Teyrnged i Ray Davies
Mae Ray Davies, Cyfarwyddwr Academi Ffotoneg Cymru 亚洲色吧 (PAWB) wedi marw. Roedd yn 85 mlwydd oed ac yn dal i gymryd rhan flaenllaw mewn addysg ffotonig: gan gyd-oruchwylio tri myfyriwr prosiect blwyddyn olaf yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Prifysgol 亚洲色吧.
Ategir ei gyfraniad maith at fyd addysg gan lwybr gyrfa addysgol eithaf rhyfeddol. Ar 么l bod yn athro ffiseg yn Ysgol Ramadeg Manceinion am dros 25 mlynedd, dechreuodd weithio ym maes addysg uwch gydag Adran Ffiseg Prifysgol Salford lle arhosodd am 12 mlynedd. Yna ar wahoddiad Dave Rimmer, a oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr Technium OpTic yn Llanelwy, cychwynnodd Ray ei gysylltiad ag Academi Ffotoneg Cymru yn 2006. Yn dilyn rhai newidiadau yn yr OpTic, dechreuodd Ray ymwneud 芒 Phrifysgol 亚洲色吧 yn 2011.
Pan ofynnwyd iddo ddiffinio ystod oedran y gynulleidfa darged yr oedd yn ceisio eu goleuo am opteg a ffotoneg, dywedodd Ray '8 i 80'. Roedd yn byw ei broffes. Gellir crisialu鈥檙 modd yr oedd yn ymwneud ag ochr iau'r sbectrwm oedran hwnnw yn y sesiynau a gynhaliwyd mewn ysgolion cynradd. Gyda chloch yr ysgol wedi canu i ddynodi diwedd y dydd a grwpiau o rieni y tu allan yn aros yn eiddgar i'w plant ymddangos, doedd y disgyblion heb sylwi ar y naill beth na鈥檙 llall ac yn benderfynol o gyflawni'r dasg dan sylw. Y dasg honno oedd dylunio 'Cartref Hud' lle roedd ffotofolteg i鈥檞 ddefnyddio i'r eithaf.
Yr agwedd allweddol oedd mai gwaith y plant oedd y dyluniadau ac roedd hyn yn nodweddiadol o ddull Ray wrth weithio gyda phob gr诺p oedran. Byddai鈥檔 dechrau drwy gyflwyno cysyniad neu briodoledd o oleuni ac yna'n gofyn i'w gynulleidfa ddefnyddio'r agwedd honno ar olau i ddyfeisio dyfais newydd neu system o fudd cymdeithasol.
Roedd yr agwedd olaf yn ganolog i ddull ymarferol Ray o ddysgu ac addysgu. Un o'i brif ddiddordebau oedd defnyddio golau i gynorthwyo pobl ddall a rhannol ddall. Achos penodol o hyn oedd yr her a roddodd i gynulliad o ymchwilwyr 么l-raddedig Ewropeaidd yn ysgol haf Cymdeithas Peirianwyr Manwl Ewrop (EUSPEN) yng Ngholeg Downing, Prifysgol Caergrawnt yn 2011. Gofynnwyd i'r gr诺p ddod o hyd i fodd optegol o helpu'r rhai gwan eu golwg i fynd i fyny a lawr grisiau. Wrth iddo baratoi ei offer i deithio i Gaergrawnt, dywedodd Ray wrthyf ei fod y noson flaenorol wedi meddwl am ddwsin o ffyrdd o gyflawni ei her ei hun.
Efallai mai'r cyd-destun mwyaf ffrwythlon ar gyfer arddangos dyfeisgarwch myfyrwyr oedd Ysgol Haf yr Academi Ffotoneg (PASS) a gynhaliwyd i ddechrau yn Technium Optic ac yna am nifer o flynyddoedd yn Academi Ffotoneg Cymru Prifysgol 亚洲色吧 (PAWB) ym Mangor ei hun. Yma byddai tua 20 o bobl ifanc 16-18 oed gan fwyaf yn treulio 4 neu 5 wythnos dros yr haf yn datblygu rhai enghreifftiau syfrdanol o gymhwyso optegol: ffordd o ganfod malurion ar redfa maes awyr; telyn laser; ffordd o wella pa mor dda y mae rhywun yn golchi ei ddwylo - pethau oedd yn berthnasol i sefyllfaoedd cyfoes. Ar gyfer yr ysgol haf nid oedd cael syniad da yn ddigonol - roedd disgwyl i'r myfyrwyr adeiladu a phrofi eu prototeip. Adeiladwyd y rhain fel arfer gan ddefnyddio deunyddiau lliwgar iawn a oedd yn eu gwneud yn hynod gofiadwy. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn gwahoddwyd y myfyrwyr i wneud cyflwyniad am eu camp o flaen cynulleidfa niferus o rieni, disgyblion, academyddion a diwydianwyr. Rhwng popeth, roedd hwn yn sylfaen ardderchog i'r myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan. Roedd mwy o blant wastad eisiau dod i鈥檙 ysgolion haf na鈥檙 llefydd oedd ar gael er nad oedd unrhyw hysbysebu o gwbl. 脗i鈥檙 gair ar led, gyda myfyrwyr yn ymddangos o leoedd a chefndiroedd amrywiol.
Yn ymestyniad o'r ysgol haf, hyfforddodd Ray gyfres o dimau a gystadlodd gyda llwyddiant rhyfeddol ar bob lefel o'r gystadleuaeth Addysg Beirianneg 'Big Bang'. O blith sawl uchafbwynt mae'n werth tynnu sylw at ddigwyddiad yn NEC Birmingham a oedd yn mynd rhagddo ar y diwrnod y bu farw Steven Hawking. Mewn fflach o ddychymyg, aeth y BBC i'r NEC i geisio ymateb pobl ifanc yno. Wrth weld dyfais PAWB nodweddiadol o flaen y cyfwelai, roedd yn amlwg bod un o d卯m Ray yn cael ei gyfweld.
Ni ellid bod wedi dewis gwell cyfwelai na Kieran Dalton, un o nifer o 'raddedigion' PAWB a aeth ymlaen i Gaergrawnt (gan briodoli llawer o hyn i fentoriaeth Ray), yn ei achos yntau i astudio Ffiseg lle gwnaeth farc ar unwaith trwy gael ei osod yn bedwerydd mewn dosbarth o 600 ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf - gan adeiladu ar y gwersi gwerthfawr yr oedd wedi'u dysgu gan Ray. Fodd bynnag, nid anghofiodd Kieran y gwersi gwerthfawr a ddysgodd. Pan ddaeth yn ysgrifennydd cymdeithas Ffiseg Caergrawnt, gwahoddwyd Ray gan Kieran i ymweld 芒 Chaergrawnt, lle rhoddodd berfformiad meistrolgar yn 么l ei arfer. Ac yntau鈥檔 gredwr cryf mewn dysgu trwy brofiad, Ray oedd yr unig siaradwr i gludo a dosbarthu offer arddangos i bob un a oedd yn gwrando ar ei sgwrs, gan annog y myfyrwyr i arbrofi yno ar y pryd, gan dorri ar draws y ddarlith i egluro eu canfyddiadau.
Wrth siarad am berfformio, gellid tynnu sylw at gydweithio rhwng Ray 芒 chwmni dawns a arweiniodd at berfformiad gyda chymorth golau yn Pontio, 亚洲色吧. Hyfforddodd Ray d卯m o ddisgyblion ysgolion cynradd ar gyfer perfformiad gydag offerynnau oedd yn gweithio gyda golau yng Ng诺yl Gerdd Llanelwy. Gosododd ei stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys M么n a chyflwynodd opteg a ffotoneg i gynulleidfa hynod eang. Siaradai 芒 grwpiau o bob oed ledled Cymru a Lloegr. Yn fwy diweddar, bu Ray yn gysylltiedig 芒 phrosiect y 鈥楶hoto-Electric Light Orchestra鈥 (PELO) sy'n un o gynlluniau gwobr 鈥業ngeneous鈥 yr Academi Frenhinol Peirianneg ar gyfer prosiectau sy'n codi pontydd rhwng y cyhoedd, peirianwyr a pheirianneg gan ddarparu sgiliau a chyfleoedd i beirianwyr ymgysylltu 芒'r cyhoedd. Mae prosiect PELO, dan arweiniad y Dr Daniel Roberts o Brifysgol 亚洲色吧, yn ysbrydoli plant rhwng 9-13 oed yn y rhanbarth i ddylunio eu hofferynnau cerdd eu hunain gan ddefnyddio sgiliau codio a ffotoneg, ac yna, i greu sg么r gerddoriaeth a g芒i ei pherfformio yn Pontio, Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi鈥檙 Brifysgol yn ystod cam olaf y prosiect yn 2020. Roedd Ray bob amser yn hoff iawn o'r prosiect, gan ddarparu hyfforddiant Ffotoneg i'r peirianwyr a fyddai allan yn cyflwyno sesiynau i鈥檙 ysgolion a oedd yn cymryd rhan. Roedd Ray wedi dweud erioed y byddai wrth ei fodd yn gweld 'perfformiad' o brosiectau Ffotoneg ar y llwyfan o flaen cynulleidfa fyw, a dyna oedd y symbyliad i鈥檙 prosiect PELO. Oherwydd y pandemig byd-eang annisgwyl a ddilynodd, ni lwyddasom i drefnu鈥檙 perfformiad hwn erioed, ond pan fo鈥檔 bosibl, bydd PELO yn llwyfannu鈥檙 perfformiad hwn er cof am Ray.
Pan gynhaliwyd cynhadledd Addysg a Hyfforddiant SPIE/OSA mewn Opteg a Ffotoneg (ETOP) yn Technium OpTIC yn 2009 achubodd Ray ar bob cyfle i ddangos ei ddull i gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd. Roedd ymgysylltu pellach ag ETOP yn cynnwys y papur 鈥淕etting Light to Work - photonics up-skilling for industry鈥 a gyflwynwyd yn ETOP, Oporto, Portiwgal yn 2013. Ar 么l chwarae rhan weithredol ym Mlwyddyn Ryngwladol Goleuni鈥檙 Cenhedloedd Unedig, cyflwynwyd amlinelliad o'r gweithgareddau hynny yn y papur 鈥淧ublic Engagement with Photonics: International Year of Light Celebratory Event in Wales鈥, yn ETOP'15, Bordeaux, Ffrainc yn 2015. Disgrifiwyd ymhelaethiad pellach ar y gweithgareddau hynny yn y cyflwyniad 鈥淚nspiration, Imagination and Implementation: International Year of Light Activities of the Photonics Academy of Wales@ 亚洲色吧 (PAWB)鈥 yng Nghynhadledd Opteg a Ffotoneg SPIE a gynhaliwyd yn San Diego, CA, UDA, yn 2016
Weithiau byddai myfyrwyr yn cael eu hanfon at Ray yn gwbl anfoddog ond byddai wastad yn canfod ffordd o ennyn eu brwdfrydedd. Mewn un achos rhybuddiwyd Ray gan ddarlithydd coleg fod myfyriwr penodol yn aflonyddgar iawn ac y dylid fod yn gadarn iawn. Canfu Ray fod y myfyriwr mewn gwirionedd yn hynod ddeheuig pan roddwyd tasg ymarferol i鈥檞 gwblhau a disgleiriodd y myfyriwr o dan adain Ray.
Efallai bod enghraifft ragorol o ddylanwad cadarnhaol Ray ar unigolyn i鈥檞 weld pan roedd yntau鈥檔 gweithio ym Mhrifysgol Salford. Nid oedd hi鈥檔 bosib i ferch Jay Smith, technegydd yn y brifysgol, fynd ar brofiad gwaith fel y bwriadwyd. Cytunodd Ray i ddarparu cyfnod amgen o brofiad gwaith. Roedd hi a Ray yn cyd-dynnu鈥檔 wych o鈥檙 diwrnod cyntaf un a bu iddi fwynha鈥檙 project yn fawr. Daeth yn argyhoeddedig drwy hyn bod ei dyfodol ym myd Ffiseg a dilynodd MPhys ac yna ennill PhD ym Manceinion. Cryn dipyn o werth ychwanegol o broject profiad gwaith. Nawr mae hi'n holograffydd galwedigaethol wrth ei gwaith a fyddai wedi bod wrth fodd calon Ray. Tybed beth fyddai trywydd ei gyrfa pe na bai Jay Smith wedi adnabod Ray.
Cymerwyd Ray oddi arnom yn annisgwyl ac annhymig. Ar 么l ymroi llawer o'i fywyd i addysgu sbectrwm eang iawn o fyfyrwyr yngl欧n 芒 pha mor gyffrous yw opteg a ffotoneg, a chymaint y cyfleoedd sy鈥檔 deillio ohonyn nhw, gobeithio y bydd modd sicrhau gwaddol cadarn ar ei 么l.
Yr Athro Alan Shore
Cadeirydd, Academi Ffotoneg Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2021