Rhoi amlygrwydd i gyfleoedd gyrfa ym maes Gwyddorau M么r ym Mhrifysgol 亚洲色吧
Cynhaliodd Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol 亚洲色吧 ei ffair yrfaoedd flynyddol i dynnu sylw at y potensial enfawr o swyddi yn y sector m么r, un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn economi'r Deyrnas Unedig.
Daeth tuag ugain o sefydliadau sydd 芒 diddordeb yn y sector m么r ynghyd yn y ffair i dynnu sylw at y cynnydd mewn cyfleoedd swyddi yn y sector hwn o'r economi, sy'n ehangu.
Meddai'r trefnydd Dr Katrien van Landeghem:
"Mae鈥檙 cefnfor yn gorchuddio 71% o arwyneb y ddaear. Mae'n cynnwys adnoddau helaeth sy'n aml heb eu cyffwrdd yn cynnwys bwyd, ynni a deunyddiau. Wrth i boblogaeth y byd barhau i dyfu, a ninnau eisiau dyfodol mwy cynaliadwy, mae'r cefnforoedd yn cynnig llawer o gyfleoedd newydd sy'n datblygu.
"Gobeithiwn fod ein ffair gyrfaoedd yn galluogi pobl i weld y cyfleoedd gwaith sy'n datblygu ar hyn o bryd wrth i'r sector m么r dyfu. Roedd y diwydiannau a oedd yn bresennol yn cynnwys rhai sy'n ceisio cwrdd 芒 gofynion ynni cynyddol, gan gynnwys datblygwyr ynni adnewyddadwy o'r m么r, a dyframaethu cynaliadwy, yn ogystal ag amryw o gwmn茂au sy'n darparu gwasanaethau arolwg a gwasanaethau eraill i ddiwydiannau'n ymwneud 芒'r m么r."
Mae Prifysgol 亚洲色吧 yn ystyried bod sgiliau cyflogadwyedd ei myfyrwyr yn bwysig iawn ac mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion yn cynnal y ffair yrfaoedd bob blwyddyn fel rhan o fodiwlau sgiliau ail flwyddyn, lle mae myfyrwyr yn mynd i ddarlithoedd ar ysgrifennu CV a sgiliau mewn cyfweliad.
Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mangor yw un o鈥檙 adrannau gwyddorau m么r mwyaf yn Ewrop gyda dros 600 o fyfyrwyr. Yn yr asesiad ymchwil (REF) diwethaf barnwyd bod 89% o'i hymchwil naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2018