Siarter y Brifysgol
Charles y Tryddyd trwy ras Duw, Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’n Teyrnasoedd a’n Tiriogaethau Eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd:
I BAWB Y BO A WNELONT Â HYN, HENFFYCH!
Ar y 4ydd o Fehefin 1885 dyfarnodd Ei Mawrhydi y Frenhines Victoria Siarter yn sefydlu a sylfaenu Coleg yn Ninas ÑÇÖÞÉ«°É o’r enw “Coleg Prifysgol Gogledd Cymru” gydag olyniaeth dragwyddol a sêl gyffredin, gyda’r grym i erlyn a chael ei erlyn yn yr enw hwnnw:
Yn 1922, 1951, 1977 a 1998 rhoddwyd Siarteri Atodol i’r Coleg ac yn 2007 newidiwyd enw’r Coleg i “Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É” neu “ÑÇÖÞÉ«°É”:
Tra bod y Brifysgol wedi deisyf yn wylaidd ar y Frenhines Elizabeth yr Ail ei bod yn ddymunol gwneud darpariaeth newydd mewn perthynas â’i dibenion, ei thrafodion a’i dyletswyddau trwy Siarter Atodol.
GAN FOD, ar 16 Chwefror 2022, y Frenhines Elizabeth yr Ail yn falch iawn o gymeradwyo Gorchymyn yn rhoi Siarter Atodol i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É;
A CHAN y bu marwolaeth Ei diweddar Fawrhydi cyn y gellid gweithredu Ei gwarant i ganiatáu pasio’r Siarter Atodol dan y Sêl Fawr gan roi iddi rym cyfreithiol;
A CHAN mai ein dymuniad yw dwyn dymuniadau Ei diweddar Fawrhydi i rym:
YN AWR GWYBYDDER CHWI, o gofio dymuniadau Ei diweddar Fawrhydi, y cadarnhawn drwy hyn roddi Siarter Atodol i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a thrwy rinwedd Ein Huchelfraint Frenhinol a’r holl bwerau eraill sy’n ein galluogi Ni yn hynny o beth, drwy Ein gras arbennig, y wybodaeth benodol y meddwn arni ac o’n llwyr wirfodd, yn rhoddi ac yn datgan ar ein cyfer Ein Hunain, Ein Hetifeddion a’n Dilynwyr Siarter Atodol i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn unol â’r telerau a nodir isod:
1. Y bydded corff corfforedig gydag olyniaeth dragwyddol a Sêl Gyffredin o’r enw “Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É” neu “ÑÇÖÞÉ«°É” (“y Brifysgol”).
2. Caiff Siarter 1977 (ac eithrio i’r graddau y mae’n ymgorffori’r Brifysgol ac yn rhoi olyniaeth dragwyddol a sêl gyffredin iddi), ei dirymu drwy hyn, ond ni fydd dim yn y dirymiad hwn yn effeithio ar gyfreithlondeb na dilysrwydd unrhyw weithred, gweithgarwch nac unrhyw beth a wnaed neu a gyflawnwyd yn gyfreithlon o dan ddarpariaethau Siarter 1977.
3. Amcanion y Brifysgol fydd hyrwyddo a lledaenu dysg a gwybodaeth trwy addysgu ac ymchwil a, thrwy ei bywyd corfforaethol yn ogystal â’i gwaith academaidd, galluogi myfyrwyr i gael manteision llawn addysg Brifysgol.
4. Bydd gan y Brifysgol holl bwerau person naturiol i wneud pob gweithred gyfreithlon sy’n ffafriol neu’n arwain at gyflawni amcanion y Brifysgol, sy’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r grym i ddyfarnu a dirymu graddau arhagoriaethau eraill (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: diplomâu, graddau ar y cyd, graddau deuol, tystysgrifau, cymrodoriaethau, graddau er anrhydedd, cymrodoriaethau er anrhydedd, aelodaeth ac aelodaeth gyswllt) yn ei henw ei hun a/neu ar y cyd â sefydliadau addysg eraill.
5. Ni fydd y Brifysgol yn rhoi unrhyw ddifidend, rhodd, rhaniad na bonws mewn arian i neu rhwng unrhyw aelodau o’r Cyngor neu swyddogion y Brifysgol, ac eithrio ar ffurf gwobr, grant arbennig neu ddyfarniad gan gynnwys fel taliad cydnabyddiaeth resymol a phriodol am nwyddau neu wasanaethau a gyflenwir i’r Brifysgol.
6. Ieithoedd swyddogol y Brifysgol fydd y Gymraeg a’r Saesneg
7. Bydded cyngor (“y Cyngor”), a hwn fydd corff llywodraethu goruchaf y Brifysgol a fydd yn gyfrifol am arfer grymoedd y Brifysgol. Bydd swyddogaethau’r Cyngor yn cynnwys, heb gyfyngiad:
7.1 gofalu am y Sêl Gyffredin a’r defnydd ohoni;
7.2 goruchwylio rheolaeth a gweinyddiad refeniw ac eiddo’r Brifysgol; a
7.3 goruchwylio’r ffordd y caiff materion y Brifysgol eu cynnal.
8. Gall y Cyngor ddirprwyo’r cyfan neu unrhyw rai o’i swyddogaethau heblaw:
8.1 penderfynu ar gymeriad a chenhadaeth y Brifysgol, gan gynnwys penodi’r Is-ganghellor;
8.2
y cyfrifoldeb am sicrhau diddyledrwydd y Brifysgol ac am ddiogelu ei hasedau, gan gynnwys penodi archwilwyr, sefydlu pwyllgor archwilio a chymeradwyo cyfrifon archwiliedig blynyddol y Brifysgol; neu
8.3
wneud, newid, diwygio neu ychwanegu at y cyfryw Siarter hon.
9. Bydd y Cyngor yn cynnwys y personau canlynol, sef:
9.1 Hyd at ddeuddeg o bobl y tu allan i’r Brifysgol, (“Aelodau Annibynnol”), gan gynnwys y Cadeirydd a hyd at ddau Ddirprwy Ganghellor;
9.2
Dau aelod o’r Senedd;
9.3
Un aelod a enwebir gan y staff academaidd;
9.4
Un aelod a enwebir gan y staff anacademaidd;
9.5
Yr Is-ganghellor;
9.6
Y Dirprwy i’r Is-ganghellor;
9.7
Llywydd Undeb y Myfyrwyr; ac
9.8
Un swyddog etholedig arall o Undeb y Myfyrwyr a benodir gan bwyllgor gweithredu’r sefydliad hwnnw.
10. Cyfnod gwasanaeth yr aelodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9.1, 9.2, 9.3, a 9.4 fydd pedair blynedd a byddant yn gymwys i’w hailbenodi fel arfer am un cyfnod pellach o hyd at bedair blynedd, oni bai bod darpariaethau paragraff 12 yn berthnasol.
11. Cyfnod gwasanaeth yr aelodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau 5, 9.6, 9.7, a 9.8 yn aelodau o’r Cyngor fydd cyhyd ag y byddant yn eu swyddi priodol oni bai y collant eu swyddogaeth yn unol â’r Ordinhadau.
12. Gellir ailbenodi’r cadeirydd yn Gadeirydd y Cyngor am un cyfnod arall o bedair blynedd, yn amodol bob amser ar uchafswm cyfnod o wyth mlynedd.
13. Bydd deg aelod o’r Cyngor yn ffurfio cworwm, a bydd y mwyafrif ohonynt yn Aelodau Annibynnol.
14. Bydd y Cyngor yn penderfynu ar ba gyfryw swyddogion yn y Brifysgol i fod yn aelodau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
14.1 Y Canghellor, a fydd yn bennaeth seremonïol y Brifysgol; ac
14.2
Yr Is-ganghellor, a fydd yn brif swyddog academaidd a gweinyddol y Brifysgol.
15. Bydd gan Lys y Brifysgol (“y Llys”) y pwerau a’r swyddogaethau hynny a ddirprwyir iddo gan y Cyngor.
16. Bydded senedd o’r Brifysgol (“y Senedd”), a honno fydd awdurdod academaidd y Brifysgol yn amodol ar reolaeth a chymeradwyaeth gyffredinol y Rhoddir cyfle i’r Senedd wneud sylwadau ar unrhyw newid arfaethedig i’r cyfryw Siarter hon. Caiff y Senedd weithredu unrhyw swyddogaethau eraill a roddir iddi gan yr Ordinhadau.
17. Bydded undeb myfyrwyr y Brifysgol (“Undeb Myfyrwyr”) a fydd yn cynnal ac yn rheoli ei materion a’i chronfeydd ei hun yn unol â chyfansoddiad a gymeradwyir gan y Cyngor. Ni fydd unrhyw newid neu ddirymiad o’r cyfansoddiad hwnnw yn ddilys oni chymeradwyir hynny gan y Cyngor.
18. Atal, Disgyblu, Diswyddo a Chwynion Staff
Rhagarweiniad
18.1 Mae’r 18fed paragraff hwn yn ymwneud ag atal, disgyblu, diswyddo a chwynion staff. Ac eithrio lle nodir i’r gwrthwyneb, mae’r 18fed paragraff hwn yn berthnasol i bob aelod o staff.
Egwyddorion Cyffredinol Adeiladua Chymhwyso
18.2 Caiff y 18fed paragraff hwn ac unrhyw Ordinhadau neu reolau eraill a wneir oddi tano eu cymhwyso a’u dehongli ym mhob achos gan roi sylw i’r egwyddorion arweiniol a ganlyn:
18.2.1 sicrhau bod gan aelodau staff academaidd ryddid o fewn y gyfraith i gwestiynu a phrofi’r ddoethineb a dderbyniant, ac i gyflwyno syniadau newydd a safbwyntiau dadleuol neu amhoblogaidd, heb roi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau a all fod ganddynt yn y Brifysgol;
18.2.2
galluogi’r Brifysgol i ddarparu addysg, hyrwyddo dysgu a chymryd rhan mewn ymchwil yn effeithlon ac yn ddarbodus; ac
18.2.3
i gymhwyso egwyddorion cyfiawnder a thegwch.
18.3 Dylid ystyried unrhyw gyfeiriad yn y 18fed paragraff hwn at ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y gall fod wedi ei diwygio neu ei disodli o bryd i’w gilydd.
18.4 At ddibenion y 18fed paragraff hwn bydd yr ystyron a ganlyn i’r termau canlynol:
18.4.1 yr un ystyr fydd i “diswyddo” ag sydd iddo yn adran 95 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996; a
18.4.2 yr un ystyr fydd i “diswyddo drwy golli gwaith” ag sydd iddo yn adran 95 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996; a
18.5 Ni fydd y grym i ddiswyddo staff drwy golli gwaith, a’r ordinhadau a ragnodir mewn perthynas â grym o’r fath, o dan y 18fed paragraff hwn yn berthnasol i’r staff hynny a ddiffinnir yn is-adrannau (3) i (6) o adran 204 Deddf Diwygio Addysg 1988 (staff academaidd a benodwyd cyn 20 Tachwedd 1987 ac nas dyrchafwyd ar ôl hynny) a fydd at y diben hwn yn parhau yn ddarostyngedig i’r grymoedd, os o gwbl, a gymhwyswyd iddynt cyn cyflwyno’r Statud a wnaed gan Gomisiynwyr y Brifysgol wrth arfer eu grymoedd o dan adrannau 203 a 204 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
Atal
18.6 Gall yr Is-ganghellor, neu berson neu bersonau dynodedig eraill, atal unrhyw aelod staff o’i waith.
Disgyblu
18.7 Gall yr Is-ganghellor, neu berson neu bersonau dynodedig eraill, ddisgyblu unrhyw aelod
18.8 Pan fo aelod staff wedi’i ddisgyblu yn unol â pharagraff 7, caiff yr aelod hwnnw o staff apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i berson dynodedig.
Diswyddo
18.9 Gall yr Is-ganghellor, neu berson neu bersonau dynodedig eraill, ddiswyddo unrhyw aelod staff naill ai gyda rhybudd neu heb rybudd, yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos.
18.10 Pan fo aelod staff wedi’i ddiswyddo yn unol â pharagraff 18.9, caiff yr aelod hwnnw o staff apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i berson dynodedig.
Cwynion
18.11 Caiff unrhyw aelod staff wneud cais i unioni unrhyw gwynion sy’n ymwneud â chyflogaeth yr aelod hwnnw o staff.
18.12 Pan fo aelod staff yn anfodlon â chanlyniad cwyn yn unol â pharagraff 7, caiff yr aelod hwnnw o staff apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i berson dynodedig.
Ordinhadau
18.13 Bydd y Cyngor o bryd i’w gilydd (yn dilyn trafodaeth gyda’r undebau llafur perthnasol) yn gwneud ac yn diwygio Ordinhadau sy’n pennu personau dynodedig i’w penodi a pholisïau a gweithdrefnau i’w dilyn wrth arfer y grymoedd a’r dyletswyddau a gynhwysir yn y 18fed paragraff hwn, gyda’r cyfryw Ordinhadau yn cwmpasu ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
18.13.1 Diswyddiadau;
18.13.2
Peidio ag adnewyddu contractau tymor penodol a diswyddo trwy derfynu contractau cyllido tymor penodol;
18.13.3
Ymddygiad a rhesymau sylweddol eraill dros ddiswyddo;
18.13.4
Gallu a pherfformiad;
18.13.5
Analluogrwydd ar sail iechyd;
18.13.6
Terfynu penodiadau prawf;
18.13.7
Terfynu ar sail anghyfreithlondeb;
18.13.8
Terfynu swyddi nad ydynt yn rhai parhaol;
18.13.9
Cwynion staff; ac
18.13.10
Yr Is-ganghellor
18.14 Os nad yw Ordinhadau wedi’u gwneud eto gan y Cyngor ar y dyddiad y daw’r Siarter Atodol hon o’n heiddo i rym, arferir y pwerau disgyblu, diswyddo a gwrando ar gwynion a nodir yn y 18fed paragraff hwn yn unol â’r gyfraith gyffredinol a chodau ymarfer statudol hyd nes y gwneir Ordinhadau.
19. Gall y Cyngor ddiwygio, ychwanegu at, neu ddiddymu’r Siarter hon drwy benderfyniad a basiwyd mewn cyfarfod o’r Cyngor gan fwyafrif o ddim llai na thair rhan o bedair o’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio. Bydd y cyfryw ddiwygiad, ychwanegiad neu ddiddymiad, pan ganiateir gennym Ni, Ein Hetifeddion neu Olynwyr yn y Cyfrin Gyngor, yn dod i rym fel y gweithredo’r cyfryw Siarter hon fel pe’i dyfarnwyd yn wreiddiol a hynny fel y’i diwygiwyd, yr ychwanegwyd ati neu y’i diddymwyd.
20. Ein Hewyllys a’n Dymuniad Brenhinol yw y dehonglir y cyfryw Siarter hon yn rhadlon ac ym mhob achos yn fwyaf ffafriol i’r Brifysgol ac er hyrwyddo amcanion y cyfryw Siarter hon.
YN DYSTIOLAETH o hynny yr Ydym wedi peri gwneud y rhain, Ein Llythyrau, yn Agored.
TYSTIED Ein Hunain yn San Steffan ar y dydd o
yn                               blwyddyn Ein Teyrnasiad.
TRWY WARANT O DAN LOFNOD Y BRENIN