Ydi鈥檙 duedd i ddefnyddio iau pinc cywion ieir yn ein gwneud yn s芒l?
Mae pobl yn cael eu rhybuddio i gymryd y duedd i ddefnyddio iau cyw i芒r 'pinc' mewn ryseitiau gyda phinsiad o halen.
Darganfu ymchwil o Brifysgolion 亚洲色吧, Manceinion a Lerpwl bod o duedd bresennol o ddarparu iau cyw i芒r sydd prin wedi鈥檌 goginio yn achosi risg o wenwyn bwyd campylobacter i鈥檙 cyhoedd.
Ymchwiliodd yr astudiaeth i鈥檙 amseroedd coginio a nodir i nifer o ryseitiau cyfredol poblogaidd sy鈥檔 cynnwys iau cyw i芒r. Mae llawer o'r rhain yn argymell gweini iau cyw i芒r yn binc a鈥檌 goginio am amser annigonol i ladd Campylobacter. Hwn yw achos mwyaf cyffredin gwenwyn bwyd ym Mhrydain ac yn gyfrifol am fwy na 250,000 o achosion bob blwyddyn.
Canfu'r ymchwil hefyd fod rhwng 19% a 52% o 141 o gogyddion o amrywiaeth o geginau proffesiynol a gafodd eu holi eisiau gweini iau cyw i芒r mor amrwd fel na fyddai鈥檔 dod i 70掳c, sef y tymheredd angenrheidiol i ladd y pathogen Campylobacter.
Dywedodd Dr Paul Cross o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol 亚洲色吧: "Gweinir iau cyw i芒r mewn llawer o dafarnau a bwytai ledled y wlad, ac ymddengys mai鈥檙 duedd yw iddynt gael eu gweini鈥檔 'binc'.
"Mae鈥檙 ymchwil hefyd wedi holi dros fil o aelodau o'r cyhoedd a chogyddion am eu dewisiadau, ac a oeddent yn gallu adnabod cigoedd sydd wedi'u coginio鈥檔 ddiogel.
"Nid oedd y cyhoedd yn gallu adnabod iau cyw i芒r a oedd wedi'i goginio ddiogel o ran ei olwg. Nododd bron i draean y cyhoedd a gymerodd ran yn yr ymchwil fod iau i鈥檞 weld yn 'ddiogel', er ei fod mewn gwirionedd yn cynnwys cyfraddau goroesi Campylobacter o rhwng 48% a 98%."
Meddai鈥檙 Athro Dan Rigby o Brifysgol Manceinion, un o brif awduron yr astudiaeth: "Wrth i bobl fwyta eu st锚cs a darnau eraill o gig coch eraill yn fwy amrwd, mae鈥檔 ymddangos bod y duedd honno i鈥檞 gweld hefyd bellach mewn cigoedd gyda risg uwch, megis iau cyw i芒r a byrgyrs cig eidion."
"Darganfuwyd bod llawer o gogyddion yn gallu adnabod iau wedi'i goginio sydd wedi cyrraedd y tymheredd angenrheidiol i ladd y pathogenau, ond efallai bod eu dewisiadau o ran blas a gwead iau pinc yn drech na鈥檜 gwybodaeth am ddiogelwch bwyd."
"Ar y llaw arall, roedd y cyhoedd yn gyson yn eu dewisiadau - roeddent yn tueddu i ddewis prydau roeddent yn meddwl eu bod unol 芒 chanllawiau coginio diogel.
"Mae hyn yn bryder oherwydd roedd y cyhoedd hefyd yn wael am adnabod wrth olwg a oedd iau cyw i芒r wedi'i goginio ddigonol i fod yn ddiogel."
Dangosodd yr astudiaeth hefyd nad oedd cymaint o鈥檙 cyhoedd yn ffafrio bwyd a oedd prin wedi鈥檌 goginio ag roedd cogyddion yn ei gredu.
Nododd yr astudiaeth fod bron hanner y sampl cyhoeddus (48%) yn cytuno bod rhaglenni ar y teledu a'r ryseitiau mewn cylchgronau coginio wedi dylanwadu ar y cyhoedd i weini cig yn fwy pinc yn y canol.
Roedd 45% o gogyddion a holwyd yn yr astudiaeth hefyd yn cytuno eu bod wedi sylwi ar duedd o ddarparu iau cyw i芒r prin wedi鈥檌 goginio a mwy pinc ar y teledu, mewn ryseitiau ac ymhlith cogyddion.
Rhagwelir bod Campylobacter yn achosi dros gant o farwolaethau bob blwyddyn ac yn costio tua 拢900 miliwn i economi'r DU. Mae oddeutu pedwar o bob pump o achosion gwenwyn campylobacter yn y DU yn deillio o dda pluog wedi鈥檜 llygru.
Daeth yr Athro Rigby i鈥檙 canlyniad: "O ystyried y lefelau uchel o gyw i芒r wedi鈥檌 lygru gyda Campylobacter, mae鈥檔 debygol bod y duedd bresennol i weini iau cyw i芒r yn binc mewn amrywiol ryseitiau yn cyfrannu at broblem haint Campylobacter ymysg y cyhoedd. Hwn yw鈥檙 achos mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd yn y DU."
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016