Y gwaith yn dechrau ar system y Deyrnas Unedig o amcangyfrif achosion COVID-19 mewn d诺r gwastraff
Datganiad i'r Wasg gan UK Centre of Ecology & Hydrology
Bydd y gwyddonwyr yn datblygu system safonol i'r Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer canfod coronafirws mewn d诺r gwastraff, er mwyn rhoi rhybudd cynnar o achosion yn y dyfodol a lleihau'r ddibyniaeth ar wneud profion costus ar boblogaethau mawr.
Credir bod y rhan fwyaf o bobl sydd wedi'u heintio 芒 SARS-CoV-2 - y firws sy'n achosi'r clefyd COVID-19 - yn pasio'r firws yn eu carthion, hyd yn oed os nad oes symptomau ganddynt, ac felly credir bod craffu ar garthion yn ffordd addawol o adnabod mannau problemus yr haint at y dyfodol.
Ar y rhaglen ymchwil newydd 拢1m bydd arbenigwyr yn datblygu dulliau samplu, profi a modelu gwyddonol a gaiff eu mabwysiadu gan asiantaethau'r llywodraeth a gwyddonwyr ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y gwaith yn llywio a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Defra, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn penderfynu a oes posibilrwydd bod SARS-CoV-2 mewn d诺r gwastraff a slwtsh yn heintus, a sut mae ffactorau amgylcheddol fel golau'r haul a'r tymheredd yn ei wneud yn llai heintus. Bydd hyn yn eu galluogi i gadarnhau bod y canllawiau cyfredol yn amddiffyn gweithwyr mewn gweithfeydd carthffosiaeth, a hefyd yn asesu'r risg i bobl ac anifeiliaid o ganlyniad i ollwng carthion sydd wedi'u trin a heb eu trin i'r afonydd ac i'r moroedd.
Caiff y rhaglen ymchwil, sydd bellach ar y gweill ac a fydd yn para tan fis Hydref 2021, ei harwain gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UKCEH). Mae hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o brifysgolion 亚洲色吧, Caerfaddon, Caeredin, Cranfield, Caerhirfryn, Newcastle, Rhydychen a Sheffield, ynghyd ag Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.
Dywed Dr Andrew Singer o UKCEH, prif ymchwilydd y Rhaglen Genedlaethol newydd sy'n Arolygu Epidemioleg D诺r Gwastraff am COVID-19 (N-WESP): 鈥淢ae sawl astudiaeth wedi dangos y gellir canfod RNA SARS-CoV-2 - deunydd genetig y firws - mewn d诺r gwastraff cyn i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty lleol, sy'n golygu y gallai d诺r gwastraff fod megis 'caneri yn y pwll glo' ar gyfer COVID-19 a chlefydau heintus eraill newydd i bob pwrpas.
鈥淏ydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar epidemioleg mewn d诺r gwastraff - mae鈥檙 cysyniad yn seiliedig ar ddadansoddi d诺r gwastraff ar gyfer marcwyr clefydau heintus, cyffuriau anghyfreithlon neu fferyllol er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwell ynghylch iechyd cyhoeddus.
鈥淭rwy samplu d诺r gwastraff mewn gwahanol rannau o鈥檙 rhwydwaith carthffosiaeth, gallwn bennu'r achos yn raddol i ardaloedd daearyddol llai o faint, a bydd hynny'n galluogi'r swyddogion iechyd cyhoeddus i dargedu ymyriadau'n gyflym yn yr ardaloedd hynny lle mae'r perygl mwyaf o ledaenu鈥檙 haint.鈥
Eglura'r Athro Barbara Kasprzyk-Hordern o Brifysgol Caerfaddon, un o gyd-ymchwilwyr y rhaglen: 鈥淢ae epidemioleg d诺r gwastraff yn ddull addawol o fonitro pandemig, yn enwedig ar gyfer clefydau heintus fel COVID-19 lle mae achosion asymptomatig yn chwarae rhan sylweddol wrth drosglwyddo'r firws. O ystyried yr heriau ariannol a logistaidd o brofi nifer fawr o bobl, ac yna ceisio ynysu'r rhai sydd wedi'u heintio, gallai'r dull yma fod yn ffordd rad, anhysbys ac uniongyrchol o ddarogan achosion lleol a helpu atal yr haint rhag lledaenu."
Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn gweithio gyda Defra, asiantaethau'r amgylchedd, cyrff iechyd cyhoeddus a chwmn茂au d诺r ledled y Deyrnas Unedig. Byddant yn samplu d诺r gwastraff mewn sawl dinas fawr fel rhan o'r astudiaeth.
Dywed yr Athro Gideon Henderson, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Defra: 鈥淢ae'n galonogol gweld y gymuned wyddonol yn brwydro yn erbyn coronafirws trwy'r project hwn, ochr yn ochr 芒'r llywodraeth.
鈥淩ydym eisoes yn gweithio gydag ymchwilwyr, cwmn茂au d诺r a llywodraethau datganoledig yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon i fonitro am ddarnau o ddeunydd genetig y coronafirws mewn d诺r gwastraff yn y gobaith y bydd yn ein helpu ni ganfod achosion newydd.
鈥淓r mai dim ond megis dechrau mae'r wyddoniaeth ar hyn o bryd, bydd y project newydd hwn yn ein helpu ni ddatblygu鈥檙 dulliau yr ydym yn eu defnyddio.鈥
Ariennir y rhaglen ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), fel rhan o ymateb cyflym Ymchwil ac Arloesi鈥檙 Deyrnas Unedig i COVID-19.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2020