Towards a National Collection - 拢14.5m wedi'i ddyfarnu i drawsnewid dulliau ar-lein o archwilio casgliadau diwylliant a threftadaeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio deallusrwydd artiffisial arloesol
Bydd Towards a National Collection, sef rhaglen ymchwil bum mlynedd o hyd, yn dangos sut y gallai cynulleidfaoedd cyhoeddus ac ymchwilwyr academaidd archwilio miloedd o gasgliadau gwahanol yn y dyfodol.
Bydd y projectau'n ymchwilio ac yn datblygu technolegau newydd, gan gynnwys dysgu peirianyddol ac archifo dan arweiniad dinasyddion, i gysylltu arteffactau diwylliannol ac archifau hanesyddol y Deyrnas Unedig mewn ffyrdd newydd a thrawsnewidiol.
Bydd y pum 'Project Darganfod' yn manteisio ar botensial technolegau newydd i gael gwared ar y rhwystrau rhwng casgliadau - gan roi mynediad i’r cyhoedd a hwyluso ymchwil ar draws ystod o ffynonellau a straeon a gedwir mewn gwahanol leoliadau ffisegol. Un o'r nodau canolog yw grymuso cynulleidfaoedd a meithrin cynulleidfaoedd mwy amrywiol trwy eu cynnwys yn yr ymchwil a chreu ffyrdd newydd iddynt gyrchu a rhyngweithio â chasgliadau. Yn ogystal â mynediad ar-lein arloesol, yn sgil y projectau bydd artistiaid yn cael eu comisiynu, cymrodoriaethau cymunedol ac efelychiadau cyfrifiadurol yn cael eu creu, ac arddangosfeydd teithiol yn cael eu cynnal.
Yr ymchwiliad hwn yw'r mwyaf o'i fath i gael ei gynnal yn unrhyw le yn y byd. Mae'r project ar waith ledled y Deyrnas Unedig, ac yn cynnwys 15 prifysgol a 63 o gasgliadau treftadaeth a sefydliadau o bob maint, gyda dros 120 o ymchwilwyr a chydweithredwyr unigol.
Bydd Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol 亚洲色吧 yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r project: Unpath'd Waters: Marine and Maritime Collections in the UK.
Mae llong ymchwil y Brifysgol, y Prince Madog, wedi bod yn allweddol yn mapio gwely'r môr o amgylch môr Iwerddon, a thrwy ddefnyddio un o'r systemau sonar cydraniad uchel mwyaf datblygedig sydd ar gael, mae wedi bod yn adnabod ac yn datgelu lleoliad cannoedd o longddrylliadau, llawer ohonynt wedi eu suddo gan longau tanfor yr Almaen yn ystod y ddau Ryfel Byd.
Bydd y project morwrol hwn yn canfod ffyrdd o gofnodi a rhannu’r darganfyddiadau morwrol cyfoethog hyn o amgylch ein harfordir. Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn arwain pecyn gwaith sy'n gysylltiedig ag adnabod llongddrylliadau sydd wedi cael eu harchwilio’n ddiweddar fel rhan o broject SEACAMS2 trwy eu cysylltu ag archifau morwrol a chasgliadau mewn amgueddfeydd ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y data gwyddonol hefyd yn cyfrannu at roi gwell dealltwriaeth i ymchwilwyr ac asiantaethau treftadaeth yngl欧n ag amodau’r môr yn y lleoliadau hyn, cyfanrwydd tymor hir y llongddrylliadau a lle bo hynny'n berthnasol, datblygu strategaethau rheoli safle priodol.
Dywedodd Dr Michael Roberts a fydd yn arwain y project yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion:
“Mae cael mynediad at adnodd unigryw fel y Prince Madog, ei systemau môr-fesur a’n staff cefnogi medrus iawn, ynghyd â’r gallu i ail-archwilio data presennol at bwrpas hollol wahanol, yn rhoi cyfle unigryw i Ysgol Gwyddorau’r Eigion weithio gyda gr诺p amrywiol o sefydliadau ac ymchwilwyr o fri rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithio yn sector y celfyddydau a'r dyniaethau.
Bydd bod yn rhan o’r fenter drawsddisgyblaethol gyffrous hon yn rhoi llwyfan newydd inni ddangos sut y gall ein data morol ni fod o fudd i gynulleidfaoedd ehangach yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol a rhoi etifeddiaeth werthfawr i genedlaethau’r dyfodol”.
Gyda'i gilydd, mae'r Projectau Darganfod yn gam hanfodol yn uchelgais y Deyrnas Unedig i barhau’n un o arweinwyr ymchwil drawsddisgyblaethol, rhwng gwahanol ddisgyblaethau'r dyniaethau a rhwng y dyniaethau a meysydd eraill. Bydd Towards a National Collection yn gosod safon fyd-eang i wledydd eraill sy'n adeiladu eu casgliadau eu hunain, gan wella cydweithredu rhwng treftadaeth enwog y Deyrnas Unedig a chasgliadau cenedlaethol eraill ledled y byd.
Dywedodd Barney Sloane, Prif Ymchwilydd Historic England ar gyfer project 'Unpath'd Waters: Marine and Maritime Collections in the UK:
“Fel cenedl-wladwriaeth wedi ei lleoli ar ynys, mae ein treftadaeth forwrol yn hanfodol bwysig i bwy ydym ni. Rwy'n falch iawn o arwain un o'r pum Project Darganfod, sef Unpath'd Waters. Bydd yn trawsnewid y ffordd y gall ymchwilwyr a'r cyhoedd gael mynediad at yr amrywiaeth enfawr o gasgliadau a gedwir mewn amgueddfeydd, prifysgolion, sefydliadau treftadaeth, sefydliadau masnachol ac yn wir gan y cyhoedd. Bydd y project yn dwyn ynghyd arbenigedd yn y dyniaethau digidol, cyfrifiadureg a threftadaeth forol a bydd yn rhyddhau potensial ymchwil enfawr ein gorffennol morwrol cyffredin.”
Dywedodd yr Athro Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau:
'Mae'r foment hon yn nodi dechrau'r cam mwyaf uchelgeisiol mewn ymchwil a datblygu yr ydym erioed wedi'i wneud fel gwlad yn y man y mae diwylliant a threftadaeth yn cwrdd â thechnoleg deallusrwydd artiffisial. Mae Towards a National Collection yn ein harwain at weledigaeth hirdymor o isadeiledd ymchwil cenedlaethol newydd a fydd o fudd i gasgliadau, ymchwilwyr a chynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig.'
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2021