Yr astudiaeth fwyaf erioed ar effaith pysgota'n dod 芒 gobaith i bysgotwyr cregyn bylchog Bae Ceredigion
Mae gwyddonwyr o Brifysgol 亚洲色吧, a fu'n cydweithio 芒 , ac , wedi cyhoeddi eu darganfyddiadau o'r astudiaeth fwyaf erioed ar effaith pysgota, a gyllidwyd yn rhannol gan y Gronfa Pysgodfeydd Ewropeaidd.
Cafodd ei chau i bysgota am gregyn bylchog yn 2009. Mae ymchwil dan arweiniad Prifysgol 亚洲色吧 wedi canolbwyntio ar ddeall faint o bysgota cregyn bylchog o fewn yr ACA fyddai'n cael ei ystyried yn gynaliadwy ac na fyddai'n niweidio nodweddion cadwraeth yr ardal.
I wneud hyn treuliodd y t卯m 18 mis yn paratoi i gynnal arbrawf pysgota enfawr, gyda chychod masnachol yn pysgota i wahanol raddau mewn 12 o wahanol safleoedd. Cymharwyd canlyniadau'r pysgota 芒 phedair ardal na fu pysgota o gwbl ynddynt. Ar 么l gweld yn awr y gellir pysgota i ryw lefel yn yr ardal heb achosi niwed i'r amgylchedd, cam nesaf y gwaith yw darparu mwy o wybodaeth i alluogi'r asiantaethau sy'n gyfrifol i benderfynu ar fesurau rheoli at y dyfodol ac, os yw'n briodol, pennu lefel y pysgota sydd i'w ganiat谩u.
Meddai'r Athro Michel Kaiser, sy'n arwain yyn Prifysgol 亚洲色吧:
"Hon ydi'r astudiaeth gyntaf o'i bath sy'n rhoi gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i roi cyngor ar faint o bysgota y gall gwely'r m么r yn yr ACA ei oddef; mae'n sail i drefn weithredu wedi'i seilio ar ecosystem i reoli potensial pysgota yn yr ardal."
Caiff y rhan fwyaf o bysgodfeydd eu rheoli'n unol 芒'r rhywogaethau targed, sef cregyn bylchog yn yr achos hwn. Byddai pennu dau drothwy, un yn ymwneud 芒 tharfu ar wely'r m么r ac un ar gyfer cregyn bylchog, yn rhoi ysgogiad cryf i bysgotwyr i darfu cyn lleied 芒 phosibl ar wely'r m么r.
Meddai Dr Gwladys Lambert, a fu'n arwain yr ymchwil: "Fe wnaethom ddysgu llawer iawn o'r astudiaeth hon ac rydym yn gwybod yn fanwl gywir erbyn hyn i ba raddau y gellir pysgota am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion mewn ffordd gynaliadwy. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad y diwydiant pysgota a phroseswyr a weithiodd yn arbennig o galed i'n helpu i gyflawni'r gwaith gwyddonol unigryw yma."
Mae'r adroddiadau perthnasol (59, 60 a 61) ar gael
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2015