Tywydd poeth am gyfnod hir yn lladd mwy na dwy ran o dair o'r cwrel
Astudiaeth yn dangos y collwyd riffiau cwrel helaeth yng nghefnfor India rhwng 2015 a 2017
Drwy gymharu riffiau cyn ac ar 么l dau gyfnod o dywydd poeth eithafol dim ond 12 mis ar wah芒n, darganfu t卯m cydweithredol o ymchwilwyr, gan gynnwys gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion 亚洲色吧 bod cwrelau caled byw yng Nghefnfor yr India wedi lleihau 70%. Er gwaethaf hyn, mae eu canlyniadau'n awgrymu bod rhai rhywogaethau cwrel yn fwy gwydn i dymheredd sy'n codi, sy'n cynnig gobaith i'r cynefinoedd hanfodol hyn.
Am bron i wyth wythnos yn 2015, roedd tymheredd d诺r y m么r o amgylch riffiau yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India (BIOT) yn anarferol o uchel. Cymharodd y t卯m arolygon o riffiau cwrel cyn y cyfnodau poeth ac ar eu h么l, i fapio newidiadau a achosodd y cynnydd hwn yn nhymheredd y d诺r i riffiau cwrel yr ynys.
Mae eu dadansoddiad, a gyhoeddwyd heddiw yn y cylchgrawn Coral Reefs, () yn dangos bod tywydd poeth 2015 wedi lladd 60% o gwrelau caled BIOT ar ddyfnderoedd o hyd at 10 metr, gyda rhai rhywogaethau'n cael eu heffeithio'n fwy nag eraill. Bu farw 86% o gwrelau Acropora, er enghraifft, sef y rhai mwyaf toreithiog cynt.
Cyn i'r cwrelau gael cyfle i adfer, cafwyd cyfnod arall o dywydd poeth yn BIOT dim ond flwyddyn yn ddiweddarach, a barhaodd am dros bedwar mis. Er nad oedd ymchwilwyr yn gallu asesu ei effaith ar draws yr holl ynysoedd, dangosodd data a gasglwyd ganddynt o Atol Peros Banhos fod 68% o'r cwrelau caled a oedd yn weddill wedi cael eu cannu, a 29% wedi marw, gan awgrymu y collwyd tua 70% o gwrelau caled rhwng 2015 a 2017 ar y cyfan.
Yn ddiddorol, er bod yr ail gyfnod o dywydd poeth wedi para'n hirach, lladdwyd llai o'r cwrelau a oedd wedi goroesi. Mae ymchwilwyr yn credu bod y cwrelau sy'n weddill yn fwy gwydn i dymheredd sy'n codi, a bod eu gallu i barhau ac adfywio yn gallu bod yn allweddol i ddiogelu riffiau rhag cynnydd yn nhymheredd y m么r a achosir gan newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Dr Catherine, Pennaeth Cymdeithas S诺olegol Llundain:
鈥淢ae ein data yn dangos bod y digwyddiad yn 2016 yn waeth nag yn 2015, ond fe wnaeth lai o ddifrod. Credwn fod hyn oherwydd bod tywydd poeth 2015 wedi lladd y rhywogaethau mwy bregus, ac roedd y rhai a oroesodd yn gallu goddef tymheredd poethach yn well. Yn anffodus, mae adroddiadau rhagarweiniol o fis Ebrill 2019 yn awgrymu bod cyfnod arall o dymheredd uchel yn y m么r wedi arwain at gannu mwy o gwrel yn BIOT, er nad ydym eto'n gwybod pa mor ddifrifol ydyw.
鈥淢ae'n galonogol bod gan riffiau rywfaint o wytnwch naturiol, er bod angen ymchwil pellach i ddeall y dulliau y mae rhai cwrelau yn eu defnyddio i amddiffyn eu hunain. Efallai mai dyma fydd ein gobaith gorau i achub y cynefinoedd hanfodol hyn rhag effeithiau trychinebus newid yn yr hinsawdd.鈥
Dywedodd y cydawdur, yr Athro John Turner o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧:
"Mae astudio effeithiau digwyddiadau cynhesu ar riffiau cwrel mewn lleoliadau anghysbell heb neb yn byw ynddynt yn bwysig, oherwydd gallwn nodi effeithiau newid yn yr hinsawdd yn absenoldeb aflonyddwch lleol arall megis llygredd, addasu cynefinoedd a physgota sydd hefyd yn amharu ar weithrediad ecosystemau riffiau cwrel. Mae BIOT yn ardal warchodedig forol fawr iawn, a gallwn ymchwilio i allu riffiau cwrel a ddiogelir rhag effeithiau eraill, i adfywio ar 么l y digwyddiadau cynhesu hyn. Y gwir bryder yw y bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at ddigwyddiadau cynhesu amlach a fydd yn parhau i ddadwneud y gwaith o adfer riffiau, ac felly gallai'r system sydd wedi goroesi fod yn wahanol iawn i'r system a gollir."
Dywedodd Dr Ronan Roche, cyd-awdur, o'r Ysgol Gwyddorau Eigion:
"Mae'r gydberthynas sylweddol rhwng amrywiad gofodol yn nirywiad Acropora a nifer yr wythnosau lle'r oedd tymheredd yn 1 gradd C yn uwch na'r tymheredd cymedrig am yr adeg hon o'r flwyddyn, yn rhoi tystiolaeth mai'r uchafbwyntiau yn nhymheredd y d诺r ym mis Mawrth-Mehefin 2015 a 2016 oedd prif achos y marwolaethau cwrel a gofnodwyd."
Cynhaliwyd yr ymchwil ar deithiau gwyddonol i Diriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India, a ariannwyd yn fwyaf diweddar gan Sefydliad Bertarelli, ac yn gynharach, gan Fenter Darwin. Roedd y t卯m yn cynnwys gwyddonwyr o Gymdeithas S诺olegol Llundain, Prifysgol 亚洲色吧, y Natural History Museum, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Gorllewin Awstralia a'r Ocean Conservation/WWF US. Mae'r Bertarelli Programme in Marine Science (BPMS) yn rhaglen gydweithredol ryngwladol fawr sy'n dod 芒 thros 50 o wyddonwyr o 14 sefydliad o bob cwr o'r byd at ei gilydd i weithio yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor yr India (BIOT). Yr Athro John Turner (亚洲色吧) sy'n arwain y project BPMS ar Gyflwr Riffiau Cwrel ac mae Dr Catherine Head (ZSL) yn arwain project y BPMS ar Fioamrywiaeth Riffiau.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019