Trafod Gwir Llew-Frenin y Gwyllt
Gyda Disney yn paratoi i ryddhau fersiwn newydd o鈥檙 ffilm The Lion King y mis yma, mae Dr Graeme Shannon o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn edrych ar sut mae鈥檙 ffilm wreiddiol yn portreadu ymddygiad cymdeithasol yr anifeiliaid.
Bydd y fersiwn newydd o un o glasuron Disney yn cael ei ryddhau ar Ddydd Gwener y 19eg o Orffennaf. Yn ymchwilydd a darlithydd profiadol ym meysydd s诺oleg ac ymddygiad anifeiliaid, mae Dr Graeme Shannon wedi bod yn edrych ar sut mae鈥檙 cart诺n yn darlunio anifeiliaid yn y gwyllt, yn enwedig llewod. Dywedodd:
鈥淥 ystyried ymddygiad anifeiliaid, mae Disney wedi edrych ar lewod yn bennaf ac maent wedi gwneud hynny鈥檔 reit dda, ond maen nhw鈥檔 amlwg wedi troedio鈥檔 ofalus wrth ddelio efo agweddau creulon ac ysglyfaethus y llewod. Mae hyd yn oed golygfa鈥檙 鈥榩aru鈥 wedi ei gwneud gyda ch芒n rhamantus yn chwarae yn y cefndir 鈥 pan fo paru llewod yn gwbl wahanol i hynny mewn gwirionedd!鈥
鈥淢aent wedi portreadu gwahanol rywogaethau anifeiliaid ac mae鈥檙 portread o lew yn gymharol gywir. O edrych ar y gnud a threfniant y gr诺p, mae gennych chi wryw goruchaf, neu weithiau cewch glymblaid o lewod gwrywol, ac yna gr诺p o fenywod sy鈥檔 perthyn i鈥檞 gilydd a鈥檌 plant hwythau. Mae hynny yn bortread cywir o鈥檙 llew, yr unig un o deulu鈥檙 cathod sydd yn gymdeithasol fel hyn.鈥
Yn 么l Dr Graeme Shannon mae yna un anghywirdeb gwbl amlwg yn y ffilm Disney, fodd bynnag. Ychwanegodd:
鈥淒ydi鈥檙 rhuo yr ydym yn ei glywed gan Mufasa a rhai o鈥檙 llewod eraill yn The Lion King ddim yn fanwl gywir. Mae gan y llew fwy o roch yddfol sydd yn uchel ac yn gallu teithio nifer o gilometrau ond nid ydyw鈥檔 swnio fel y rhuo clasurol rydan ni鈥檔 ei glywed yn y ffilm."
Wrth siarad am rai o rywogaethau eraill y ffilm, dywed Dr Shannon fod yr hienas wedi eu cam-borteadu fel sborionwyr ac fel cymeriadau drwg y ffilm. Ychwanegodd:
鈥淢ae鈥檙 hiena smotiog, sef y rhywogaeth maen nhw鈥檔 canolbwyntio arni yn y ffilm, yn ysglyfaethwr effeithiol yn ei rinwedd ei hun, gan hela 90% o鈥檌 fwyd ac nid o reidrwydd yn chwilio am sborion.鈥
鈥淢aent hefyd yn gymdeithasol iawn ac yn meddu ar allu gwybyddol ar lefel eithaf uchel, gyda鈥檙 gallu i brosesu gwybodaeth a datrys problemau. Rwy鈥檔 adnabod sawl ymchwilydd sydd yn siomedig iawn efo鈥檙 portread o hienas yn y ffilm fel unigolion milain, twp sydd yn cael eu harwain gan Scar i ladd Simba.鈥
Mae myfyrwyr sydd yn astudio yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn cael y cyfle i feddu ar brofiad ymarferol o ymddygiad anifeiliaid yn y labordy ac allan yn y gwyllt fel rhan o鈥檌 hastudiaethau israddedig ac 么l-raddedig. Ychwanegodd Dr Shannon:
鈥淢ae gennym fodiwlau ymddygiad sydd yn cynnwys asesiadau ymarferol yn edrych ar ymddygiad anifeiliaid ac yna mae gennym deithiau maes yn yr ail flwyddyn. Mae un daith faes i Uganda sydd yn canolbwyntio ar brimatoleg, felly edrych ar brimatiaid o wahanol rywogaethau ac mae ymddygiad yn allweddol i hwnnw hefyd. Mae yna hefyd daith faes i Sbaen sydd yn edrych ar ymddygiad ystod eang o rywogaethau bywyd gwyllt.鈥
鈥淵n ogystal 芒 hynny, mae gennym fodiwl traethawd hir yn y drydedd flwyddyn a dwi wedi cael myfyrwyr yn casglu data gan biod y m么r yn yr Afon Menai, a rhai myfyrwyr hyd yn oed wedi mynd allan i Dde Affrica i astudio eliffantod.鈥
Ceir mwy o fanylion am gyrsiau S诺oleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid ar wefan yr .
Bydd The Lion King yn cael ei dangos yn o Ddydd Gwener Gorffennaf 26 tan Ddydd Iau, Awst 8.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019