Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol S锚r Cymru ar gyfer Carbon isel, Ynni a鈥檙 Amgylchedd
Penodi Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol S锚r Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd dan ofal Llywodraeth Cymru
Penodwyd yr Athro David Thomas i arwain rhwydwaith ymchwil genedlaethol newydd i feithrin ac adeiladu ar yr ymchwil o ansawdd uchel yn y gwyddorau amgylcheddol a naturiol sy'n cael ei gwneud yng Nghymru.
Bydd y rhwydwaith newydd hon yn canolbwyntio ar weithio yn y meysydd lle mae gwyddorau amgylcheddol a biolegol yn cyfarfod a bydd yn creu canolbwynt cenedlaethol cydlynol i'r gwyddorau hynny yng Nghymru. Mae'r rhwydwaith yn adeiladu ar yr ymchwil o safon ragorol yn rhyngwladol sydd eisoes yn digwydd y gymuned ymchwil yng Nghymru a bydd yn cyflawni gwaith ar sail y rhagoriaeth honno ac yn adeiladu arni er mwyn gosod Cymru mewn safle blaenllaw yn y byd yn ei dull o reoli adnoddau naturiol.
Mae'r rhwydwaith wedi derbyn cyllid o 拢7m o raglen S锚r Cymru Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei harwain ar y cyd gan brifysgolion 亚洲色吧 ac Aberystwyth o dan eu Cynghrair Strategol.
Nod Rhaglen S锚r Cymru yw gwella ymchwil yng Nghymru trwy raglen gyllido pum mlynedd er mwyn denu a chefnogi ymchwilwyr gwyddoniaeth gyda'r goreuon yn y byd a'u timau, er mwyn ehangu gallu ymchwil at y dyfodol. Bwriedir hefyd greu rhwydweithiau o ganolfannau lle mae ymchwil ragorol eisoes yn digwydd a thrwy hynny gyfrannu at gynyddu si芒r Cymru o gyllid Cyngor Ymchwil y DU i 5% o'r 3.4% presennol. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo hyd at 拢50 miliwn i raglen S锚r Cymru, sy'n cynnwys 拢15 miliwn oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW). Amcan y rhaglen yw gwella a datblygu鈥檙y gallu ymchwil yng Nghymru. Ei nod yw denu ysgolheigion blaenllaw a'u timau i Gymru.
Bydd hefyd yn cefnogi sefydlu Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol gydweithredol ym mhob un o dri maes ymchwil yr Her Fawr a nodwyd yn y strategaeth 'Gwyddoniaeth i Gymru'; peirianneg uwch a deunyddiau; gwyddorau bywyd ac iechyd; carbon isel, ynni a'r amgylchedd.
Amcan y rhaglen yw gwella gallu ymchwil o'r ansawdd uchaf yng Nghymru ac adeiladu rhagoriaeth yn y prifysgolion yng Nghymru ac mewn cyrff ymchwil partner allweddol: Canolfan Ecoleg a Hydroleg NERC, y Swyddfa Feteoroleg ac Arolwg Daeareg Prydain.
Yr Athro David Thomas sy'n dal cadair Bioleg y M么r ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Mae ganddo gefndir academaidd gwych ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn rhychwantu gwyddorau m么r a thir gan gynnwys ystod eang o amodau hinsawdd, gan gynnwys amgylcheddau'r ddau begwn. Mae newydd ddychwelyd i'r DU ar 么l gadael swydd hynod bwysig yn y Ffindir ac mae'r prifysgolion wrth eu bodd ei fod wedi gallu dychwelyd i Gymru i gymryd y swydd hon.
Mae prifysgolion 亚洲色吧 ac Aberystwyth wedi creu cynllun cydweithredol cynhwysfawr yn y gwyddorau naturiol o dan eu cynghrair Biowyddoniaeth, yr Amgylchedd ac Amaeth (BEAA). Mae'r cynghrair ehangach hwn wedi golygu ein bod mewn lle gwych i arwain yn y maes gwyddoniaeth hwn ar draws prifysgolion Cymru. Cr毛wyd Coleg Gwyddorau Naturiol 亚洲色吧 ac IBERS Aberystwyth yn benodol er mwyn dod 芒 thimau amlddisgyblaeth o wyddonwyr amgylcheddol at ei gilydd ac mae ein llwyddiant wrth ennill yr arian hwn yn dangos budd y strategaeth honno.
Fel enghraifft o'r potensial hwn mae'r Ganolfan Ymchwil i Ddalgylchoedd a'r Arfordir, canolfan ymchwil ar y cyd rhwng 亚洲色吧 ac Aberystwyth eisoes yn cynnal project cydweithredol pwysig gyda'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ym Mangor gan ddefnyddio system Afon Conwy fel safle arddangos i asesu maetholion a phathogenau sy'n cael eu trosglwyddo o ddalgylch yr afon i'r parth arfordirol. Mae hon yn esiampl wych o'r wyddoniaeth 'gydlynol' y bydd y rhwydwaith yn mynd i'r afael 芒 hi.
Meddai Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: "Mae'n dda gennyf weld bod yr Athro David Thomas wedi ei benodi i arwain Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol S锚r Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd. Bydd yn helpu i adeiladu ar beth o'r gwaith ardderchog sy'n mynd ymlaen yn y maes hwn yng Nghymru. 鈥淢ae'r penodiad hwn a dechrau'r rhwydwaith hon yn gam mawr pwysig arall ymlaen yn ein rhaglen S锚r Cymru i ddatblygu gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru."
Meddai'r Athro Julie Williams, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru
"Rydw i'n falch dros ben bod David wedi cytuno i arwain Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol S锚r Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd. Bydd ymchwil y Rhwydwaith yn mynd i'r afael 芒 rhai o'r heriau dwysaf sy'n wynebu ein cymdeithas heddiw ac mae David yn addas iawn i'r gwaith hwn yn enwedig o gofio am ei brofiad yn rhedeg timau ymchwil a'i gyfoeth o brofiad a gwybodaeth mewn ystod o feysydd ymchwil sy'n rhychwantu gwyddorau tir a m么r yn ogystal ag amodau hinsawdd.
Meddai鈥檙 Athro David Thomas: "Bydd y rhwydwaith yn canolbwyntio ymdrech ymchwil Cymru ar adnoddau d诺r, bwyd ac ynni - maes allweddol bwysig a nodwyd gan brif wyddonwyr y llywodraeth a'r gymuned ymchwil. Y weledigaeth yw datblygu dull newydd ar sail systemau rheoli adnoddau naturiol, sy'n ymgysylltu'n agos ag anghenion cymdeithas ac sy'n bwydo'n uniongyrchol i'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisi. Dylai allbynnau gwyddonol y rhwydwaith greu mwy o gyfleoedd masnachol i fusnesau yng Nghymru a darparu gwybodaeth hanfodol bwysig i wneuthurwyr polisi a llywodraeth yn lleol a chenedlaethol."
Meddai'r Athro Colin Jago, Deon Coleg Gwyddorau Naturiol Prifysgol 亚洲色吧: "Prif gymhelliant gwaith y Rhwydwaith yw sut i gyfuno'r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol fel bod sicrwydd ynni, d诺r a bwyd yn parhau a bod y gwasanaethau ecosystem eraill a ddarperir gan y byd naturiol yn cael eu cynnal hefyd.
Bydd Rhwydwaith Ymchwil Genedlaethol S锚r Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd yn canolbwyntio felly ar liniaru effeithiau a chydweithio manteisiol wrth ddarparu gwahanol wasanaethau ecosystem ar y tir ac yn y parth arfordirol, gan gynnwys maeth, acwafeithrin, iechyd a bioamrywiaeth ecosystemau. Mae gofyn am ddull gweithio newydd lle bydd gwyddonwyr o wahanol ddisgyblaethau a sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd, a'r ffordd orau o drefnu hyn yw trwy rwydwaith genedlaethol."
"Bydd defnydd llawn yn cael ei wneud o'r newid sylweddol sydd wedi bod mewn gallu cyfrifiadurol sydd wedi dod yn sgil cyfrifiaduron newydd pwerus a rhwydweithiau cyfrifiadura yn y cwmwl. Bydd y gallu hwn yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf i ddatblygu modelau rhifyddol newydd sy'n mynd i'r afael 芒 materion amgylcheddol ar y raddfa y mae problemau newid yn yr hinsawdd yn gofyn amdani".
Meddai'r Athro Chris Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Elfen bwysig yn y strategaeth ymchwil amgylcheddol newydd yng Nghymru yw datblygu'r rhwydweithiau deallusol a rhesymegol i hyrwyddo dull 'Labordy Cymru' o ymdrin 芒 chynaliadwyedd. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu amgylchedd profi unigryw fydd yn cyfuno graddfeydd o enynnau i dirwedd, ac yn cysylltu ar draws parthau aer-tir-m么r.
Bydd y rhwydwaith yn penodi timau o wyddonwyr medrus ar ddechrau ar eu gyrfa a myfyrwyr doethurol o safon uchel i ddatblygu projectau ymchwil a gwyddoniaeth gymhwysol sylfaenol newydd gyda'r nod penodol o ddod 芒 gwyddor amgylcheddol yng Nghymru i'r amlwg ac ennill mwy o gyllid ymchwil o ffynonellau yn y DU a'r UE.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2014