Defnyddio Cyfrifiaduron yn Ddiogel – Offer Sgriniau Arddangos (OSA)
Yn aml ni sylweddolir yn llawn y peryglon sydd ynghlwm wrth offer sgrin arddangos. Ond gall ymddaliad gwael, dyluniad ergonomig gwael a dim digon o seibiant arwain at anghysur ac weithiau anhwylderau cronig fydd yn effeithio ar eich bywyd cartref ac yn y gwaith.
Gan y bydd y mwyafrif ohonom yn defnyddio offer sgrin arddangos yn y gwaith, mae’r Brifysgol wedi cydnabod y ffaith hon ac wedi ymrwymo i geisio lleihau’r risgiau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio offer sgrin arddangos. Bydd y Brifysgol yn darparu offer addas, gorsafoedd gweithio, newid gweithgareddau, profion golwg am ddim a lle bo angen, sbectol gywirol i staff sy’n defnyddio offer sgrin arddangos, i sicrhau bod staff yn gallu cael ystum cyfforddus, cynaliadwy wrth weithio gyda DSE, a bod yr offer a ddarperir yn ddiogel ac yn addas i'w ddefnyddio.
Mae’n mynnu hefyd bod holl staff sy’n defnyddio offer sgriniau arddangos yn cwblhau hyfforddiant, lle cyflwynir gwybodaeth am ddefnyddio offer sgrin arddangos yn gywir. Bydd hyn yn eich galluogi i gynnal eich Asesiad Offer Sgrin Arddangos eich hun er mwyn canfod unrhyw broblemau. Hefyd dylai fod gan eich Adran/Gwasanaeth Proffesiynol ei asesydd Offer Sgrin Arddangos ei hun fydd yn gallu eich helpu.
– plîs cwblhau’r hyfforddiant ar-lein. Yna bydd y ffurflen yn cael ei anfon yn awtomatig at eich Asesydd OSA leol ar gyfer unrhyw gamau gweithredu i’w cwblhau.
Mae’r Safon Bolisi Defnyddion Gyfrifiaduron (OSA) yn Ddiogel yn pennu’r meini prawf y mae’r Brifysgol yn disgwyl i’r holl unigolion a phob Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol eu dilyn. Mae’r Taflenni Gwybodaeth gysylltiedig yn rhoi arweiniad ar sut y gellir cyflawni gofynion y Safon Bolisi. Maent yn ymwneud â’r meysydd pwnc canlynol:
- Prawf Golwg a Phryniant Offeryn Cywiro (Sbectol)
- Canllawiau ar gyfer Gweithio Gartref
- Rhestr o Aseswyr OSA lleol
- Problemau Iechyd – Eich Cwestiynau wedi ateb
- Awgrymiadau i Osgoi Problemau Iechyd
- Awgrymiadau i Wneud Addasiadau i siwtio’ch Anghenion
- Cyflyrau Iechyd Cysylltiedig a'r Gwaith a all effeithio ar yr Aelodau Uchaf
Cysylltiadau Defnyddiol:
- – efallai y bydd angen i chi gysylltu â ITS i osod y feddalwedd
- Llwybrau i Iechyd: OSA (Gwybodaeth Iechyd)
- Gwddf Tech a sut i'w Osgoi
- Sefydlu Monitor Deuol