Rhwydwaith o wirfoddolwyr i weithio ar lannau o amgylch gwledydd Prydain yn yr haf eleni
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau arbennig y mis nesaf gydag aelodau o'r cyhoedd yn dod ynghyd i lunio darlun manylach o amrywiaeth bywyd môr o amgylch arfordir gwledydd Prydain.
Bydd gwyddonwyr yn gweithio gyda byddin hyfforddedig o 'wyddonwyr lleyg' yn ystod penwythnos "CoCoast Unite" a gynhelir rhwng Diwrnod Cefnfor y Byd, ddydd Iau 8 Mehefin a dydd Sul 11 Mehefin mewn lleoliadau ledled gwledydd Prydain. Bydd yr alwad hon i'r gad yn casglu gwybodaeth hanfodol am amrywiaeth a helaethrwydd rhywogaethau rhynglanwol sy'n byw ar ein glannau môr creigiog. Traeth Moelfre yn un o'r lleoliadau ledled gogledd Cymru a gwledydd Prydain lle bydd aelodau o'r cyhoedd yn cymryd rhan mewn project "gwyddoniaeth leyg" er mwyn creu darlun manylach o amrywiaeth bywyd môr o amgylch arfordir gwledydd Prydain.
Mae'r parth rhynglanwol - yr ardal rhwng y môr a'r tir - yn amgylchedd deinamig iawn gan y caiff ei effeithio gan drai a llif y llanw ddwywaith y dydd.
Gall cynefinoedd yn y parth hwn amrywio o byllau glan môr i draethellau i draethau tywodlyd, sy'n golygu bod llawer o fathau o anifeiliaid môr i'w cael yno'n aml, o sêr môr a llygaid meheryn i grancod a chregyn gleision - yn ogystal â gwahanol fathau o adar y môr a, mewn rhai lleoliadau, mamaliaid y môr.
Cynhelir y digwyddiadau fel rhan o'r project tair blynedd Capturing our Coast (CoCoast), dan arweiniad Prifysgol Newcastle a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Mae partneriaeth CoCoast yn cynnwys Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ynghÅ·d â prifysgolion Hull a Portsmouth, y Scottish Association for Marine Science, y Marine Biological Association a'r Marine Conservation Society, Earthwatch Institute, y Natural History Museum, Northumberland Wildlife Trust, y Centre for Environment, Fisheries and Aquaculture Science (Cefas), y Coastal Partnerships Network a'r North West Coastal Forum.
Meddai Dr Jacqui Pocklington, Cydlynydd Cenedlaethol CoCoast ym Mhrifysgol Newcastle: "Mae'r parth rhynglanwol yn amgylchedd o eithafion ac yn gynefin pwysig oherwydd amrywiaeth y rhywogaethau sy'n byw yno. Mae ein gwirfoddolwyr CoCoast yn ein helpu i ddatblygu sylfaen y gallwn ei defnyddio i olrhain sut mae rhywogaethau yn newid dros amser“.
Lansiwyd CoCoast y llynedd ac mae miloedd o wirfoddolwyr eisoes wedi ymuno â'r project, gan ddysgu am fywyd y môr yng ngwledydd Prydain a chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lenwi bylchau yn y wybodaeth ynglŷn â sut mae organebau a chynefinoedd arfordirol morol yn ymateb i'r cynnydd yn nhymheredd y môr a ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang.
Cynhelir penwythnos "CoCoast Unite" rhwng dydd Iau 8 Mehefin a dydd Sul 11 Mehefin, gyda digwyddiadau ledled gwledydd Prydain. Gall gwirfoddolwyr hyfforddedig CoCoast gofrestru i ymuno â digwyddiad penodol neu gallent wneud arolwg ar lan y môr o'u dewis. Er mwyn rhannu gwybodaeth am effaith eu hymdrechion, gall gwirfoddolwyr anfon lluniau ohonynt eu hunain wrthi'n gwneud arolwg trwy e-bost neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CoCoastUnite.
Gall bobl gofrestru i gymryd rhan yn y project awyr agored/bywyd gwyllt syml hwn trwy fynd i
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2017