Nghymru.
Cefnogi Cymru wrth iddi gymryd rhan ym modiwlau Rhan 2 y Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol.
Argymhellion i Fyrddau Iechyd
Cefnogi cynlluniau presennol a chynlluniau yn y dyfodol fydd yn ceisio cynyddu'r ymwybyddiaeth o ganser ar gyfer pob math o ganser yng Nghymru.
Cynnwys staff gofal sylfaenol yn llawn mewn materion sy'n ymwneud 芒 diagnosis canser drwy ofal sylfaenol, a darparu adnoddau ar gyfer diagnosis cynnar.
Darparu mynediad ehangach a chyflymach at ymchwiliadau diagnostig a barn arbenigol o ofal sylfaenol.
Gwneud y llwybrau diagnostig yn fwy effeithlon ac effeithiol ar gyfer pob claf sydd 芒 symptomau canser (cleifion brys yr amheuir bod canser arnynt neu fel arall).
Argymhellion ar gyfer ymchwil
Cael cyllid pellach ar gyfer cynigion parthed ymwybyddiaeth y cyhoedd o symptomau canser yng Nghymru.
Ceisio am gyllid pellach ar gyfer cynigion i hwyluso a chynyddu effeithlonrwydd diagnosis canser drwy ofal sylfaenol yng Nghymru.
Cael cyllid pellach ar gyfer cynigion wedi eu hanelu'n benodol at ganserau sy'n anos i'w diagnosio a'r canserau hynny sy'n fwy cyffredin ac sydd 芒 chanlyniadau heb fod cystal yng Nghymru (er enghraifft, yr ysgyfaint, yr ymennydd, myeloma, a鈥檙 stumog a鈥檙 perfedd uchaf).
Ceisio am gyllid ar gyfer cynnig fydd yn anelu at werthuso'n llawn economeg iechyd diagnosio canser yn gynharach yng Nghymru.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2016