Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
Ar 1 Ionawr 2005 daeth y Rheoliadau Amgylcheddol i rym sy’n caniatáu i bobl ofyn am wybodaeth amgylcheddol gan awdurdodau cyhoeddus, megis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
Mae’r Brifysgol yn cydnabod ei chyfrifoldeb corfforaethol dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (EIR).Ìý Gwenan Hine, Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio, sy’n gyfrifol am sicrhau bod y Brifysgol yn cadw at ofynion y Rheoliadau.
Yn wahanol i gais Rhyddid Gwybodaeth, nid oes raid gwneud cais ysgrifenedig am wybodaeth o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Gellir ei wneud dros y ffôn neu wyneb yn wyneb hyd yn oed. Nid oes angen i'r sawl sy'n gwneud y cais grybwyll eu bod yn gwneud y cais o dan y Rheoliadau hyn i'r rheolau sydd ynddynt fod mewn grym a gallant nodi hefyd ym mha fformat yr hoffent yr wybodaeth.
Wrth reswm, gallai rhyddhau rhai mathau o wybodaeth achosi canlyniadau niweidiol, er enghraifft mannau nythu rhywogaethau adar prin.Ìý Er mwyn gwarchod rhag hynny, mae’r Rheoliadau’n cynnwys nifer o eithriadau sy'n caniatáu i’r Brifysgol gadw’r wybodaeth honno dan gêl.Ìý
1.ÌýBeth yw gwybodaeth amgylcheddol?
Dyma'r wybodaeth y mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn berthnasol iddi:
a)ÌýGwybodaeth ynglÅ·n â chyflwr yr amgylchedd a ffactorau sy’n effeithio ar yr amgylchedd; er enghraifft, llifogydd, colli cynefin, difodiant rhywogaethau, nwyon ty gwydr, gwastraff ymbelydrol, sŵn, datblygiadau adeiladu ac ati.Ìý
b)ÌýGwybodaeth am fesurau megis polisïau, deddfwriaeth (gan gynnwys adroddiadau ynglÅ·n â gweithredu deddfwriaeth amgylcheddol), cytundebau amgylcheddol ac ati yn ogystal â dadansoddiad economaidd/cost a budd mesurau o’r fath.Ìý
c)ÌýGwybodaeth am gyflwr iechyd a diogelwch pobl, y gadwyn fwyd, diwylliant/adeileddau adeiledig ac amodau byw pobl, lle mae ffactorau amgylcheddol fel glaw asid, llygredd yn yr aer ac ati yn effeithio arnynt.
2. Sut mae'n effeithio ar staff y Brifysgol?
i)ÌýO dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mae’n ofynnol i’r Brifysgol gynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sydd eisiau gwneud cais am wybodaeth. Mae hyn yn golygu bod angen i chi wybod beth yw pwyntiau cyffredinol y Rheoliadau a sut i roi cyngor pan ofynnir i chi am hynny. Gallai'r math o help y gallai rhywun ofyn i chi amdano gynnwys y canlynol:
Ìýegluro sut mae mynd ati i wneud cais am wybodaeth (gweler 2 ii isod) neu gynnig cyngor a chymorth pellach.
ii)ÌýCaniateir hefyd o dan y Rheoliadau i aelodau o'r cyhoedd ofyn am unrhyw wybodaeth a nodir yn adran 1 uchod.Ìý
Gellir cyflwyno'r cais ar lafar neu'n ysgrifenedig (er y gall hynny gynnwys ffacsys, e-byst a negeseuon testun) i unrhyw aelod o staff y Brifysgol. Os daw cais atoch chi, trefn y Brifysgol yw ei gyfeirio ymlaen at y Rheolwr Cydymffurfiaeth a Chofnodion sy'n delio â cheisiadau o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (gweler adran 5 isod).Ìý Cofiwch na chawn ofyn i'r sawl sy'n gwneud y cais pam mae'n gofyn am yr wybodaeth. Hyd yn oed os gwnaed y cais ar lafar rhaid i'r Brifysgol roi ateb ysgrifenedig.
Does dim rhaid i geisiadau gyfeirio at y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol o gwbl.Ìý
Rhaid i’r Brifysgol ymateb cyn gynted â phosib ac o fewnÌý20 diwrnod gwaith fan bellaf, ac eithrio o dan amgylchiadau lle mae'r wybodaeth y gofynnir amdani'n arbennig o gymhleth neu eang.Ìý Mewn rhai achosion gellir ymestyn y terfyn amser 20 diwrnod gwaith arall, cyn belled â bod y Brifysgol yn hysbysu'r sawl a wnaeth y cais o fewn yr 20 diwrnod gwaith cyntaf ac yn dweud pryd mae'n credu y bydd yn anfon yr ymateb llawn.Ìý O dan delerau'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ni chaiff y Brifysgol godi tâl am yr isod:
- mynediad at unrhyw gofrestr neu restr gwybodaeth amgylcheddol, nag
- archwilio'r wybodaeth (mewn lle a ddewisir gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É)Ìý
Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi ffi briodol am ddelio â chais penodol am wybodaeth amgylcheddol yn unol â'r Rheoliadau.Ìý
3.ÌýBeth yw’r eithriadau?
Nid oes eithriadau absoliwt yn y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol; mae'r holl eithriadau'n amodol ar brawf lles y cyhoedd. Mae'r eithriadau i'r ddyletswydd i ddatgelu Gwybodaeth Amgylcheddol yn cynnwys:
- Nid yw’r wybodaeth gan y BrifysgolÌý
- Mae'r cais yn amlwg yn afresymolÌý
- Mae'r cais yn rhy gyffredinol (a byddai’r Brifysgol yn gofyn am eglurhad pellach gan y sawl sy’n gwneud y cais)Ìý
- Mae'r cais am ddogfennau neu ddata sydd heb eu gorffen (bydd y Brifysgol yn egluro pryd bydd y wybodaeth ar gael)Ìý
- Mae'r cais am wybodaeth at ddefnydd mewnolÌý
O dan y Rheoliadau mae angen i’r Brifysgol ystyried hefyd a ydyw er lles y cyhoedd ai peidio i ryddhau’r wybodaeth. Os yw er lles y cyhoedd i ryddhau’r wybodaeth bydd y Brifysgol yn gwneud hynny. Hefyd os penderfynir bod cadw’r wybodaeth o dan gêl o fwy o les i'r cyhoedd na’i datgelu, dylid ystyried yr effaith ar y buddiannau canlynol hefyd:
- Cyfrinachedd trafodionÌý
- Cysylltiadau rhyngwladol / diogelwch y cyhoedd / amddiffynÌý
- Cwrs cyfiawnder a’r hawl i achos teg mewn llysÌý
- Cyfrinachedd masnacholÌý
- Hawliau eiddo deallusolÌý
- Data personol / gwirfoddolÌý
- Gwarchod yr AmgylcheddÌý
Mae’n rhaid i’r Brifysgol fod yn sicr y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn yr achos hwn yn peri effaith niweidiol i un o'r buddiannau uchod. Mae’n rhaid i’r Brifysgol ei gwneud yn glir hefyd ym mha fodd y mae’n credu y byddai rhyddhau’r wybodaeth yn peri effaith niweidiol i'r budd hwnnw.
4.ÌýBeth am gwynion?
O dan y rheoliadau mae'n ddyletswydd ar y Brifysgol i gynnal trefn adolygu fewnol. Ìý Rhaid anfon hysbysiad gwrthod at y sawl a wnaeth y cais a fydd yn cynnwys y manylion isod:
i)ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Trefn adolygu/gwyno'r Brifysgol.Ìý Mewn achos felly byddai'r gŵyn yn cael ei thrin trwy drefn gwyno'r Brifysgol yn y lle cyntaf.ÌýÌý
ll)ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý Hawl y sawl sy’n gwneud y cais i apelio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr awdurdod rheoleiddiol dros y Rheoliadau sydd hefyd â'r grym i orfodi eu gweithredu.
The Information CommissionerÌý
Wycliffe HouseÌý
Water LaneÌý
°Â¾±±ô³¾²õ±ô´Ç·ÉÌý
°ä³ó±ð²õ³ó¾±°ù±ðÌý
SK9 5AFÌý
Ffôn 01625-545-700Ìý
Ffacs. 01625-545-510
5.Ìý°ä²â²õ²â±ô±ô³Ù¾±²¹»å²¹³Ü
I gael rhagor o wybodaeth sm y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol neu i drafod cais sydd wedi dod i law, cysylltwch â’r Rheolwr Cydymffurfiaeth a Chofnodion sy'n gyfrifol am geisiadau Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol:Ìý
Lynette Williams Ìý
Rheolwr Cydymffurfiaeth a Chofnodion
Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio
Prifysgol µþ²¹²Ô²µ´Ç°ùÌý
Ffordd y Coleg
µþ²¹²Ô²µ´Ç°ùÌý
Gwynedd LL57 2DG
Ffôn: (01248) 38 8530
Ebost: l.d.williams@bangor.ac.uk
Ìý