CAM 5: MATERION SYLFAENOL TEITHIO
Mae'r canlynol yn amlinellu rhai pethau sylfaenol o ran synnwyr cyffredin wrth gynllunio i deithio i rai gwledydd.
Dylai'r cysylltiadau ar y prif Wefan Deithio fynd â chi at amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a ddylai ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Mae'r Llawlyfr Teithio Staff a Myfyrwyr yn rhoi llawer o wybodaeth.
Mae'r hefyd yn ddull defnyddiol arall i gynllunio'ch taith, yn cynnwys y pwyntiau hanfodol 'cyn i chi fynd' i sicrhau eich bod wedi ystyried fisâu, iechyd ac ati a phethau eraill a allai fod â chyfyngiadau amser.
Cysylltiadau
Achosion o argyfwng: |
Byddwch yn barod bob amser ar gyfer sefyllfaoedd 'beth os' a gwnewch yn siwr bod gennych yr holl rifau cyswllt a manylion gorchudd/yswiriant perthnasol rhag ofn y bydd argyfwng. Fel rhan o hyn, ystyriwch anawsterau yn gysylltiedig â sut byddech yn galw am gymorth. Er enghraifft, efallai na fydd eich ffôn symudol yn gweithio mewn rhai gwledydd neu efallai y bydd angen i chi brynu cerdyn SIM penodol. Ap defnyddiol yw'r a fydd yn eich helpu chi ac eraill i ddod o hyd i'ch union safle unrhyw le yn y byd. |
Cyswllt mewn Argyfwng |
Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É 24/7/365: +44 1248 38 2795 CEFNOGAETH ARGYFWNG a MEDDYGOL Ymateb Byd-eang +44 (0)2920 662425 email: UMAL@global-response.co.uk (Cyf: UMAL 026) |
Diwylliant: |
Gwiriwch arferion lleol a chrefyddol a all amrywio ac y mae'n rhaid i chi eu parchu o ran y ffordd rydych yn ymddwyn ac yn gwisgo, er enghraifft efallai bod dangos anwyldeb, yfed alcohol a ffilmio/ffotograffiaeth wedi eu cyfyngu neu hyd yn oed wedi eu gwahardd mewn rhai gwledydd. Byddwch yn barod hefyd y gall y ffordd y mae anifeiliaid a hyd yn oed pobl yn cael eu trin mewn rhai gwledydd fod yn wahanol i'r DU. |
Llety: |
Ceisiwch archebu llety y mae gennych wybodaeth amdano. Gofynnwch i gydweithwyr, ffrindiau neu deulu sydd wedi teithio i'r ardal o'r blaen neu siaradwch â'ch cyswllt tramor am gyngor. Neu defnyddiwch asiantau neu safleoedd archebu dibynadwy. Ar ôl cyrraedd, dylech ymgyfarwyddo ag allanfeydd tân etc, a chloi eich ystafell, hyd yn oed os mai dim ond picio i mewn yr ydych i gasglu rhywbeth rydych wedi ei anghofio. |
Cludiant: |
Mae cyflwr cerbydau a'r ffordd mae pobl yn gyrru yn amrywio o amgylch y byd, (nid pa ochr o'r ffordd y maent yn gyrru yn unig) a all wneud gyrru a hyd yn oed cerdded yn anodd. Efallai y bydd dulliau cludo anarferol hefyd i bobl leol y mae'n well eu hosgoi. AGofynnwch i gysylltiadau tramor neu eich gwesty am gyngor ar gludiant 'diogel', e.e. cludiant cyhoeddus, cwmnïau tacsi, cerbydau i'w llogi gyda gyrrwr. |
Lles Cyffredinol: |
Cofiwch efallai na fydd dwr yn syth o'r tap yn ddiogel i'w yfed neu efallai fod ganddo gynnwys mwynau gwahanol a all achosi anhwylder ar y stumog. Gall y mathau o fwyd sydd ar gael a safonau hylendid cyffredinol, gan gynnwys y math o doiledau hefyd fod yn wahanol ledled y byd. Pan fyddwch yn teithio mae bob amser yn syniad da cario hancesi papur sbâr (rhag ofn nad oes papur toiled) a gel gwrthfacteria i lanhau dwylo. Gweler Hanfodion Iechyd ar gyfer Teithio am fwy o gyngor ar iechyd cyffredinol. |
Diogelwch Cyffredinol: |
|
Lladrata: |
Peidiwch â chario pethau gwerthfawr, pasbortau ac ati oni bai bod yn rhaid i chi ac y dylech eu gadael mewn lle diogel os nad ydych yn eu cario, er enghraifft eu cadw yn sêff y gwesty. Hefyd, ewch â chopïau o ddogfennau hanfodol gyda chi bob amser neu storiwch gopïau electronig y gellwch fynd atynt os bydd angen. Mae hyn yn cynnwys dogfennau fel Gorchudd (Yswiriant) Teithio, Pasbortau, Fisâu, Tystysgrif Brechiadau. |