Wedi ei ganslo: Sgwrs yn rhagflaenu creu鈥檙 mynydd i芒 mwyaf erioed
Mae'r sgwrs wedi ei ganslo oherwydd amgylchiadau na ellir eu rhagweld.
Wrth i arbenigwyr ym meysydd rhewlifoedd, hinsawdd ac eigioneg ddisgwyl am y foment y rhagwelir y bydd silff i芒 Antarctig yn torri ac yn creu un o'r mynyddoedd i芒 mwyaf a gofnodwyd 鈥 tua chwarter maint Cymru 鈥 mae staff a myfyrwyr Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧 yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddarlith ar yr union bwnc hwn gan aelod o'r British Antarctic Survey (BAS).
Bydd yr Athro Hilmar Gudmundsson o鈥檙 BAS yn trafod 鈥淥cean-induced thinning of Antarctic Ice Shelves and the impact on the ice flow of the Antarctic Ice Sheet鈥 am 6.00 ar Chwefror 2 ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Gall y ddarlith hon, sydd wedi ei hanelu at fyfyrwyr ac academyddion y Brifysgol, fod o ddiddordeb i'r cyhoedd hefyd, o ystyried tynged bresennol y silff i芒 Larsen C, sydd o fewn 20 cilomedr o dorri鈥檔 rhydd.
Dywedodd trefnydd y sgwrs, Dr Mattias Green, sy鈥檔 Darllenydd mewn Eigioneg Ffisegol yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧:
"Mae'n anodd rhagweld effeithiau toriad mor fawr yn y llen i芒. Yr hyn sydd wedi ei weld yn y gorffennol yw bod rhewlifoedd wedi cyflym ar eu taith at y m么r, gan nad yw llen i芒 yn rhwystro鈥檜 llif at y m么r, ac yn ei dro, mae hyn wedi cael effaith ar y lefel y m么r. Yn y pen draw, bydd y mynydd i芒 ei hun yn cael ei gludo i ffwrdd gan y cerryntau, ond nid oes modd rhagweld llwybr ei daith gan nad yw鈥檙 basddwr yn y dyfroedd hyn wedi eu mapio yn dda. "
Ychwanegodd: "Mae gan yr Athro Gudmundsson record anhygoel mewn ymchwil ar ryngweithiadau i芒 cefnfor. Mae wedi treulio cryn dipyn o amser ar y llenni i芒 yn yr Antarctig yn casglu data a'i ddefnyddio i ddilysu ei fodelau rhifiadol. Mae hefyd yn dod yn 么l gyda lluniau anhygoel, felly dylai fod rhywbeth at ddant pawb yn ei sgwrs."
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017