Ymuno i gael ynni rhatach o lanw'r m么r
Mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol 亚洲色吧 yn lansio project mawr i astudio cynnwrf y llanw yn y Fenai. Sut gall y project hwn helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw?
Mae egni'r m么r yn cynrychioli adnodd ynni helaeth a heb ei ddefnyddio gan fwyaf. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fyd-eang am ynni morol werth tua 拢76 biliwn rhwng 2016 ac 2050, yn 么l y ffigurau a ryddhawyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.
Er mwyn cael mynediad i'r ffynhonnell hon o ynni, mae eigionegwyr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol 亚洲色吧 wedi ennill dau grant mawr gwerth 拢230k i astudio'r cynnwrf yn y cefnfor. Yr amcan yw helpu i wella dyluniad a gweithrediad dyfeisiau i ddal ynni'r llanw.
Gwella asesu risgiau
Mae'r projectau newydd yn cysylltu'r t卯m ym Mangor gyda , gwneuthurwyr offer eigionegol, a Partrac, y cwmni sy'n arolygu ynni adnewyddadwy'r m么r. Bwriad y t卯m hwn o arbenigwyr yw gwella asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig 芒 chynnwrf ac felly helpu i leihau costau datblygu, gan arwain at ynni rhatach o'r llanw.
"Mae'r moroedd bas o amgylch y DU yn cynrychioli un o'r adnoddau ynni llanw gorau yn fyd-eang, yn cyfrif am oddeutu 10% o gyfanswm y byd. O ganlyniad, mae'r diwydiant ynni llanw yn sector o economi'r DU sy'n datblygu ac yn tyfu'n gyson", meddai Dr Martin Austin o Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol 亚洲色吧.
Mae eigionegwyr ffisegol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn cael eu cydnabod fel arweinwyr y byd mewn ymchwil i gynnwrf y m么r.
Galluogi arloesi mewn dulliau newydd o fesur
Caiff y canfyddiadau o'r projectau hyn eu hintegreiddio i ddatblygu cynnyrch arloesol Nortek. Fodd bynnag, nid dyma'r project ynni llanw cyntaf i Nortek, cwmni sy'n arbenigo mewn ADCP.
"Mae Nortek wedi bod yno ers y dechrau i helpu'r diwydiant ynni llanw. Roedd y gosodiad cyntaf gyda chwmni ynni adnewyddadwy Norwy, Hammerfest Strom, yn weithredol dros ddeng mlynedd yn 么l", meddai Atle Lohrmann, Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd Nortek.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd yr angen i ddeall sut gallai tyrbinau llanw wrthsefyll cerrynt cryf iawn, roedd yn ofynnol i Nortek ddatblygu galluoedd mesur newydd.
"Rydym yn cymryd rhan ym mhob cam o brojectau ynni llanw: Mae hyn yn cynnwys y wyddoniaeth o ddeall hinsawdd y llif a'r tonnau, asesu adnoddau mewn lleoliad penodol, a hefyd monitro cerrynt yn ystod y broses gynhyrchu", ychwanegodd Lohrmann.
Gwella'r dull o fesur cynnwrf
Caiff yr astudiaeth o gynnwrf y llanw ei gweithredu fel dau broject cysylltiedig a gefnogir gan grantiau gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) ac Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS2).
Bydd y project cyntaf yn canolbwyntio ar gasglu data newydd am gynnwrf yn y Fenai, a hefyd ymhellach oddi ar yr arfordir i ogledd-orllewin Ynys M么n. Bydd yr ymdrech hon yn datblygu ymhellach yr arbenigedd byd-enwog mewn technegau arsylwi acwstig ac optegol a gaiff eu harloesi ym Mangor.
Bydd yr ail broject yn canolbwyntio ar wella'r dull o fesur cynnwrf mewn llif egn茂ol y llanw, gan weithio hefyd yn labordy naturiol y Fenai.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2017