Y cyfarfod cyntaf i ddatblygu diwydiant pysgod cregyn Cymru
Mae cynhyrchwyr, gwyddonwyr a rheoleiddwyr pysgod cregyn yn cyfarfod ym Mhrifysgol 亚洲色吧 heddiw (4 Rhagfyr) ar gyfer y gweithdy cyntaf i ddatblygu Canolfan Pysgod Cregyn newydd. Bydd y ganolfan yn darparu anghenion ymchwil ac arloesedd y diwydiant, ac yn sicrhau twf cynaliadwy'r sector gwerthfawr hwn yng Nghymru.
Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Awst o 拢2.8m o arian yr Undeb Ewropeaidd i'r ganolfan wyddoniaeth ac arloesi newydd i hybu diwydiant pysgod cregyn Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Project, Yr Athro Lewis Le Vay o yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol:
"Mae'r gweithdy agoriadol hwn yn dwyn ynghyd randdeiliaid y diwydiant, cynrychiolwyr o'r llywodraeth, asiantaethau a rheoleiddwyr ac ymchwilwyr academaidd i gydnabod cyfleoedd a chyfyngiadau yng nghyswllt cynhyrchu pysgod cregyn ledled Cymru. Dyma fydd y cyntaf mewn cyfres o weithdai rhanddeiliaid sy'n cael eu cynnal trwy gydol y project, a fydd yn helpu i gadw'r ffocws ar anghenion y sector.
Mae'n gyfle hefyd i bartneriaid ymchwil posibl gwrdd 芒 th卯m y project, i glywed beth yw pwrpas y project, a pha weithgarwch sydd wrthi'n cael ei wneud, neu wedi ei gynllunio. Bydd pob gweithgaredd ymchwil a gynhelir gan y Ganolfan Pysgod Cregyn yn cael eu cynnal mewn cyfres o brojectau cydweithredol sydd wedi'u diffinio'n dda gyda phartneriaid diwydiannol. Mae'r gweithdy'n gyfle delfrydol i nodi a blaenoriaethu anghenion ymchwil a datblygu cydweithio newydd."
Dywedodd James Wilson o Gynhyrchwyr Cregyn Gleision 亚洲色吧, cynhyrchydd cregyn gleision a fydd yn dod i'r cyfarfod cyntaf:
"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at weld y Ganolfan Pysgod Cregyn yn cychwyn ar ei gwaith. Yn y sector, rydym ni wedi deall ers tro'r potensial yn nyfroedd Cymru i wella a chynyddu cynhyrchiant pysgod cregyn yn gynaliadwy gyda'r holl fuddion economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil hynny. Fodd bynnag, dim ond ychydig o dystiolaeth sydd wedi bod gennym wrth law i gefnogi'r uchelgais hon. Rydym yn gobeithio y bydd y Ganolfan Pysgod Cregyn yn gallu darparu'r darnau sydd ar goll yn y jig-so, a gwireddu'r potensial hwn o'r diwedd."
Cyllidir gwaith Arloesi a Datblygu Ymchwil y Ganolfan Pysgod Cregyn yn rhannol gan Raglen Weithredu Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2018