Rhyfeddwch yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn paratoi i ddathlu a hyrwyddo digwyddiad diwylliannol nodedig yng Nghymru, sef pedwerydd Gŵyl Amgueddfeydd Cymru rhwng 25 Hydref a ‘r 5 o Dachwedd 2017.
Bydd dros 100 o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar gael i’r teulu oll, o nosweithiau hwyl , sgyrsiau, teithiau cerdded, helfeydd a sesiynau trin a thrafod i gloddio archeolegol, ailactio, gwisgo gwahanol ddillad, te parti a gweithgareddau yn seiliedig ar Nos Galan.
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal diwrnod agored ar y Dydd Sadwrn, 4 o Dachwedd fel rhan o’r ŵyl. Thema’r dydd yw ‘Anifeiliaid mewn Mytholeg Cymreig’. Gan ddefnyddio sbesimenau o’r Amgueddfa fel ysbrydoliaeth, cynhelir gweithdai ar ddarlunio o’r sbesimenau i greu gludweithiau, argraffiadau, testun, a darluniadau dychmygol hefo’r arlunydd Jŵls Williams.
Mae’r gweithgareddau yma’n addas i blant 6-12 mlwydd oed. Cynhelir dau sesiwn 11.00am - 1.00pmar gyfer oedran 6-8, a 1.30pm – 3.30pm ar gyfer oedran 9-12. Mae’n angenrheidiol archebu lle ymlaen llaw drwy ffonio 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.llyw.cymru
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017